Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1805 (Cy.175)

      Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090527 X. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1805 (Cy.175)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 11 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 6 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd iddo gan adrannau 2, 3(1) i (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1] fel y'i darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1972[2] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2002, mae'n gymwys i Gymru, a daw i rym ar 6 Awst 2002.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993[4]) yn unol â pharagraffau (2) i (7) isod.

    (2) Yn erthygl 2(1) yn lle'r diffiniad o "Directive 2000/29/EC" amnewidir y testun canlynol:

      " "Directive 2000/29/EC" means Council Directive 2000/29/EC[5] of 8th May 2000 on protective measures against the introduction into the Community of organisms harmful to plants or plant products and against their spread within the Community as amended by Commission Directive 2001/33/EC[6] of 8th May 2001 amending certain annexes to Council Directive 2000/29/EC and by Commission Directive 2002/28/EC[7] of 19th March 2002 amending certain annexes to Council Directive 2000/29/EC;".

    (3) Yn Atodlen 1, Rhan B (d) (Feirws ac Organeddau Feirws-debyg) yn eitem 1 yn yr ail golofn, ar ôl "UK" ychwanegir "(Northern Ireland)".

    (4) Yn Atodlen 2, Rhan B (b) (Bacteria), yn eitem 2 yn lle'r testun yn y drydedd golofn amnewidir y canlynol:

      " E, F (Corsica), IRL, I (Abruzzi; Apulia; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna: provinces of Forlí-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini; Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto: except, in the province of Rovigo, the communes Rovigo, Polesella, Villamarzana, Fratta Polesine, San Bellino, Badia Polesine, Trecenta, Ceneselli, Pontecchio Polesine, Arquà Polesine, Costa di Rovigo, Occhiobello, Lendinara, Canda, Ficarolo, Guarda Veneta, Frassinelle Polesine, Villanova del Ghebbo, Fiesso Umbertiano, Castelguglielmo, Bagnolo di Po, Giacciano con Baruchella, Bosaro, Canaro, Lusia, Pincara, Stienta, Gaiba, Salara, and in the province of Padova, the communes Castelbaldo, Barbona, Piacenza d'Adige, Vescovana, S. Urbano, Boara Pisani, Masi, and in the province of Verona, the communes of Palù, Roverchiara, Legnago (the portion of the communal territory situated to the north east of the Transpolesana national road), Castagnaro, Ronco all'Adige, Villa Bartolomea, Oppeano, Terrazzo, Isola Rizza, Angiari), A (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, Tirol (administrative district Lienz), Styria, Vienna), P, FI, UK (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands)".

    (5) Yn Atodlen 3, Rhan B, yn eitem 1 yn lle'r testun yn yr ail golofn amnewidir y canlynol:

      " E, F (Corsica), IRL, I (Abruzzi; Apulia; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna: provinces of Forlí-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini; Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto: except, in the province of Rovigo, the communes Rovigo, Polesella, Villamarzana, Fratta Polesine, San Bellino, Badia Polesine, Trecenta, Ceneselli, Pontecchio Polesine, Arquà Polesine, Costa di Rovigo, Occhiobello, Lendinara, Canda, Ficarolo, Guarda Veneta, Frassinelle Polesine, Villanova del Ghebbo, Fiesso Umbertiano, Castelguglielmo, Bagnolo di Po, Giacciano con Baruchella, Bosaro, Canaro, Lusia, Pincara, Stienta, Gaiba, Salara, and in the province of Padova, the communes Castelbaldo, Barbona, Piacenza d'Adige, Vescovana, S. Urbano, Boara Pisani, Masi, and in the province of Verona, the communes of Palù, Roverchiara, Legnago (the portion of the communal territory situated to the north east of the Transpolesana national road), Castagnaro, Ronco all'Adige, Villa Bartolomea, Oppeano, Terrazzo, Isola Rizza, Angiari), A (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, Tirol (administrative district Lienz), Styria, Vienna), P, FI, UK (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands)".

    (6) Yn Atodlen 4, Rhan B gwneir y diwygiadau canlynol:

    (a) yn eitemau 20.1 a 20.2 ar ôl "UK" ychwanegir "(Northern Ireland)";

    (b) yn eitem 21 - 

      (i) yn lle'r testun yn yr ail golofn ar ôl "(a) the plants originate in the protected zones" ac yn y drydedd golofn yn ôl eu trefn amnewidir y testun canlynol:

             " E, F (Corsica), IRL, I (Abruzzi; Apulia; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna: provinces of Forlí-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini; Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto: except, in the province of Rovigo, the communes Rovigo, Polesella, Villamarzana, Fratta Polesine, San Bellino, Badia Polesine, Trecenta, Ceneselli, Pontecchio Polesine, Arquà Polesine, Costa di Rovigo, Occhiobello, Lendinara, Canda, Ficarolo, Guarda Veneta, Frassinelle Polesine, Villanova del Ghebbo, Fiesso Umbertiano, Castelguglielmo, Bagnolo di Po, Giacciano con Baruchella, Bosaro, Canaro, Lusia, Pincara, Stienta, Gaiba, Salara, and in the province of Padova, the communes Castelbaldo, Barbona, Piacenza d'Adige, Vescovana, S. Urbano, Boara Pisani, Masi, and in the province of Verona, the communes of Palù, Roverchiara, Legnago (the portion of the communal territory situated to the north east of the Transpolesana national road), Castagnaro, Ronco all'Adige, Villa Bartolomea, Oppeano, Terrazzo, Isola Rizza, Angiari), A (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, Tirol (administrative district Lienz), Styria, Vienna), P, FI, UK (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands)"; a

      (ii) yn eitem 21 yn yr ail golofn, ar ôl y testun wrth baragraff (a) ac a chyn paragraff (b) ychwanegir y gair "or"; a

    (c) yn eitemau 22, 23, 25.1, 25.2, 26, 27.1, 27.2 a 30 ar ôl "UK" ychwanegir "(Northern Ireland)".

    (7) Yn Atodlen 8 - 

    (a) o dan baragraff (b) (Bacteria), eitem 2 (Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al), yn lle'r testun yn yr ail golofn amnewidir y canlynol:

           " Spain, France (Corsica), Ireland, Italy (Abruzzi; Apulia; Basilicata; Calabria; Campania; Emilia-Romagna: provinces of Forlí-Cesena, Parma, Piacenza and Rimini; Friuli-Venezia Giulia; Lazio; Liguria; Lombardy; Marche; Molise; Piedmont; Sardinia; Sicily; Tuscany; Trentino-Alto Adige: autonomous provinces of Bolzano and Trento; Umbria; Valle d'Aosta; Veneto: except, in the province of Rovigo, the communes Rovigo, Polesella, Villamarzana, Fratta Polesine, San Bellino, Badia Polesine, Trecenta, Ceneselli, Pontecchio Polesine, Arquà Polesine, Costa di Rovigo, Occhiobello, Lendinara, Canda, Ficarolo, Guarda Veneta, Frassinelle Polesine, Villanova del Ghebbo, Fiesso Umbertiano, Castelguglielmo, Bagnolo di Po, Giacciano con Baruchella, Bosaro, Canaro, Lusia, Pincara, Stienta, Gaiba, Salara, and in the province of Padova, the communes Castelbaldo, Barbona, Piacenza d'Adige, Vescovana, S. Urbano, Boara Pisani, Masi, and in the province of Verona, the communes of Palù, Roverchiara, Legnago (the portion of the communal territory situated to the north east of the Transpolesana national road), Castagnaro, Ronco all'Adige, Villa Bartolomea, Oppeano, Terrazzo, Isola Rizza, Angiari), Austria (Burgenland, Carinthia, Lower Austria, Tirol (administrative district Lienz), Styria, Vienna), Portugal, Finland, United Kingdom (Northern Ireland, Isle of Man and Channel Islands)"; and

    (b) o dan baragraff (d) (Feirysau ac Organeddau Feirws-debyg) - 

      (i) yn eitem 1 (Feirws necrotig gwythïen felen betys), yn yr ail golofn ar ôl "United Kingdom" ychwanegir "(Northern Ireland)"; a

      (ii) yn eitem 4 (Feirws citrus tristeza (ynysigion Ewropeaidd)), dilëir y geiriau "harmful to fruit of Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf. and their hybrids, with leaves and peduncles".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Gorffennaf 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 ("y prif Orchymyn") er mwyn gweithredu elfennau penodol o Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2002/29/EC (OJ Rhif L77, 20.3.02, t. 26) a 2002/28/EC (OJ Rhif L77, 20.3.02, t. 23) yng Nghymru nad ydynt yn cael eu gweithredu mewn deddfwriaeth arall. Mae Cyfarwyddeb 2002/29/EC yn diwygio'r parthau gwarchod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L169, 10.7.2000, t.1) ("y brif Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion") ac a amserlennwyd yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/32/EC (OJ Rhif. L127, 9.5.2001, t. 38). Mae Cyfarwyddeb 2002/28/EC yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i Atodiadau penodol o'r brif Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion.

Mae'r diwygiadau yn y Gorchymyn hwn sy'n gweithredu Cyfarwyddeb 2002/28/EC yn erthygl 2(3) i 2(6) yn gynhwysol. Gweithredir Cyfarwyddeb 2002/29/EC gan erthygl 2(7), sy'n diwygio Atodlen 8 i'r prif Orchymyn. Y prif newidiadau i'r parthau gwarchod yw tynnu Prydain Fawr o'r parth gwarchod mewn perthynas â Feirws necrotig gwythïen felen betys (sy'n hysbys fel rhizomania) (erthygl 2(3), (6)(a) a (c) a (7)(b)(i)), ac ailddiffiniad o barthau gwarchod yr Eidal ac Awstria mewn perthynas â'r bacteriwm Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al (sy'n hysbys fel malltod) (erthygl 2(4), (5), (6)(b) a (7)(a)). Diwygir y disgrifiad o Citrus tristeza virus yn Atodlen 8 (erthygl 2(7)(b)(ii)).

Gwneir diwygiad ychwanegol i'r diffiniad o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC yn erthygl 2(1) o'r prif Orchymyn er mwyn ymgorffori'r diwygiadau a wnaed iddi gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/28/EC (erthygl 2(2)).

Gellir cael arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r newidiadau i'r parth gwarchod o ran Feirws necrotig gwythïen felen betys o'r Gangen Iechyd Planhigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1967 p.8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48);back

[2] 1972 p.62.back

[3] Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honNo. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), adran 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yna trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] O.S. 1993/1320: diwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245 a 1999/2641 (Cy.8), a 2001/2500 (Cy.203) a 2001/3761 (Cy.310).back

[5] OJ No. L169, 10.7.00, p.1.back

[6] OJ No. L127, 9.5.01, p.42; and see the associated Commission Directive 2001/32/EC, OJ No. L127, 9.5.01, p.38.back

[7] OJ No. L77, 20.3.02, p. 23 and see the associated Commission Directive 2002/29/EC, OJ No. L 77, 20.3.02, p. 26.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090527 X


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 29 July 2002