Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1795 (Cy.170)

      Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090526 1. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1795 (Cy.170)

IECHYD CYHOEDDUS, CYMRU

Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 9 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Swn (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Awst 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Cymeradwyo codau ymarfer
    
2. Mae Codau Ymarfer canlynol y Sefydliad Safonau Prydeinig ("British Standards Institution") wedi'u cymeradwyo fel codau addas ar gyfer rhoi cyfarwyddyd ar leiafu swcirc n:

    (a) y Cod Ymarfer ar wybodaeth a gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer rheoli swcirc n a dirgryniad, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 1: 1997 gan ymgorffori Diwygiad Rhif 1, a ddaeth i rym ar 15 Ebrill 1999 (ac sy'n ymwneud â chyflawni gwaith y mae adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 yn gymwys iddo, ymhlith pethau eraill);

    (b) y Cod Ymarfer sy'n gymwys i echdynnu glo arwyneb drwy ddefnyddio dulliau cloddio brig, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 3: 1997, a ddaeth rym ar 15 Mai 1997;

    (c) y Cod Ymarfer ar gyfer rheoli swcirc n a dirgryniad sy'n gymwys i waith gosod pyst, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 4: 1992, a ddaeth i rym ar 1 Mai 1992, fel y'i diwygiwyd gan Ddiwygiad Rhif 1 a ddaeth i rym ar 15 Gorffennaf 1993 (ac sy'n ymwneud â chyflawni gwaith y mae adran 60 o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 yn gymwys iddo, ymhlith pethau eraill); ac

    (ch) y Cod Ymarfer sy'n gymwys i safleoedd echdynnu mwynau (heblaw glo) arwyneb, sy'n dwyn y rhif BS 5228: Rhan 5: 1997, a ddaeth i rym ar 15 Tachwedd 1997.

Diddymu
    
3. Mae Gorchymyn Rheoli Swcirc n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1984[3] a Gorchymyn Rheoli Swcirc n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1987[4] wedi'u diddymu mewn perthynas â Chymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan adrannau 71 a 104(1) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo codau ymarfer er mwyn rhoi cyfarwyddyd ar ddulliau priodol o leiafu swcirc n (sy'n cynnwys dirgryniad) a rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo cod ymarfer o'r fath ar gyfer cyflawni gweithfeydd y mae adran 60 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith adeiladu a thrwsio ffyrdd, gwaith dymchwel, gwaith carthu a mathau eraill o weithfeydd adeiladu peirianyddol.

Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i gymeradwyo codau ymarfer wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo'r pedwar cod ymarfer a grybwyllir yn Erthygl 2. Mae'r cod ymarfer ar wybodaeth a gweithdrefnau sylfaenol ar gyfer rheoli swcirc n a dirgryniad a grybwyllir yn Erthygl 2(a) yn gymwys i bob safle adeiladu a safle agored. Mae'r codau ymarfer a grybwyllir yn Erthygl 2(b), (c) a (ch) yn gymwys, yn ychwanegol, i echdynnu glo arwyneb, gwaith gosod pyst a safleoedd echdynnu mwynau arwyneb yn y drefn honNo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Rheoli Swcirc n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladau a Safleoedd Agored) 1984 a Gorchymyn Rheoli Swcirc n (Codau Ymarfer ar gyfer Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) 1987 mewn perthynas â Chymru.

Gellir cael copiau o'r codau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo, yn bersonol neu drwy'r post, oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig ("British Standards Institution"). Eu cyfeiriad yw Customer Services Sales Department, BSI, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL; ffôn 020 8996 7000.

Dyma rifau ISBN y codau ymarfer sydd wedi'u cymeradwyo:

BS 5228: Rhan 1: 1997 (gyda Diwygiad 1) ISBN 0 580 26845 4
BS 5228: Rhan 3: 1997 ISBN 0 580 26874 8
BS 5228: Rhan 4: 1992 ISBN 0 580 20381 6
BS 5228: Rhan 5: 1997 ISBN 0 580 28306 2


Notes:

[1] 1974 p.40.back

[2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1984/1992.back

[4] O.S. 1987/1730.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090526 1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 29 July 2002