Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1796 (Cy.171)

      Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090532 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1796 (Cy.171)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 9 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11 a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Awst 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn:

    ystyr "apêl" ("appeal") yw apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 6 o'r Ddeddf gan berson sydd â buddiant mewn tir yn erbyn dangos y tir hwnnw ar fap dros dro fel tir comin cofrestredig neu fel tir agored.

    ystyr "apelydd" ("appellant") yw person sy'n dwyn apêl a, lle bo dau neu fwy o bobl yn dwyn apêl ar y cyd, mae'n cyfeirio at bawb ohonynt ar y cyd;

    ystyr "awdurdod lleol perthnasol" ("relevant local authority"), mewn perthynas â map dros dro neu fap terfynol (fel y bo angen) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys ardal a gynhywsir yn y map hwnnw;

    ystyr "awdurdod Parc Cendlaethol perthnasol" ("relevant National Park authority"), mewn perthynas â map dros dro neu fap terfynol (fel y bo angen) yw awdurod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae ei ardal yn cynnwys ardal a gynhwysir yn y map hwnnw;

    ystyr "cyfnod apêl" ("appeal period"), mewn perthynas â map dros dro, yw'r cyfnod a gyfeirir ato yn rheoliad 4(3)(ch);

    ystyr y "cyfnod dros dro" ("provisonal period") yw'r cyfnod sy'n dechrau pan fydd map dros dro yn cael ei ddyroddi ac sy'n dod i ben pan fydd y map terfynol sy'n perthyn iddo yn cael ei ddyroddi neu, os bydd mwy nag un map terfynol yn perthyn i'r map dros dro hwnnw, pan fydd yr olaf o'r mapiau terfynol hynny yn cael ei ddyroddi;

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cendlaethol Cymru neu, lle bo swyddogaeth yn cael ei hymarfer gan berson penodedig, y person hwnnw;

    ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru;

    ystyr "datganiad addasiad o fap drafft" ("draft map modification statement") yw datganiad ysgrifenedig a baratowyd gan y Cyngor yn unol â rheoliad 7(3)(b) o'r Rheoliadau Mapiau Drafft sy'n nodi addasiadau a wnaed i'r map drafft a'r rhesymau dros eu gwneud;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;

    mae cyfeiriadau at "ddyroddi" ("issue") map dros dro neu fap terfynol (fel y bo angen) yn gyfeiriadau at ei ddyroddi gan y Cyngor o dan adran 5(d) neu (e) o'r Ddeddf neu o dan adran 9(1), (2), (3) neu (4) o'r Ddeddf, yn ôl y digwydd;

    mae gan "dir agored" ("open country") yr ystyr a roddir gan adran 1(2) o'r Ddeddf;

    mae gan "dir comin cofrestredig" ("registered common land") yr ystyr a roddir gan adran 1(3) o'r Ddeddf;

    mae gan "fuddiant" ("interest") yr ystyr a roddir gan adran 45(1) o'r Ddeddf;

    ystyr "ffurf electronig" ("electronic form") yw ffurf y gellir ei storio ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur neu oddi wrtho, a'i darllen trwy ddefnyddio cyfrifiadur;

    ystyr "ffurflen apêl" ("appeal form") yw dogfen sydd yn cynnwys, pan fydd wedi'i chwblhau, yr wybodaeth a ddynodir yn rheoliad 6(4);

    mae cyfeiriadau at "gadarnhau" ("confirmation") map drafft yn gyfeiriadau at ei gadarnhau yn unol ag adran 5(c) o'r Ddeddf;

    ystyr "hysbysiad dyroddi" ("notice of issue") map dros dro neu fap terfynol (fel y bo angen) yw hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 4(2)(c) neu reoliad 8(2)(ch), yn y drefn honno;

    ystyr "map drafft" ("draft map") yw map a ddyroddwyd gan y Cyngor o dan adran 5[3] o'r Ddeddf;

    ystyr "map drafft perthnasol" ("relevant draft map"), mewn perthynas â map dros dro, yw map drafft a oedd, pan gafodd ei gadarnhau, yn cynnwys tir sydd bellach wedi ei gynnwys yn y map dros dro hwnnw;

    ystyr "map dros dro" ("provisional map") yw map sydd wedi'i gadarnhau gan y Cyngor yn unol ag adran 5(c) o'r Ddeddf;

    ystyr "map terfynol" ("conclusive map") yw map a baratowyd gan y Cyngor at y diben o gael ei ddyroddi yn unol ag adran 9(1), (2), (3) neu (4) o'r Ddeddf;

    mae "person" ("person") a "phersonau" ("persons") yn cynnwys unigolion, corfforaethau a chyrff nad ydynt wedi'u hymgorffori;

    ystyr "person penodedig" ("appointed person") yw person a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 8 o'r Ddeddf;

    ystyr "y Rheoliadau Mapiau Drafft" ("the Draft Map Regulations") yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001[4];

    ystyr "tir adran 4(2)" ("section 4(2) land") yw'r tir comin cofrestredig a thir agored y mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi mapiau mewn perthynas ag ef yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf;

    ystyr "Ymddiriedolaeth Archaeolegol" ("Archaeological Trust") yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent neu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd; ac

    ystyr "Ymddiriedolaeth Archaeolegol perthnasol" ("relevant Archaeological Trust"), mewn perthynas â map dros dro neu fap terfynol (fel y bo angen), yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol y mae ardal ei chyfrifoldeb yn cynnwys ardal sy'n cael ei gynnwys yn y map hwnnw.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y pargraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

    (3) Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod o ddyddiad penodol, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud rhywbeth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn wcirc yl banc neu'n ddiwrnod sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, bernir bod y gofyniad yn ymwneud â'r dydd cyntaf ar ôl hynny nad yw'n un o'r dyddiau uchod.

Ffurf mapiau dros dro
     3.  - (1) At ddibenion cyflawni ei ddyletswydd i ddyroddi map dros dro o dan adran 5(d) neu (e) o'r Deddf, neu at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â hynny, gall y Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi copïau o'r map dros dro hwnnw ar unrhyw ffurf, gan gynnwys ffurf electronig, y mae'n penderfynu arni a bernir bod unrhyw gopi o'r fath a gyhoeddir gan y Cyngor neu gyda'i awdurdod yn union yr un fath â'r map dros dro oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

    (2) Gall y Cyngor, er mwyn dangos bodolaeth a maint y tir adran 4(2) a ddangosir ar un neu ragor o fapiau dros dro, ac er mwyn trefnu bod copïau archwilio o'r map dros dro ar gael yn unol â rheoliad 4(2)(a) a (b), neu er mwyn cydymffurfio â chais o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 4(3)(d), gynhyrchu a chyhoeddi copïau o fapiau dros dro sy'n dangos y tir adran 4(2) hwnnw, a gallant fod ar raddfa sy'n llai nag 1:10,000 ond nid yn llai na 1:25,000.

    (3) Rhaid i gopïau o fapiau dros dro a gynhyrchir o dan baragraff (1):

Dyroddi mapiau dros dro
    
4.  - (1) Cymerir bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswydd yn unol ag adran 5(d) neu (e) o'r Ddeddf (fel y digwydd) i ddyroddi map dros dro pan fydd gyntaf yn cyhoeddi hysbysiad dyroddi'r map dros dro hwnnw yn unol â pharagraff (2)(c) o'r rheoliad hwn.

    (2) Nid oes hawl gan y Cyngor gyhoeddi hysbysiad dyroddi map dros dro nes ei fod:

    (3) Rhaid i hysbysiad dyroddi map dros dro:

    (4) Gall unrhyw hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff 2(c) neu sy'n cael ei anfon yn unol â pharagraff (2)(ch), yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys o dan baragraff (3), gynnwys unrhyw wybodaeth bellach y gwcirc el y Cyngor yn dda.

Dyletswydd gyffredinol i roi gwybod i'r cyhoedd am ddarpariaethau mapiau dros dro
    
5.  - (1) Rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw gamau sy'n rhesymol er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am ddarpariaethau mapiau dros dro a rhoi'r camau hynny ar waith a rhaid iddo ystyried yn benodol a yw'n ddymunol:

    (2) Ni fydd y ddyletswydd sy'n cael ei gosod o dan baragraff (1) yn rhagfarnu dyletswyddau'r Cyngor o dan reoliad 4 ond ni fydd unrhyw fethiant ar ran y Cyngor i gyflawni'r ddyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraff (1) mewn perthynas â map dros dro yn annilysu dyroddi'r map dros dro hwnnw gan y Cyngor neu unrhyw gamau eraill y mae'n ofynnol i'r Cyngor neu'r Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.

Apeliadau gan bersonau y mae ganddynt fuddiant mewn tir sy'n cael ei gynnwys ar fap dros dro
    
6.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni all apêl gael ei gychwyn ond trwy anfon neu fynd â ffurflen apêl sydd wedi'i chwblhau at y Cynulliad Cenedlaethol fel ei bod yn dod i law cyn diwedd y cyfnod apêl.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) gall apêl hefyd gael ei gychwyn trwy anfon neu fynd â ffurflen apêl wedi'i chwblhau fel ei bod yn dod i law ar ôl diwedd y cyfnod apêl os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried nad oedd hi'n rhesymol ymarferol i'r apelydd gydymffurfio â gofynion paragraff (1) ar yr amod bod y ffurflen apêl wedi'i chwblhau yn dod i law o fewn pa gyfnod bynnag ar ôl diwedd y cyfnod apêl y barna'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn rhesymol.

    (3) Nid yw paragraph (2) yn gymwys i ffurflen apêl sy'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Cyngor o dan reoliad 7(1) mewn perthynas â map dros dro neu darn o fap dros dro sy'n cynnwys y tir y mae'r ffurflen apêl yn ymwneud ag ef.

    (4) Os bydd person sy'n dymuno cychwyn apêl yn anfon datganiad ysgrifenedig o'r dymuniad hwnnw at y Cynulliad Cenedlaethol neu yn mynd ag ef ato, fel ei fod yn dod i law cyn diwedd y cyfnod apêl, bernir bod ffurflen apêl wedi'i chwblhau wedi dod i law cyn diwedd y cyfnod apêl, os bydd y person hwnnw yn anfon neu yn mynd ag un at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn pa gyfnod bellach bynnag y bydd y Cynulliad Cenedlaethol trwy hysbysiad ysgrifenedig yn pennu.

    (5) Rhaid i ffurflen apêl wedi'i cwblhau gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

    (6) Gall ffurflen apêl fod yn Gymraeg neu Saesneg ond os yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl gael ei thrin yn gyfan gwbl neu'n rhannol trwy gyfrwng un o'r ddwy iaith heblaw'r un y mynegir yr hysbysiad apêl ynddi, dylai cais i'r perwyl hwnnw gael ei gynnwys yn yr hysbysiad apêl neu gael ei amgáu gyda'r hysbysiad.

Paratoi mapiau i'w dyroddi fel mapiau terfynol
    
7.  - (1) Os bydd pob apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf a gychwynwyd yn unôl â rheoliad 6, mewn perthynas â:

naill ai wedi eu penderfynu neu wedi eu tynnu'n ôl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Cyngor o'r ffaith hwnnw.

    (2) Rhaid i'r Cyngor, pan fydd wedi derbyn hysbysiad o dan baragraff (1), ac yn unol â:

baratoi map neu fapiau sy'n seiliedig ar y map dros dro hwnnw, neu'r rhan honno o fap dros dro, y mae'r hysbysiad o dan baragraff (1) yn ymwneud ag ef, ar gyfer ei ddyroddi fel map terfynol yn unol ag adran 9(1), (2), (3) neu (4) (fel y digwydd).

Dyroddi mapiau terfynol
    
8.  - (1) Cymerir bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswydd yn unol ag adran 9(1), (2), (3) neu (4) o'r Ddeddf (fel y digwydd) i ddyroddi map terfynol pan fydd gyntaf yn cyhoeddi hysbysiad dyroddi'r map dros dro hwnnw yn unol â pharagraff (2)(ch) o'r rheoliad hwn.

    (2) Nid oes hawl gan y Cyngor gyhoeddi hysbysiad dyroddi map dros dro nes ei fod:

    (3) Rhaid i hysbysiad dyroddi map terfynol:

    (4) Gall unrhyw hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (2)(ch) neu sy'n cael ei anfon yn unol â pharagraff (2)(d), yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys o dan baragraff (3), gynnwys unrhyw wybodaeth bellach y gwcirc el y Cyngor yn dda.

Dyletswydd gyffredinol i roi gwybod i'r cyhoedd am ddarpariaethau mapiau terfynol
    
9.  - (1) Rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw gamau sy'n rhesymol er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am gynnwys mapiau terfynol a rhoi'r camau hynny ar waith a rhaid iddo ystyried yn benodol a yw'n ddymunol:

    (2) Ni fydd y ddyletswydd sy'n cael ei gosod o dan baragraff (1) yn rhagfarnu dyletswyddau'r Cyngor o dan reoliad 8, ond ni fydd unrhyw fethiant ar ran y Cyngor i gyflawni'r ddyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraff (1) mewn perthynas â map terfynol yn annilysu dyroddi'r map terfynol hwnnw gan y Cyngor neu unrhyw gamau eraill y mae'n ofynnol i'r Cyngor neu'r Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.

Yr hawl i archwilio ac i dderbyn copïau
    
10. Lle bo gofyniad o dan y Rheoliadau hyn i'r Cyngor hysbysu unrhyw berson y gall dogfen gael ei harchwilio gan y person hwnnw neu fod yn rhaid darparu dogfen ar gyfer y person hwnnw yna, os bydd y person hwnnw wedi cydymffurfio ag unrhyw amod y mae'r gofyniad hwnnw yn ddarostyngedig iddo, rhaid i'r Cyngor rhoi effaith i'r gofyniad hwnnw.

Dogfennau ar ffurf electronig a defnydd o ddulliau electronig o gyfathrebu
    
11.  - (1) Rhaid i unrhyw fap neu ddogfen y mae'r Rheoliadau hyn yn awdurdodi neu yn gorchymyn y dylid eu paratoi, eu dyroddi neu eu rhoi ar gael ar gyfer cael eu harchwilio, ar ffurf electronig, fedru gael eu hadgynhyrchu ar ffurf brintiedig.

    (2) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau o'r Rheoliadau hyn sy'n dynodi neu yn awdurdodi'r dull y mae'n rhaid ei ddefnyddio ar gyfer anfon map neu ddogfen arall o un person at berson arall, gall unrhyw ddogfen, gan gynnwys un y mae'r Rheoliadau hyn yn mynnu ei bod ar ffurf ysgrifenedig, gael ei hanfon, fel dull amgen i unrhyw ddull arall, drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, ar yr amod bod gan y person sy'n anfon y ddogfen sail resymol i gredu y daw'r ddogfen i sylw'r person yr anfonir hi ato, mewn ffurf ddarllenadwy, o fewn amser rhesymol.

Diwygio'r Rheoliadau Mapiau Drafft
    
12.  - (1) Mae'r Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001[5] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn nhestun Saesneg Atodlen 1, dilëwch y geiriau "National Park authorities in Wales" ac, ar y llinell nesaf i lawr o'r geiriau "Ramblers' Association", mewnosodwch y geiriau "relevant National Park authorities".

    (3) Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff (2) i effeithio'n unig ar fap drafft a ddyroddir ar y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002



ATODLEN 1
Rheoliadau 4(2)(b) a 8(2)(c)


CYRFF I GAEL EU HYSBYSU YN UNOL Â RHEOLIADAU 4(2)(b) AC 8(2)(c)


Asiantaeth yr Amgylchedd

Yr Asiantaeth Cefn Gwlad (os oes gan dir sydd wedi'i gynnwys mewn map dros dro ffin â Lloegr)

Awdurdodau lleol perthnasol

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol perthnasol

Y Comisiwn Coedwigaeth

Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned yng Nghymru y mae'r ardal y maent yn gyfrifol amdani yn cynnwys tir sydd wedi'i gynnwys mewn map dros dro neu derfynol

Cyngor Mynydda Prydain

Cymdeithas y Cerddwyr

Cymdeithas y Mannau Agored

Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

Fforymau Mynediad Lleol y mae ardal eu cyfrifoldeb yn cynnwys tir o fewn y map dros dro neu derfynol

Y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Saethu a Chadwraeth

Undeb Amaethwyr Cymru

Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, Cymru

Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Ymddiriedolaethau archaeolegol perthnasol

Ystad y Goron



ATODLEN 2
Rheoliadau 4(2)(ch) ac 8(2)(d)


LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS Y DYLID ANFON HYSBYSIAD IDDYNT YN UNOL Â RHEOLIAD 4(2)(ch) AC 8(2)(d)


Aberdâr

Aberhonddu

Aberteifi

Aberystwyth

Bae Colwyn

Bangor

Y Barri

Bryn-mawr

Caerdydd Canolog

Caerfyrddin

Caernarfon

Cas-gwent

Castell-nedd

Casnewydd Canolog

Coed-duon

Cwmbrân

Doc Penfro

Dolgellau

Y Drenewydd

Dwyrain Abertawe

Grangetown

Hwlffordd

Llandrindod

Llandudno

Llanelli

Llangefni

Llanrwst

Maesteg

Merthyr Tudful

Pen-y-bont ar Ogwr

Penarth

Pontypridd

Port Talbot

Pwllheli

Sir y Fflint

Rhuthun

Y Rhyl

Rhymni

Treorci

Wrecsam



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan adran 11 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf"), gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") ddarparu, trwy reoliadau, y gweithdrefnau sydd i'w dilyn wrth baratoi mapiau a fydd yn dangos tir y bydd gan y cyhoedd hawl mynediad drosto, sef tir comin cofrestredig a thir agored y bydd hawl mynediad y cyhoedd o dan adran 2 o'r Ddeddf yn perthyn iddo.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer darparu a dyroddi mapiau mewn ffurfiau dros dro a therfynol (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel "mapiau dros dro" a "mapiau terfynol").

Mae map dros dro yn fap a ddyroddwyd fel map drafft yn unol â Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4001) (Cy.329) ("y Rheoliadau Mapiau Drafft"), sydd wedi ei gadarnhau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ("y Cyngor") gyda diwygiadau neu hebddynt ac sydd wedi ei ddyroddi mewn ffurf dros dro o dan adran 5(d) neu (e) o'r Ddeddf.

Mae Rheoliad 3 yn gosod allan y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer paratoi mapiau dros dro gan y Cyngor o dan Rhan I o'r Ddeddf, gan gynnwys darpariaeth am ffurf a graddfa mapiau dros dro a'r gallu i baratoi a chyhoeddi copïau ar raddfeydd gwahanol, lle bo hynny'n briodol.

Mae Rheoliad 4 yn sefydlu gweithdrefnau ar gyfer dyroddi a chyhoeddi map dros dro. Pan fydd yn dyroddi map dros dro, rhaid i'r Cyngor hysbysu'r cyrff a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, i ddanfon hysbysiad i'r llyfrgelloedd cyhoeddus a restir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn ac i gyhoeddi hysbysiad o ddyroddi'r map dros dro yn y wasg.

Mae Rheoliad 5 yn rhoi dyletswydd ar y Cyngor i roi cyhoeddusrwydd cyffredinol i ddarpariaethau mapiau dros dro.

Mae Rheoliad 6 yn gosod allan y weithdrefn y mae'n rhaid i berson ddilyn os yw am gychwyn apêl yn erbyn dangos tir ar fap dros dro fel tir comin cofrestredig neu fel tir agored. Mae'r gweithdrefnau manwl sydd i'w dilyn wrth benderfynu apêl, ar ôl iddo gael ei gychwyn, yn cael eu cynnwys yn Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apêl) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1794) (Cy.169).

Mae Rheoliadau 7 i 9 yn gosod allan y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer paratoi, dyroddi a chyhoeddi mapiau terfynol gan y Cyngor.

Mae Rheoliad 10 yn delio gyda'r amryw ofynion a osodir ar y Cyngor o dan y Rheoliadau sy'n ymwneud ag archwilio mapiau a dogfennau eraill a chyflenwi copïau.

Mae Rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer defnyddio dulliau cyfathrebu electronig at ddibenion y Rheoliadau.

Mae Rheoliad 12 yn gwneud mân ddiwygiad i'r Rheoliadau Mapiau Drafft sy'n ymwneud â'r cyrff y mae'n rhaid ymgynghori a hwy mewn perthynas â mapiau drafft.


Notes:

[1] 2000 p.37. Mae adran 45(1) yn diffinio "regulations" yn Rhan I o'r Ddeddf (mewn perthynas â Chymru) fel rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[2] 1984 p.12.back

[3] O.S. 2001/4001 (Cy.329)back

[4] O.S. 2001/4001 (Cy.329)back

[5] O.S. 2001/4001 (Cy.329).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090532 6


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 2 August 2002