Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090533 4. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11, 32, 38(6) a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, bydd i eiriau neu ymadroddion yr ystyr a roddir iddynt yn y Ddeddf ac:
er o dan reoliad 31 i estyn yr amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, y terfynau hynny fel y'u hestynnwyd;
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni phennir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw. Camau gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw ffurflen apêl i law 3. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol resymol ar ôl iddo gael ffurflen apêl wedi'i chwblhau, anfon copi ohoni at yr atebydd. Ymateb gan atebydd i apêl 4. - (1) Rhaid i'r atebydd, o fewn 14 diwrnod ar ôl iddo gael ffurflen apêl oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:
(b) copïau o unrhyw ohebiaeth berthnasol rhwng yr apelydd a'r atebydd; (c) mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, copi o ddarn o fap sy'n dangos y rhan honno o'r map dros dro y mae'n berthnasol iddi; (ch) copïau o unrhyw sylwadau a wnaed i'r atebydd gan unrhyw berson heblaw'r apelydd mewn perthynas â phenderfyniad ar ran yr atebydd y mae'r apêl yn berthnasol iddi; a (d) unrhyw wybodaeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.
(2) Pan fydd yr atebydd wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (1), rhaid i'r atebydd, cyn i'r cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliad 5(2) ddirwyn i ben, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:
(b) datganiad a ydyw'n dymuno cael gwrandawiad gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'n dymuno cael gwrandawiad mewn ymchwiliad lleol neu, ar y llaw arall, mewn gwrandawiad, ac (c) unrhyw wybodaeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.
Hysbysu'r partïon o'r weithdrefn apêl
(b) yn achos apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, ar ôl i dri mis ddirwyn i ben o ddyddiad dyroddir map dros dro y mae'r apêl yn berthnasol iddo,
p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(b) gwrandawiad; neu (c) nid (a) na (b), a chan hynny caiff ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(4) Y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan baragraff (1) yw'r "dyddiad cychwyn" at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r apêl y mae'n cyfeirio ati a rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad i'r perwyl hwnnw.
(b) os yw'n ymarferol, cyhoeddi hysbysiad o'r apêl ar wefan a gynhelir gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol; ac (c) mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, anfon hysbysiad o'r apêl at y cyrff a restrir yn Atodlen 1 i Reoliadau'r Mapiau Dros Dro.
(2) Rhaid i hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff (1)(c) gael ei dyddio a rhaid datgan:
(b) digon o wybodaeth i adnabod y tir y dygwyd yr apêl mewn perthynas ag ef; (c) os yw'r apel yn cael ei dwyn o dan adran 6 o'r Ddeddf, ar ba rai o'r seiliau a bennir yn adran 6(3) o'r Ddeddf y mae'n cael ei dwyn; (ch) y cyfeirnod a ddyrannwyd i'r apêl; (d) y dyddiad cychwyn; (dd) y dulliau y mae aelodau o'r cyhoedd yn gallu archwilio, a gael copïau o'r dogfennau sy'n ymwneud â'r apêl; (e) y gellir gwneud sylwadau sy'n ymwneud â'r apêl, a gaiff fod naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn ysgrifenedig neu mewn ffurf electronig i'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn y dyddiad hwnnw a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid i'r dyddiad hwnnw beidio â bod yn gynharach na 6 wythnos ar ôl y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad yn unol â pharagraff (1)(a) neu (b), ac y bydd copïau o'r sylwadau hynny yn cael eu darparu i'r apelydd ac i'r atebydd; (f) y cyfeiriad y mae unrhyw gyfathrebiad ysgrifenedig at y Cynulliad Cenedlaethol i gael ei anfon iddo; (ff) p'un a ydyw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol neu wrandawiad neu os yw i gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig; (g) os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, y bydd person sy'n gwneud sylwadau yn unol â pharagraff (2)(g) yn cael ei hysbysu o ddyddiad a lle'r ymchwiliad a chaiff fod yn bresennol yn yr ymchwiliad, ond y caniateir iddo gymryd rhan yn yr ymchwiliad yn unig gyda chaniatâd y person a benodwyd i'w gynnal; ac (ng) os yw'r apêl i gymryd ffurf gwrandawiad, y bydd y person sy'n gwneud sylwadau yn unol â pharagraff 2(g) yn cael ei hysbysu o ddyddiad a lle'r gwrandawiad ond y caniateir iddo fod yn bresennol a chymryd rhan yn y gwrandawiad yn unig gyda chaniatâd y person a benodwyd i'w gynnal.
(3) Os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, a bod y Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff 1(a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff 1(c) hefyd gydymffurfio â gofynion rheoliad 18(2)(b). Cymhwysiad 7. Mae rheoliadau 8 a 9 yn gymwys i apelau sydd i'w penderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig. Cyfnewid tystiolaeth 8. - (1) Yn ychwanegol at unrhyw ddogfennau a anfonwyd eisoes at y Cynulliad Cenedlaethol gan yr apelydd yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Mapiau Dros Dro (mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf), a chan yr atebydd yn unol â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, rhaid i'r apelydd a'r atebydd, o fewn 6 wythnos o'r dyddiad cychwyn, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ddau gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach neu ddogfennau eraill y maent yn dymuno dibynnu arnynt, neu, os nad ydynt yn dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach o'r fath neu ddogfennau eraill, hysbysiad i'r perwyl hwnnw. (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl cael unrhyw sylwadau pellach, dogfennau eraill neu hysbysiadau yn unol â pharagraff (1), anfon copi o'r sylwadau, y dogfennau neu'r hysbysiadau hynny at yr apelydd neu'r atebydd, fel y bo'n briodol. (3) Rhaid i'r apelydd a'r atebydd, o fewn 9 wythnos o'r dyddiad cychwyn, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ddau gopi o unrhyw sylwadau pellach, dogfennau eraill neu hysbysiadau y maent yn dymuno dibynnu arnynt, neu os nad ydynt yn dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach neu ddogfennau eraill, hysbysiad i'r perwyl hwnnw. (4) Pan fydd sylwadau wedi'u gwneud i'r Cynulliad Cenedlaethol gan unrhyw un heblaw'r apelydd neu'r atebydd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl cael y sylwadau hynny, anfon copi ohonynt at yr apelydd a'r atebydd, a rhaid iddynt, os ydynt yn dymuno cyflwyno unrhyw sylwadau ar y sylwadau hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol, anfon dau gopi o'u sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 9 wythnos o'r dyddiad cychwyn. (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn achos penodol, wahodd yr apelydd a'r atebydd i anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at ei gilydd, o fewn yr amser rhesymol hwnnw y gall ei bennu, sylwadau pellach neu ddogfennau eraill y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn galluogi'r apêl i gael ei phenderfynu. Penderfyniad ar apêl a benderfynir drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig 9. - (1) Caiff y person penodedig, ar ôl i unrhyw derfynau amser ddirwyn i ben erbyn pryd y mae'n ofynnol neu y caniateir i'r apelydd neu'r atebydd gymryd unrhyw gam yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac ar ôl rhoi i'r apelydd a'r atebydd hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny, fynd rhagddo i benderfynu'r apêl drwy gymryd i ystyriaeth y sylwadau a'r dogfennau eraill hynny a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn y terfynau amser perthnasol. (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ei benderfyniad ar apêl, a'i resymau dros ddod i'r penderfyniad hwnnw, yn ysgrifenedig:
(b) i'r atebydd; (c) i unrhyw berson â diddordeb; ac (ch) i unrhyw berson arall sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y mae'n rhesymol ei hysbysu.
Cymhwysiad 10. Mae rheoliadau 11 i 16 yn gymwys i apelau sydd i'w penderfynu ar ôl gwrandawiad. Cyfnewid tystiolaeth 11. Mae rheoliad 8 i'w gymhwyso i apêl sydd i'w phenderfynu ar ôl gwrandawiad fel y mae i apêl sydd i'w phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig. Dyddiad a hysbysiad gwrandawiad 12. - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud y canlynol:
(b) cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl unrhyw newid yn hunaniaeth y person penodedig, rhoi hysbysiad o'r newid hwnnw i'r personau sydd â hawl i gael eu hysbysu yn unol ag is-baragraff (a), onid nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny cyn cynnal y gwrandawiad, ac os felly rhaid datgan enw'r person penodedig a'r ffaith bod y person hwnnw wedi'i benodi ar ddechrau'r gwrandawiad; (c) oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar gyfnod llai o hysbysiad gyda'r apelydd a'r atebydd, rhoi hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn llai na 4 wythnos i'r apelydd, yr atebydd, unrhyw berson â diddordeb a phersonau eraill y gwêl yn dda o'r dyddiad, amser a'r lle a drefnwyd ar gyfer y gwrandawiad; a (ch) heb fod yn llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir i gynnal y gwrandawiad, cyhoeddi hysbysiad o'r gwrandawiad yn un neu fwy o'r papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir y tir ynddi.
(2) Rhaid i bob hysbysiad o wrandawiad a roddir yn unol â pharagraff (1)(c) neu a gyhoeddir yn unol â pharagraff (1)(ch) gynnwys:
(b) disgrifiad ysgrifenedig o'r tir sy'n ddigonol i ddynodi ei leoliad a'i hyd a'i led; (c) disgrifiad byr o destun yr apêl; ac (ch) manylion ynghylch ble a phryd y gellir archwilio copïau o'r dogfennau perthnasol i'r apêl.
(3) Er gwaethaf paragraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal y gwrandawiad, p'un a ydyw'r dyddiad fel y'i hamrwyiwyd o fewn y cyfnod sydd fel arall yn ofynnol gan y paragraff hwnnw neu beidio, ac mae paragraff (1)(c) a (ch) yn gymwys i'r dyddiad a amrywiwyd fel yr oedd yn gymwys i'r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.
(b) gwrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu ganiatáu i'r person ddychwelyd yn unig o dan yr amodau hynny y gall y person penodedig eu pennu,
ond caiff person o'r fath gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i'r person penodedig cyn i'r gwrandawiad gau.
(b) rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am ailagor y gwrandawiad,
ar yr amod bod y sylwadau ysgrifenedig hynny neu'r cais i ailagor y gwrandawiad yn dod i law'r Cynullaid Cenedlaethol o fewn 3 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad.
(b) mae rheoliad 12(1)(c) a (ch) i fod yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriadau at wrandawiad yn gyfeiriadau at wrandawiad a ailagorwyd.
Hysbysu'r penderfyniad
(b) i'r atebydd; (c) i unrhyw berson arall a gymerodd ran yn y gwrandawiad a gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad.
(2) Caiff unrhyw berson â hawl i gael ei hysbysu o'r penderfyniad o dan baragraff (1) wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, i gael cyfle i archwilio unrhyw ddogfennau a restrir yn yr hysbysiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi'r cyfle hwnnw i'r person hwnnw. Cymhwysiad 17. Mae rheoliadau 18 i 28 yn gymwys i apelau sydd i'w penderfynu yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus lleol. Y weithdrefn pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn peri bod cyfarfod cyn-ymchwiliad yn cael ei gynnal 18. - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad:
(b) o ran ymchwiliadau byrrach, os yw'n ymddangos eu bod yn angenrheidiol.
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad:
(ii) datganiad o'r materion y mae'n benodol yn dymuno cael gwybodaeth amdanynt at ddibenion ei ystyriaethau ar yr apêl o dan sylw;
(b) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnwys yn yr hysbysiad y mae'n ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 6(1)(a) neu (b) neu y mae'n ei anfon yn unol â rheoliad 6(1)(c), hysbysiad o'i fwriad i gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad a datganiad o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a)(ii); ac
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o ddatganiad amlinellol yr atebydd at yr apelydd a datganiad amlinellol yr apelydd at yr atebydd.
(b) mae i benderfynu'r materion sydd i'w trafod a'r weithdrefn sydd i'w dilyn; (c) caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad, sydd ym marn y person penodedig yn ymddwyn mewn dull aflonyddgar i ymadael; ac (ch) caiff wrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach, neu ganiatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu fod yn bresennol yn unig o dan yr amodau y caiff y person penodedig eu pennu.
(8) Os cafodd cyfarfod cyn-ymchwiliad ei gynnal yn unol â pharagraff (1), caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach a rhaid iddo drefnu rhoi hysbysiad o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol i'r person penodedig; ac mae paragraff (7) i fod yn gymwys i gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach o'r fath.
(b) os cynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, o fewn 4 wythnos i'r cyfarfod cyn-ymchwiliad hwnnw ddod i ben,
bod dau gopi o ddatganiad o achos yr atebydd wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi o'r datganiad o achos hwnnw wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi o'r datganiad o achos hwnnw'n cael ei roi iddo.
(b) os cynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, o fewn 4 wythnos i'r cyfarfod cyn-ymchwiliad hwnnw ddod i ben,
bod dau gopi o ddatganiad o achos yr apelydd wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi o'r datganiad o achos hwnnw wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi o'r datganiad o achos hwnnw'n cael ei roi iddo.
(b) copi o'i ddatganiad o achos i unrhyw berson â diddordeb a bennwyd,
a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o bob datganiad o achos o'r fath at yr apelydd ac at yr atebydd.
(b) hysbysu'r person hwnnw o enw a chyfeiriad pob person y mae'n ofynnol anfon datganiad o achos y person hwnnw ato.
(8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sydd wedi anfon datganiad o achos ato yn unol â'r rheoliad hwn, roi unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y materion a gynhwysir yn y datganiad o achos y caiff eu pennu a chaiff bennu'r amser erbyn pryd mae'n rhaid i'r wybodaeth ddod i law.
(b) bod copi wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol ei roi iddo o fewn yr amser a bennwyd,
a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl iddo ddod i law, anfon copi at yr apelydd o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr atebydd ac anfon copi at yr atebydd o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr apelydd.
(b) bod copi wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y gall fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei wneud yn ofynnol i'w rhoi o fewn yr amser penodedig,
a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r wybodaeth bellach at yr atebydd ac at yr apelydd.
(b) o ran berthnasol o unrhyw ddogfen,
y cyfeirir ati yn y rhestr a gynhwysir yn y datganiad hwnnw, onid oes copi o'r ddogfen neu ran o'r ddogfen o dan sylw eisoes ar gael i'w harchwilio yn unol â pharagraff (12).
(b) o ddatganiad o achos yr atebydd ynghyd â chopi o unrhyw ddogfen, neu ran berthnasol o unrhyw ddogfen, y cyfeirir ati yn y rhestr a gynhwysir yn y datganiad hwnnw, ac unrhyw sylwadau ysgrifenedig, gwybodaeth neu ddogfennau eraill a anfonwyd gan yr atebydd yn unol â'r rheoliad hwn.
(13) Os bydd yr atebydd neu'r apelydd yn dymuno gwneud sylw ar ddatganiad o achos y llall rhaid iddynt sicrhau o fewn 9 wythnos i'r dyddiad cychwyn:
(b) bod copi o'i sylwadau ysgrifenedig wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud hi'n ofynnol ei fod yn ei gael,
a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r sylwadau ysgrifenedig a gafwyd oddi wrth yr apelydd at yr atebydd a chopi o sylwadau ysgrifenedig a gafwyd oddi wrth yr atebydd at yr apelydd.
(b) bod copi o'r sylwadau ysgrifenedig hynny wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud hi'n ofynnol iddo ei gael,
a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r sylwadau ysgrifenedig at yr apelydd ac at yr atebydd.
(b) i'r atebydd; (c) i unrhyw berson y gwyddys ar ddyddiad yr hysbysiad fod ganddo hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad; ac (ch) i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos iddo fod ei bresenoldeb yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad yn ddymunol.
(3) Mae rheoliad 18(7) yn gymwys i gyfarfod cyn-ymchwiliad a gynhelir o dan y rheoliad hwn.
(b) os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei bod yn debygol y bydd yr ymchwiliad yn para am wyth diwrnod neu fwy.
(2) Caiff y person penodedig drefnu amserlen ar gyfer y gweithdrefnau mewn unrhyw ymchwiliad arall, neu ran o ymchwiliad arall, a chaiff ar unrhyw adeg, amrywio'r amserlen a drefnwyd o dan y paragraff hwn, neu'r paragraff blaenorol.
(b) mewn achos lle cynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, 8 wythnos ar ôl i'r cyfarfod hwnnw ddod i ben.
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried ei bod yn anymarferol i bennu dyddiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r dyddiad a bennir fod y dyddiad cynharaf ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol a grybwyllir yn y paragraff hwnnw y mae'n ystyried ei fod yn ymarferol.
(b) anfon hysbysiad o'r ymchwiliad at y personau hynny neu'r dosbarthiadau o bersonau y gall eu pennu, o fewn y cyfnod a all bennu.
(7) Rhaid i bob hysbysiad o ymchwiliad a gyhoeddir neu a anfonir yn unol â pharagraph (6),
(b) cynnwys disgrifiad ysgrifenedig o'r tir sy'n ddigonol i alluogi adnabod lleoliad a hyd a lled y tir yn fras; (c) disgrifio'n gryno destun yr apêl; ac (ch) rhoi manylion o lle a phryd y gellir archwilio copïau o ddatganiad o achos yr atebydd ac unrhyw ddogfennau a anfonwyd gan yr atebydd ac a gopïwyd i'r atebydd yn unol â rheoliad 19.
Hawl i fod yn bresennol ac i gymryd rhan mewn ymchwiliad
(b) yr atebydd; ac (c) unrhyw swyddog o unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod parc cenedlaethol y mae eu hardal yn cynnwys tir y mae'r apêl yn berthnasol iddo.
(2) Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn ymchwiliad.
(b) ar yr un pryd anfon copïau o'r rhain at unrhyw berson â diddordeb y gall fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud yn ofynnol iddynt eu cael,
a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o bob proflen dystiolaeth ynghyd â chrynodeb at yr atebydd a'r apelydd.
(b) os cafodd yr amserlen ei threfnu'n unol â rheoliad 21 sy'n pennu dyddiad erbyn pryd mae'n rhaid i broflen dystiolaeth ac unrhyw grynodeb ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol, y dyddiad hwnnw.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon at y person penodedig, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, unrhyw broflen dystiolaeth ynghyd â chrynodeb a anfonwyd ato yn unol â'r rheoliad hwn ac a gafodd o fewn y cyfnod perthnasol a bennir yn y rheoliad hwn.
(b) sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol ac unrhyw berson arall â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi yn cael ei anfon ato yn cael copi ohono heb fod yn llai na 4 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad.
(2) Rhaid i'r atebydd roi i unrhyw berson sy'n gofyn am hynny gyfle rhesymol i archwilio, a lle bo'n ymarferol, gymryd copïau o'r datganiad o dir cyffredin a anfonwyd at y Cynulliad Cenedlaethol.
(b) croesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth; neu (c) cyflwyno unrhyw fater arall,
y mae'r person penodedig o'r farn eu bod yn amherthnasol neu'n ailadroddus; ond os yw'r person penodedig yn gwrthod caniatáu i dystiolaeth lafar gael ei rhoi, caiff y person sy'n dymuno rhoi tystiolaeth gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn i'r ymchwiliad gau.
(b) y mae'r person y cynhwysir ei dystiolaeth yn y broflen dystiolaeth wedyn yn agored i gael ei groesholi arni i'r un graddau â phe bai'n dystiolaeth yr oedd y person hwnnw wedi'i rhoi ar lafar.
(8) Caiff y person penodedig gyfarwyddo bod cyfleusterau'n cael eu rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i gymryd neu gael copïau o dystiolaeth ddogfennol sy'n agored i archwiliad gan y cyhoedd.
(b) gwrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd; neu (c) caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd o dan yr amodau hynny'n unig y caiff y person penodedig eu pennu,
ond caiff y cyfryw berson gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn i'r ymchwiliad gau.
(b) rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau ysgrifenedig i'r person penodedig neu iddynt ofyn am ailagor yr ymchwiliad,
a byddant yn sicrhau bod sylwadau ysgrifenedig o'r fath neu gais i ailagor yr ymchwiliad yn dod i law'r person penodedig o fewn 3 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad.
(b) mae rheoliad 22(3) i (7) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at ymchwiliad yn gyfeiriadau at ymchwiliad a ailagorwyd.
Hysbysu'r penderfyniad
(b) i'r atebydd; (c) i unrhyw berson arall sydd â hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac a gymerodd ran ynddo; ac (ch) i unrhyw berson arall a gymerodd ran yn yr ymchwiliad ac a ofynnodd am gael ei hysbysu o'r penderfyniad.
(2) Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gael ei hysbysu o'r penderfyniad o dan baragraff (1) wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, i gael cyfle i archwilio unrhyw ddogfennau a restrir yn yr hysbysiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi'r cyfle hwnnw i'r person hwnnw. Tynnu apêl yn ôl 29. - (1) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o'i ddymuniad i wneud hynny. (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n rhesymol ar ôl cael hysbysiad o dynnu apêl yn ôl, roi hysbysiad o'r ffaith honno i bob un o'r personau y rhoddwyd hysbysiad iddynt o dan reoliad 5(1). Newid yn ffurf apêl 30. Os yw'n ymddangos ar unrhyw adeg i'r Cynulliad Cenedlaethol ei bod yn fwy priodol fod apêl yn cael ei phenderfynu mewn dull sy'n wahanol i'r ffurf a hysbyswyd o dan reoliad 5, caiff benderfynu bod apêl i barhau mewn ffurf heblaw'r un a hysbyswyd a chaiff roi unrhyw ganllawiau canlyniadol o ran y weithdrefn sydd i'w chymhwyso mewn perthynas â'r apêl, gan gynnwys nodi unrhyw gamau y mae gofyn eu cymryd gan y partïon o dan y Rheoliadau hyn ac y bernir eu bod eisoes wedi eu cymryd ac amrywio yn ôl yr angen yr amser o fewn pryd y caiff unrhyw gam o'r fath na chymerwyd ef eisoes ei gymryd. Gweithdrefnau pellach neu wahanol 31. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'r amgylchiadau sy'n berthnasol i'r apêl benodol yn ei gwneud yn angenrheidiol, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gamau penodedig gael eu cymryd, naill ai yn ychwanegol at y rhai a ragnodwyd gan y rheoliadau hyn neu yn eu lle, a gall estyn yr amser a ragnodwyd gan y Rheoliadau hyn, neu sy'n ofynnol fel arall o dan y Rheoliadau hyn, ar gyfer cymryd unrhyw gamau ond rhaid iddo, cyn gwneud hynny, oni chyfyngir yr effaith i estyniad amser, ymgynghori â'r apelydd a'r atebydd a chaiff ymgynghori ag unrhyw berson â diddordeb a rhaid iddo ystyried y sylwadau a wneir gan unrhyw berson yr ymgynghorir ag ef ynghylch pa mor ddymunol yw'r gofyniad hwnnw. Hysbysiad o benodiad asesydd 32. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn arfer ei hawl o dan baragraff 4(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf i benodi asesydd i gynorthwyo person penodedig i benderfynu apêl, rhaid iddo hysbysu'r apelydd, yr atebydd ac unrhyw berson â diddordeb o enw'r asesydd a'r materion y penodwyd yr asesydd i gynghori'r person penodedig arnynt. Archwiliadau safle 33. - (1) Caiff y person penodedig ar unrhyw adeg wneud archwiliad o'r tir heb fod yng nghwmni neb a heb roi hysbysiad o fwriad i wneud hynny i'r apelydd nac i'r atebydd. (2) Yn ystod ymchwiliad neu wrandawiad neu ar ôl i'r ymchwiliad neu'r gwrandawiad gau, o ran y person penodedig:
(b) rhaid iddo wneud archwiliad o'r fath os gofynnir iddo wneud hynny gan yr apelydd neu'r atebydd cyn neu yn ystod yr ymchwiliad neu wrandawiad.
(3) Os penderfynir apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig, o ran y person penodedig:
(b) rhaid iddo wneud archwiliad o'r fath os gofynnir iddo gan yr apelydd neu'r atebydd cyn bod y person penodedig yn gwneud ei benderfyniad.
(4) Rhaid i'r apelydd gymryd y camau hynny sy'n rhesymol o fewn gallu'r apelydd i alluogi'r person penodedig i gael mynediad i'r tir sydd i'w archwilio. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan adrannau 11, 32 a 38 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf"), mae'r p er gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i wneud rheoliadau i ddarparu gweithdrefnau i'w dilyn wrth benderfynu apelau sy'n cael eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf.Ar y dechrau bydd y Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas ag apelau sy'n cael eu dwyn o dan adran 6 o'r Ddeddf (apelau gan bersonau yn erbyn dangos tir, y mae ganddynt fuddiant ynddo, ar fap dros dro fel tir agored neu dir comin cofrestredig). Bwriedir y bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn ffurfio sail y gweithdrefnau sydd i'w defnyddio wrth benderfynu apelau eraill a gaiff eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf, gan gynnwys y rhai o dan adran 30 o'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod os yw'r awdurdod hwnnw wedi penderfynu peidio caniatáu cais am gyfarwyddyd o dan adran 24 neu 25 o'r Ddeddf neu os yw wedi gweithredu mewn modd nad yw'n unol â'r sylwadau a wnaed o dan adran 27(5) o'r Ddeddf) a'r rhai o dan adran 38 o'r Ddeddf (apêl gan berson y rhoddwyd hysbysiad iddo gan awdurdod o dan adran 36(3) neu 37(1) o'r Ddeddf, neu apêl gan unrhyw berchennog neu feddiannydd arall o'r tir yr effeithir arno gan hysbysiad o'r fath yn erbyn caniatáu hysbysiad o'r fath). Yn y Rheoliadau hyn: Mae Rhan II (rheoliadau 3 i 6) yn nodi'r gweithdrefnau cychwynnol a fydd yn effeithiol p'un a benderfynir yr apêl drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig neu ar ôl gwrandawiad neu ymchwiliad lleol cyhoeddus. Mae'r gweithdrefnau cychwynnol hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n dwyn yr apêl ("yr apelydd"), a'r person y mae ei benderfyniad wedi rhoi bodolaeth i'r apêl ("yr atebydd"), ddarparu gwybodaeth benodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi'r hsybysiadau yn y wasg leol, ac anfon yr hysbysiadau i bersonau a chyrff penodedig y mae ganddynt fuddiant mewn apelau o'r fath, gan roi gwybodaeth ynghylch yr apêl. Mae Rhan III (rheoliadau 7 i 9) yn darparu'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd parti i apêl wedi dewis bod yr apêl yn cael ei phenderfynu drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig. Mae'n ofynnol i'r prif bartïon i'r apêl gyfnewid tystiolaeth cyn i'r person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl wneud ei benderfyniad a hysbysu'r personau a bennir yn rheoliad 9 o'r penderfyniad hwnnw. Mae Rhan IV (rheoliadau 10 i 16) yn darparu'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd parti i apêl wedi dewis y penderfynnir apêl ar ôl gwrandawiad. Bydd angen i'r prif bartïon i'r apêl gyfnewid tystiolaeth yn yr un modd ag y mae angen gan Ran III o'r Rheoliadau ac yna penodir person gan y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl drwy gynnal gwrandawiad. Mae'r Rheoliadau'n darparu i'r prif bartïon i'r apêl, a'r cyhoedd, gael eu hysbysu o'r dyddiad, yr amser a'r lle a drefnwyd ar gyfer y gwrandawiad a phennu'r personau fydd â hawl i fod yn bresennol, a chymryd rhan, a'r weithdrefn i'w dilyn yn y gwrandawiad. Ar ôl i'r gwrandawiad ddod i ben, bydd y person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl yn gwneud ei benderfyniad ac yn hysbysu'r personau a bennir yn rheoliad 16 o'r penderfyniad hwnnw. Mae Rhan V (rheoliadau 17 i 28) yn darparu'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd parti i apêl wedi dewis i apêl gael ei phenderfynu ar ôl ymchwiliad lleol cyhoeddus. Pan fydd ymchwiliad i'w gynnal, mae'r Rheoliadau'n darparu i gyfarfod cyn-ymchwiliad gael ei gynnal os disgwylir i'r prif ymchwiliad bara am 8 diwrnod neu fwy neu os ystyrir bod angen cyfarfod cyn-ymchwiliad beth bynnag. Mae'n ofynnol i'r prif bartïon i'r apêl gyfnewid datganiadau achos a gall personau eraill â diddordeb hefyd gyflwyno sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal yr ymchwiliad drefnu amserlen ar gyfer yr ymchwiliad a bod hysbysiad o'r dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi. Mae'r Rheoliadau yn pennu'r personau fydd â hawl i fod yn bresennol, a chymryd rhan, mewn ymchwiliad ac yn nodi pynciau gweithdrefnol eraill mewn perthynas â chynnal yr ymchwiliad. Ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben, bydd y person a benodwyd i benderfynu'r apêl yn gwneud ei benderfyniad ac yn hysbysu'r personau a bennir yn rheoliad 28 o'r penderfyniad hwnnw. Mae Rhan VI (rheoliadau 29 i 36) yn nodi materion amrywiol, gan gynnwys yr hawl i'r apelydd dynnu apêl yn ôl, pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol i newid y dull y mae apêl yn cael ei chynnal, penodi person ("aseswr") i gynorthwyo'r person a benodwyd i benderfynu apêl a chynnal gwrandawiad neu ymchwiliad ar y cyd pan fydd pynciau sy'n gyffredin i fwy nag un apêl yn cael eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf, p er i'r person a benodwyd i benderfynu apêl i ymweld â'r tir sy'n destun yr apêl a'i archwilio, p er i ddefnyddio dulliau electronig o gyfathrebu gan y partïon a gofyniad bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi'r penderfyniadau a wneir mewn apelau a ddygir o dan Ran I o'r Ddeddf ar ei wefan.Notes: [1] 2000 p.37. Mae adran 45(1) yn diffinio "regulations" yn Rhan 1 o'r Ddeddf (mewn Perthynas â Chymru) fel rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [2] O.S. 2002/1796 (Cy.171)back
ISBN 0 11090533 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 5 August 2002 |