Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090544 X. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 66(1), 68(1) ac (1A), 69(1), 74A, 75(1), 76(1), 77(4), 78(6), 79(1) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1] ac sydd bellach yn arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru[2], ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 84(1) o'r Ddeddf honno â'r personau neu'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli'r buddiannau perthnasol[3], a chan ei fod wedi'i ddynodi[4]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[5] mewn perthynas â pholisi amaethydddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a bennir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheolidau hyn yw Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002, deuant i rym ar 5 Awst 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 2. Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau")[6]) yn unol â rheoliadau 3 i 10 isod. 3. Yn rheoliadau 7(1) a 24(1), ar ôl y geiriau", or the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001,"yn lle "fel y'u diwygiwydgan Reoliadau Diwygio Porthiant a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) (Cymru) 2001", rhowch "as amended by the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002." 4. Ym mharagraff (2) o reoliad 17, yn lle'r ymadrodd "Atodlen 10", rhowch yr ymadrodd "Atodlen 9". 5. Ym mharagraff (2) o reoliad 24, o'r gair "rheoliadau" hyd at ddiwedd y cymal, rhowch y darpariaethau canlynol -
6.
Diddymwch reoliad 25(a) a (b).
(b) yn lle'r cofnod am Dioxin (sum of PCDD and PCDF) yn ngholofn 1 o Bennod A o Ran II o'r Tabl a'r cofnodion sy'n cyfateb yng Ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn yn y Bennod honno;
rhowch y cofnodion a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(b) yn Rhan I o Atodlen 2 (methods of analysis), ar ddiwedd paragraff 3(e)(ii), yn lle'r ymadrodd "Schedule 5 to the Feeding Stuffs Regulations 1995" rhowch yr ymadrodd "Schedule 7 to the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001[9] and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002"; ac (c) yn Rhan II o Atodlen 3 (form of certificate of analysis), yn nodyn 11(a), yn lle'r ymadrodd "the Feeding Stuffs Regulations 1995" rhowch yr ymadrodd "the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 as amended by the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002".
Diwygio Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999
(c) yn rheoliad 8, yn lle'r ymadrodd "as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001" rhowch yr ymadrodd "as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002"; ac (ch) yn rheoliad 9, yn nhestun is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel y'i diwygiwyd gan y rheoliad hwnnw, ar ôl yr ymadrodd "the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001" rhowch yr ymadrodd "and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002"; a (d) yn rheoliad 10, yn nhestun is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel y'i diwygiwyd gan y rheoliad hwnnw, ar ôl yr ymadrodd "the Feeding Stuffs and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) Regulations 2001" rhowch yr ymadrodd "and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002".
Commission Regulation (EC) No. 2316/98 concerning authorisation of new additives and amending the conditions for authorisation of a number of additives already authorised in feedingstuffs(2). Commission Regulation (EC) No. 1594/1999 amending the conditions for the authorisation of an additive in feedingstuffs(3). Commission Regulation (EC) No. 2439/1999 on the conditions for authorisation of additives belonging to the group "binders, anti-caking agents and coagulants" in feedingstuffs(4). Commission Regulation (EC) No. 1353/2000 concerning the permanent authorisation of an additive and the provisional authorisation of new additives, new additive uses and new preparations in feedingstuffs(5). Commission Regulation (EC) No. 2437/2000 concerning the permanent authorisation of an additive and the provisional authorisation of new additives in feedingstuffs(6). Commission Regulation (EC) No. 2013/2001 concerning the provisional authorisation of a new additive use and the permanent authorisation of an additive in feedingstuffs(7). Commission Regulation (EC) No. 2200/2001 concerning provisional authorisation of additives in feedingstuffs(8). Commission Regulation (EC) No. 256/2002 concerning the provisional authorisation of new additives, the prolongation of provisional authorisation of an additive and the permanent authorisation of an additive in feedingstuffs(9). (1) Certain of the listed Regulations relate to categories of additive which also include additives controlled by the Additives Directive, and which are thus listed in the relevant Part of Parts I to VIII of the Table to this Schedule (e.g. the preservative formic acid is covered by Regulation (EC) No. 1594/1999 (above), whereas certain other preservatives are covered by Part VII of the Table). (2) OJ No. L289, 28.10.98, p.4. (3) OJ No. L188, 21.7.1999, p.35. (4) OJ No. L297, 18.11.1999, p.8. The Annex to this Regulation is now replaced by the Annex to Regulation (EC) No. 739/2000 (OJ No. L87, 8.4.2000, p.14). (5) OJ No. L155, 28.6.2000, p.15. (6) OJ No. L280, 4.11.2000, p.28. (7) OJ No. L272, 13.10.2001, p.24. (8) OJ No. L299, 15.11.2001, p.1. (9) OJ No. L41, 13.2.2002, p.6.
Notes: (1) Upper-bound concentrations; upper-bound concentrations are calculated assuming that all values of the different congeners less than the limit of determination are equal to the limit of determination. (2) Fresh fish directly delivered and used without intermediate processing for the production of feedingstuffs for fur animals is exempted from the maximum limit. The products, processed animal proteins produced from these fur animals cannot enter the food chain and the feeding thereof is prohibited to farmed animals which are kept, fattened or bred for the production of food.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio am y trydydd tro Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (O.S. 2001/343 (Cy.15), "y prif Reoliadau"). 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae Rheoliadau Porthiant (Diwygio) 2002 (O.S. 2002/892, "Rheoliadau Cymru a Lloegr"), sy'n gweithredu'r un newidiadau yn Lloegr ag a wneir mewn perthynas â Chymru gan y Rheoliadau hyn, yn cynnwys dwy ddarpariaeth sydd hefyd yn gymwys i Gymru a Gogledd Iwerddon. Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cymru a Lloegr yn gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i'r graddau y mae'n berthnasol i reoliad 11 (fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cymru a Lloegr) neu 12 o'r Prif Reoliadau. Mae rheoliad 5 o Reoliadau Cymru a Lloegr hefyd yn gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu -
(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/102/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 1999/29/EC ar sylweddau a chynhyrchion annymunol mewn maeth anifeiliaid (OJ Rhif L6, 10.1.2002, t.45); ac (c) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/1/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 94/39/EC o ran porthiant anifeiliaid i gynnal gwaith yr afu mewn achos o annigonedd cronig yr afu.
4.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau canlynol -
(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2200/2001 ynghylch awdurdodiad dros dro o ychwanegion mewn porthiant (OJ Rhif L299, 15.11.2001, t.1); ac (c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 256/2002 ynghylch awdurdodiad dros dro ar ychwanegyn ac awdurdodiad parhaol o ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif L41, 13.2.2002, t.6).
5.
Mae'r Rheoliadau hyn -
(b) yn ychwanegu tri Rheoliad newydd gan y Comisiwn at restr Rheoliadau'r Comisiwn y rhoddwyd awdurdodiad odanynt i farchnata ychwanegion bwyd a gynhwysir yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (rheoliad 7 ac Atodlen 1); (c) addasu'r rheolaethau yn y prif Reoliadau sy'n rheoli presenoldeb sylweddau annymunol mewn porthiant anifeiliaid drwy bennu uchafswm lefelau newydd ar gyfer Diocsin mewn porthiant (rheoliad 8 ac Atodlen 2); (ch) addasu darpariaethau'r prif Reoliadau sy'n rheoli porthiant dietetig o ran y nodweddion maethlon a labelu porthiant sy'n ofynnol pan fwriedir ef i gynorthwyo swyddogaeth yr afu mewn achos o annigonedd cronig yr afu mewn c n neu gathod (rheoliad 10 ac Atodlen 3);(d) gwneud diwygiadau i'r prif Reoliadau i gywiro mân wallau ynddynt (rheoliadau 4 a 9); ac (dd) gwneud diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hynny ac i Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S.1999/1663), Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999 (O.S. 1999/1872) a Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325) (rheoliadau 1999, 3, 6 ac 11 i 13). (e) Noder hefyd yr effaith ar Reoliadau Cymru a Lloegr y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 uchod, sy'n addasu darpariaethau'r prif Reoliadau sy'n pennu'r weithdrefn i'w dilyn mewn perthynas ag asesu ychwanegion bwyd y ceisiwyd awdurdodiad marchnata ar eu cyfer ac o ran ceisiadau am awdurdodiad o'r fath (rheoliadau 3 a 5 o Reoliadau Cymru a Lloegr).
6.
Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn a rhoddwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau'r Cyfarwyddebau i'r gyfraith ddomestig drwy'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau ar gais oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Cymru), Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1970 p.40.back [2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. Rhif 1999/672).back [3] Rhaid darllen y gofyniad i ymgynghori ar y cyd ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 (OJ Rhif 1.2.2002, tud.1).back [5] 1972 p.68. Estynwyd y pwerau galluogi a roddwyd gan adran 2(2) yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Ardal Economaidd Ewrop 1993 (1993 p.51).back [6] O.S. 2001/343 (Cy.15), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2253 (Cy.163) ac O.S. 2001/3461 (Cy.280).back [7] O.S. 1999/1663 (a ddiwygiwyd ond nid yw'r diwygiadau hynny yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn).back [8] O.S. 1999/2325. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2253 (Cy.163) ac O.S. 2001/3461 (Cy.280).back [9] O.S. 2001/3461 (Cy.280).back [10] O.S. 1999/1872. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2253 (Cy.163).back [11] OJ Rhif. L1, 3.1.94, tud.1.back [12] OJ Rhif L1, 3.1.94, tud.571.back
ISBN 0 11090544 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 13 August 2002 |