Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1878 (Cy.187)

      Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090535 0. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1878 (Cy.187)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 

Mae Cynlliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifenydd Gwladol gan adrannau 59, 60, 61(1) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1], ac sydd bellach yn aferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 1 Awst 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Gorchymyn 1995" yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995[3] ac mae unrhyw gyfeiriad at Ran 24 yn gyfeiriad at y rhan o Atodlen 2 i Orchymyn 1995 sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Diwygiadau i Ran 24: Datblygu gan weithredwyr systemau cod telathrebu
     3. Yn lle Rhan 24 rhowch y testun a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Diddymu a darpariaethau trosiannol
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir drwy hyn erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) 1998[4] ac erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) 1999[5], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

    (2) Nid yw'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i Orchymyn 1995 gan y Gorchymyn hwn yn gymwys ar gyfer ceisiadau am ddyfarniad ynghylch a yw'n ofynnol i gael cymeradwyaeth o flaen llaw gan yr awdurdod cynllunio lleol am leoliad ac ymddangosiad datblygiad a wnaed cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



ATODLEN
Erthygl 3







NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, mewn perthynas â hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer rhai ffurfiau ar ddatblygu telathrebu. Lle bo'r hawliau hynny yn gymwys nid oes angen cais penodol am ganiatâd cynllunio.

Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen yn amnewid Rhan 24 o Atodlen 2 i Orchymyn 1995 â fersiwn sydd wedi'i ddiwygio a'i gydgrynhoi, sy'n gymwys i Gymru, ac yn rhoi'r hawliau datblygu hynny a ganiateir.

Y prif newidiadau yw:

    (a) cyflwyno (Amod A.3(4)(b)) gofyniad bod gyda phob cais i awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu sy'n cynnwys adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu er mwyn gweithredu system telathrebu ddatganiad ysgrifenedig bod pob cyfarpar a gosodiad y mae'r cais yn perthyn iddynt wedi'u cynllunio fel y byddant, ar ôl cael eu hadeiladu neu'u gosod yn gweithio yn y fath fodd ag i gydymffurfio'n llawn â gofynion canllawiau'r Comisiwn Cydwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydredd Anïoneiddio ar ddatguddio'r cyhoedd i amlderau radio; a

    (b) cyflwyno gweithdrefn ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo o flaen llaw.

Mae'r weithdrefn ddiwygiedig ar gyfer cymeradwyo o flaen llaw yn gymwys i ddatblygu ar dir erthygl 1(5) neu ar dir sy'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu sydd o fewn safle o'r fath, neu lle bo'r datblygu yn cynnwys adeiladu, gosod, newid neu amnewid: mast; neu antena ar adeilad neu strwythur lle byddai'r teimlydd yn 4 metr neu fwy yn uwch na'r adeilad neu strwythur; neu blwch ffôn cyhoeddus; neu amgaead cyfarpar radio y mae ei gyfaint yn fwy na 2.5 metr ciwbig; neu ddatblygu sy'n atodol i amgaead cyfarpar radio.

Mae'n ofynnol i'r datblygwr hysbysu perchennog y tir y mae'r datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef ac unrhyw denant amaethyddol, cyn gwneud cais am gymeradwyaeth o flaen llaw.

Mae'n ofynnol, hefyd, i'r awdurdod cynllunio lleol, ar ôl i gais o'r fath ddod i law, ymgynghori â phersonau ac awdurdodau penodol, i ddyroddi hysbysiadau penodol ac i ystyried, pan fyddant yn dyfarnu ar y cais, y sylwadau a gafwyd ganddynt.

Estynnir y cyfnod pryd y mae'n rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol ddyfarnu ar y cais o 28 diwrnod i 56 diwrnod. Os methant wneud hynny cyn diwedd y cyfnod hwnnw (neu os dyfarnant nad oes angen cymeradwyaeth neu y dylid rhoi cymeradwyaeth) gall y datblygu fynd yn ei flaen.

Mae mân newidiadau eraill yn cael eu gwneud i Ran 24, a hynny'n bennaf at bwrpas eglurdeb.


Notes:

[1] 1990 p.8.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60, 61(1) a 337(7), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672 ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S.1995/418; O.S.1998/462 ac O.S.1999/1661 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

[4] O.S.1998/462.back

[5] O.S.1999/1661.back

[6] 1998 p.38.back

[7] 1989 c. 22.back

[8] 1999/519/ECback

[9] 1981 c. 69.back

[10] S.I. 1995/419.back

[11] 1984 c. 12; section 10 was amended by S.I. 1997/2930.back



English version



ISBN 0 11090535 0


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 5 August 2002