Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090531 8. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), a grybwyllir uchod drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol: Enw a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2002. Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 2. Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001[3] yn unol â rheoliadau 3 i 18 o'r Rheoliadau hyn. 3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (Diffiniadau) -
(c) mewnosodwch y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o "ceisydd" ("claimant")
mewn perthynas â'r Alban, Cynllun Cymorth Tir Llai Ffafriol; a mewn perthynas â Gogoledd Iwerddon, Lwfans Iawndal Tir Llai Ffafriol;";
(d) mewnosodwch y diffiniadau canlynol ar ôl y diffiniad o "person awdurdodedig"
(f) mewnosodwch y diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o "Rheoliad y Cyngor 3508/92"
n;(b) 1.67 heffer o dan 24 mis oed; (c) 6.67 mamog;";
4.
Mewnosodwch y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 2 -
er i wneud taliadau2A. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â blwyddyn gynllun, yn gwneud taliad Tir Mynydd sydd wedi'i gyfrifo yn unol â'r Atodlen â'r i geiswyr cymwys ynglyn â'u tir cymwys.".
5.
Rhowch y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys) -
3. - (1) Bydd ceiswyr yn gymwys i gael taliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun ar yr amod bod -
(b) y ceisydd wedi cyflwyno cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau ohonynt mewn perthynas â'r flwyddyn y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd; ac (c) y ceisydd wedi defnyddio arferion ffermio da arferol sy'n cyd-fynd â'r angen i ddiogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad, yn benodol drwy ffermio cynaliadwy; a (ch) y ceisydd wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig y bydd yn ffermio o leiaf 3 hectar o dir sydd naill ai'n dir cymwys neu'n dir llai ffafriol sy'n perthyn a pharhau i wneud hynny am gyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad y taliad iawndal cyntaf ac nad yw'r ceisydd hwnnw'n torri'r ymrwymiad hwnnw ar ddyddiad y taliad.
(2) Y canlynol yw'r amodau -
(b) os nad yw'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano sy'n gorwedd o fewn y tir llai ffafriol yn llai na 1 hectar ond yn llai na 6 hectar, mae cyfanswm yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano yn cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn tir llai ffafriol sy'n perthyn ac sy'n gymwys i gael lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn.".
6.
Mewnosodwch y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3 -
3A. - (1) Pan fo gan geisydd swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael, bydd gostyngiad sy'n cael ei gyfrifo yn unol â darpariaethau paragraff (2) yn cael ei gymhwyso i dir perthnasol y ceisydd. (2) Bydd y gostyngiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael ei gyfrifo yn unol ag is-baragraffau (i) i (iii) -
(ii) am bob hectar o ddaliad y ceisydd nad yw o fewn tir llai ffafriol, gostyngir nifer yr unedau da byw a gyfrifir yn unol â pharagraff (i) o 2 uned; (iii) defnyddir nifer yr unedau da byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso is-baragraff (ii) er mwyn cyfrifo'r gostyngiad yn y tir perthnasol drwy ostwng arwynebedd y tir hwnnw o 1 hectar ar gyfer pob 2 uned da byw sy'n weddill, ac mae'r gostyngiad i'w gymhwyso'n llawn mewn perthynas â thir dan anfantais cyn ei gymhwyso i dir dan anfantais difrifol.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "y fuches laeth dybiannol" ("notional dairy herd") yw cyfanswm yr anifeiliad y bernir eu bod yn fuches laeth ar dir sy'n cael ei ffermio gan y ceisydd yng Nghymru fel y'i cyfrifwyd uchod ac mae i "swmp cyfeiriol unigol o laeth" yr un ystyr ag i "individual reference quantity of milk" yn Erthygl 31 o Reoliad y Comisiwn (EC) 2342/1999[9].".
7.
Mewnosodwch y paragraffau canlynol yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ar ôl paragraff (2) -
(4) Er mwyn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ystyried a ddylai arfer ei ddisgresiwn o dan baragraff (3), rhaid i'r ceisydd ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol y fath wybodaeth y gall yn rhesymol ei fynnu.".
8.
Mewnosodwch y paragraff canlynol yn rheoliad 6 (Cyfrifo taliadau arwynebedd - elfen 1), ar ôl paragraff (3) -
9.
Yn rheoliad 7 (Taliad chwyddo amgylcheddol o dan elfen 2 o'r cynllun) -
(b) ym mharagraff (3) cyn y geiriau "20 y cant", mewnosodwch y geiriau "hyd at".
10.
Mewnosodwch ym mharagraff (b) o reoliad 8 (Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol) ar ôl y gair "thir" y geiriau "sydd wedi cwblhau'i drosi ac".
13.
Dilëwch Reoliad 11 (Ceisiadau hwyr).
(b) ym mharagraff (c) yn lle'r gair "chwe" rhowch y gair "dri" ac ar ôl y gair "cymwys" rhowch y geiriau "neu unrhyw dir llai ffafriol sy'n perthyn".
15.
Yn rheoliad 13 (Cadw'n ôl neu adennill taliadau) ym mharagraff (a), yn lle'r geiriau "reoliad 9(2)" rhowch y geiriau "reoliad 3(1)(ch)".
17.
Dilëwch reoliad 15 (Daliadau Trawsffiniol).
1. Cyfrifir y taliad sylfaenol o dan elfen un y cynllun Tir Mynydd drwy luosi tir cymwys ceisydd wrth y gyfradd neu'r cyfraddau priodol a nodir ym mharagraff 2. 2. Y cyfraddau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 yw -
(b) £35.00 yr hectar ar gyfer tir tan anfantais ddifrifol.".
(b) yn lle paragraff 4 o Ran C, rhowch y paragraff canlynol -
Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2002, yn diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") drwy:
(b) ailfformiwleiddio ac ailddatgan y darpariaethau sy'n ymwneud â gostyngiad yn y tir porthiant pan fydd gan geiswyr swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael (rheoliad 6). (c) rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y p er i amrywio'r lleiafswm o ofynion dwysedd stocio o dan y cynllun o dan amgylchiadau penodol (Rheoliad 7).(ch) darparu ar gyfer cynyddu taliadau sylfaenol o dan y cynllun ac sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 8). (d) darparu bod y taliadau chwyddo amgylcheddol y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) o Reoliad 7 o'r prif Reoliadau yn daladwy yn y drefn honno mewn symiau sy'n gyfystyr â hyd at 10% a i 20% o daliadau elfen 1 (rheoliad 9). (dd) darparu bod y cosbau IACS mewn perthynas â chyflwyno yn hwyr yn cael eu gweithredu mewn perthynas â cheisiadau am daliadau sy'n cael eu gwneud yn hwyr o dan y cynllun (rheoliad 12). (e) darparu bod llog ar daliadau nad ydynt yn daladwy ac y gellir eu hadennill gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w gyfrifo o'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu'r ceisydd nad oedd y swm a dalwyd yn daladwy (rheoliad 16). (f) darparu fformwla "rhwyd achub" newydd mewn perthynas â chyfrifio taliadau Tir Mynydd ym mlwyddyn 2003 (rheoliad 18(b)). (ff) darparu ar gyfer gwneud mân newidiadau a newidiadau i'r diffiniadau sy'n dilyn yn sgil y diwygiadau uchod.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 yn rhinwedd, yn gyntaf, cynnwys diffiniad o "arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano" yn y prif reoliadau ac, yn ail, trosglwyddo swyddogaethau o'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Notes: [1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae p er y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir o fewn y Deyrnas Gyfunol ond y tu allan i Gymru, wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back[3] O.S. 2001/496 (Cy.23).back [4] O.S. 1992 / 2677, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994 / 2741, O.S. 1995 / 2779, O.S. 1996 / 49, O.S. 1997 / 2500 ac O.S. 2001 / 281.back [6] O.S. 1994/2740, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/100, 1481, 2778 ac O.S. 1996/27 ac a ddiddymwyd gan O.S. 1996/1500.back [7] O.S 1996/1500, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/33, 1998/206, 1999/375; yn rhinwedd O.S. 1999/3316, nid yw O.S. 1996/1500 bellach yn gymwys.back [9] O.J. Rhif L281, 04.11.99, t.30.back [10] O.J. Rhif L327, 12.12.2001, t.11.back [11] O.S. 2001/1154 (Cy.61)back
ISBN 0 11090531 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 2 August 2002 |