Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1855 (Cy.179)

      Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090529 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1855 (Cy.179)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 16 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 23A(3) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1] a pharagraff 19B(3) o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001
    
2. Mae Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001[2] yn cael eu diwygio fel a ganlyn - 

    (a) yn Rheoliad 3 (Plant cymwys), hepgorwch baragraff (2)(b),

    (b) yn Rheoliad 4 (Plant perthnasol) - 

      (i) yn lle paragraff (4) rhowch - 

        " (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), nid yw unrhyw blentyn sydd wedi byw gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf ("lleoliad teuluol") am gyfnod parhaus o chwe mis neu fwy i fod yn blentyn perthnasol er ei fod yn dod o fewn adran 23A(2).";

      (ii) ar ôl paragraff (5) mewnosodwch - 

        " (6) Os

      (a) yw lleoliad teuluol o fewn ystyr paragraff (4) wedi torri lawr ac mae'r plentyn yn peidio â byw gyda'r person o dan sylw, a

      (b) yw cyfnod o chwe mis wedi mynd heibio ers dechrau'r lleoliad teuluol,

    mae'r plentyn i'w drin fel plentyn perthnasol.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001"). Mae Rheoliadau 2001 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth i blant a phobl ifanc 16 oed a throsodd, sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi derbyn gofal, gan awdurdod lleol.

Mae Rheoliad 3 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn i blant sydd wedi'u lleoli gyda rhiant, gyda pherson y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu gyda rhywun sy'n meddu ar orchymyn preswylio o'i blaid o dan adran 23(4) o Ddeddf Plant 1989 ac sydd yn destun gorchymyn gofal, fod yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr awdurdod lleol.

Mae Rheoliad 4 o Reoliadau 2001 yn cael ei ddiwygio er mwyn i blant sydd wedi treulio 6 mis neu fwy yn byw gyda rhiant, gyda pherson y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu gyda rhywun sy'n meddu ar orchymyn preswylio o'i blaid, i ddal i fod yn gymwys i dderbyn cymorth gan yr awdurdod lleol os yw'r lleoliad yn torri lawr wedyn.


Notes:

[1] 1989 p.41. Mewnosodwyd adran 23A(3) gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 8(7) o Ddeddf 2000. Diffinnir ystyr "prescribed" yn adran 105(1) o Ddeddf Plant 1989.back

[2] O.S. 2001/2189.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090529 6


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 1 August 2002