Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1875 (Cy.184)

      Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11 090534 2. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1875 (Cy.184)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 12 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2)(f) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 12 Awst 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987
    
2.  - (1) Mae'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987[3] yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn Erthygl 3 (dosbarthiadau defnydd) mewnosodwch:

        " (7) Where a building or other land is situated in Wales, class B8 (storage or distribution) does not include use of that building or land for the storage of, or as a distribution centre for, radioactive material or radioactive waste.

        (8) For the purpose of paragraph (7), "radioactive material" and "radioactive waste" have the meanings assigned to those terms in the Radioactive Substances Act 1993[4]."



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 ("y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd"), sy'n dynodi dosbarthiadau at ddibenion adran 55(2)(f) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Nid yw newid defnydd o adeilad neu dir arall yn golygu datblygu at ddibenion y Ddeddf os yw'r defnydd newydd a'r defnydd blaenorol, ill dau, o fewn yr un dosbarth penodedig.

Y diwygiad i'r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd yw eithrio o Ddosbarth B8 (Storio neu ddosbarthu) ddefnydd o adeilad neu dir arall ar gyfer storio neu fel canolfan ddosbarthu ar gyfer deunydd ymbelydrol neu wastraff ymbelydrol (fel y'u diffinnir yn Neddf Sylweddau Ymbelydrol 1993), os yw'r adeilad neu'r tir arall wedi ei leoli yng Nghymru.


Notes:

[1] 1990 p.8.back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S.1987/764. Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/1567, O.S. 1992/610, O.S. 1992/657, O.S. 1994/724, O.S. 1995/297 ac O.S. 1999/293.back

[4] 1993 p.12.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090534 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 6 August 2002