Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090536 9. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 61(1), 65, 69, 71, 73(3), 74, 77(4), 78, 79(4), 188, 193, 196(4) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a pharagraffau 5, 6, 7(6) ac 8(6) o Atodlen 1 iddi[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 1 Awst 2002. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Gorchymyn 1995" yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995[3] ac mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yng Ngorchymyn 1995. Diwygio Gorchymyn 1995 3. Mewnosodwch yng Ngorchymyn 1995, ar ôl erthygl 5 -
5A. - (1) This article applies to any application for planning permission which:
(b) relates to development which involves the construction or installation of one or more antennas for the purpose of operating a telecommunications system.
(2) For the purposes of this Article -
(3) An application to which this Article applies must be accompanied by a written declaration that the equipment and installation to which the application relates is so designed that it will, when constructed or installed, operate, having regard to its location and the manner in which it has been constructed or installed, in full compliance with the requirements of the radio frequency public exposure guidelines of the International Commission on Non-ionising Radiation Protection, as expressed in EU Council recommendation of 12 July 1999[5] on the limitation of exposure of the general public to electromagnetic fields (0 Hz to 300 GHz)."
Darpariaethau trosiannol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 mewn perthynas â Chymru er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol bod datganiad ysgrifenedig bod y cyfarpar a gosodiad y mae'r cais yn perthyn iddynt wedi'u cynllunio fel y byddant, ar ôl cael eu hadeiladu neu'u hosod, yn gweithio yn y fath fodd ag i gydymffurfio'n llawn â gofynion canllawiau'r Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydredd Anïoneiddio ar ddatguddio'r cyhoedd i amleddau radio yn cyd-fynd â phob cais i awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu sy'n cynnwys adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu er mwyn gweithredu system delathrebu. Mae llawer ffurf ar ddatblygu sy'n perthyn i gyfarpar telathrebu yn mwynhau hawliau datblygu a ganiateir o dan Ran 24 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Trwy ddiwygiad i'r Gorchymyn hwnnw, mae gofyniad yn cael ei gyflwyno hefyd fod datganiad tebyg yn cyd-fynd â cheisiadau i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru am ddyfarniadau ynghylch a yw cymeradwyaeth o flaen llaw yn ofynnol o dan y Gorchymyn hwnnw lle bo gofyn am gais felly mewn cysylltiad â datblygu sy'n ymwneud ag adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu. Notes: [1] 1990 p.8.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 61(1), 65, 69, 71, 73(3), 74, 77(4), 78, 79(4), 188, 193, 196(4) a 333(7), a pharagraffau 5, 6, 7(6) ac 8(6) o Atodlen 1 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672 ac Atodlen 1 iddo.back [4] 1984 p. 12; diwygiwyd adran 10 gan O.S. 1997/2930.back
ISBN 0 11090536 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 5 August 2002 |