Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1876 (Cy.185)

      Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090537 7. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1876 (Cy.185)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 1989" ("the 1989 Regulations") yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau a Cheisiadau Tybiedig) 1989[
3].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Ffioedd ar gyfer rhai ceisiadau o dan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir
     2.  - (1) Yn rheoliad 11A o Reoliadau 1989[4], yn lle paragraff (1), rhowch - 

        " (1) Where an application is made to a local planning authority for their determination as to whether the prior approval of the authority will be required in relation to development under Schedule 2 to the General Permitted Development Order a fee shall be paid to the authority of the following amounts - 

      (a) for an application under Parts 6, 7 or 31, £35; and

      (b) for an application under Part 24, £190".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r ffi sydd i'w dalu am wneud cais i awdurdod cynllunio lleol am ddyfarniad a fydd gofyn am gydsyniad o flaen llaw o dan Ran 24 o Atodlen 2 i Orchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995 ar gyfer datblygiad telathrebu arfaethedig.

Cynyddir y ffi o £35 i £190 er mwyn adlewyrchu'r cynnydd yn y gofynion rhybuddio ac ymgynghori a osoidir ar awdurdodau cynllunio lleol mewn perthynas â datblygiadau o'r fath gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002, O.S. 2002/1878 (Cy.187).


Notes:

[1] 1990 p.8: diwygiwyd adran 303 gan baragraff 10 o Atodlen 13 i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), a chan adran 6(6) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991(p.34). Gweler adran 336(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i gael y diffiniad o "prescribed".back

[2] Trosglwyddwyd cyfrifoldebau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 303, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672 ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S.1989/193; 1991/2735, 1992/1817, 1993/3170 a 1997/37 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

[4] Mewnosodwyd Rheoliad 11A gan baragraff 3 o Atodlen 3 i O.S.1991/2735 ac fe'i hamnewidiwyd gan reoliad 4 o O.S.1992/3052.back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090537 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 5 August 2002