Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1736 (Cy.166) (C.53)

      Gorchymyn Deddf Digartrefedd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Deddf Digartrefedd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090521 0. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1736 (Cy.166) (C.53)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Digartrefedd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 4 Gorffennaf 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 20(1) a (3) o Ddeddf Digartrefedd 2002[1]:

Enw, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Digartrefedd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Digartrefedd 2002 ("y Ddeddf") ac Atodlenni iddi.

Y diwrnodau penodedig
    
2.  - (1) Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yng Nghymru yw 30 Medi 2002.

    (2) Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yng Nghymru yw 27 Ionawr 2003.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Gorffennaf 2002



YR ATODLEN
Erthygl 2



RHAN 1

Y DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 30 MEDI 2002

adran 1 (Dyletswydd ar awdurdod tai lleol i fformiwleiddio strategaeth digartrefedd)
adran 2 (Adolygiadau digartrefedd)
adran 3 (Strategaethau digartrefedd)
adran 4 (Adran 1 i 3: dehongli)
adran 5 (Darparu llety ar gyfer pobl nad yw eu hanghenion yn flaenoriaeth nad ydynt yn ddigartref o fwriad)
adran 6 (Diddymu'r isafswm cyfnod y mae awdurdod yn ddarostyngedig i brif ddyletswydd digartrefedd)
adran 7 (Digwyddiadau sy'n achosi'r prif ddyletswydd digartrefedd i ddod i ben)
adran 9 (Diddymu dyletswydd o dan adran 197)
adran 10 (Personau sy'n honni eu bod yn ddigartref sydd mewn perygl o drais)
adran 11 (Adran 204(4): apelau)
adran 12 (Cydweithredu mewn rhai achosion sy'n cynnwys plant)
adran 17 (Cymru)
adran 18 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau)  -  heblaw i'r graddau y mae'n berthnasol i'r darpariaetha yn yr Atodlenni i'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.
adran 19 (Darpariaethau ariannol)
Atodlen 1 (Mân ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol)  -  heblaw am baragraffau 1 i 7 yn gynwysiedig
Yn Atodlen 2 (Diddymiadau),
Deddf Tai 1996 (p.52) Adran 191(4)

Yn adran 193, yn is-adran(1), y geiriau o "This section" i'r diwedd, ac yn is-adran (8), y geiriau "of accommodation under Part VI".

Adran 194

Yn adran 195, yn is- adran(2), y geiriau o "This subsection" i'r diwedd ac, yn is- adran (4), y geiriau o "and section" i "duty)".

Adran 196(4)

Adran 197

Yn adran 198(1), y geiriau o "The authority" i'r diwedd.

Yn adran 200(5), y geiriau "(3) or (4)".

Yn adran 205(1) y cofnod mewn perthynas ag adran 207.

Adran 207

Yn adran 218, y cofnod ar gyfer "minimum period"

Deddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p.33) Adran 117(4)



RHAN 2

Y DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 27 IONAWR 2003

adran 13 (Cymhwyso Rhan 6 ar gyfer tenantiaid presennol)
adran 14 (Diddymu'r ddyletswydd i gadw cofrestr tai)
adran 15 (Cais am lety tai)
adran 16 (Cynlluniau neilltuo)
adran 18 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau)  -  i'r graddau nad ydyw wedi dod i rym erbyn y dyddiad hwnnw
Atodlen 1 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)  -  paragraffau 1, 2, 4, 5 a 6
Atodlen 2 (Diddymiadau)
Deddf Tai 1985 (p.68) Yn adran 106(6), y geiriau "housing registers and".
Deddf Tai 1996 (p.52) Adrannau 161 i 165.

Yn adran 174, y cofnodion ar gyfer "housing register" a "qualifying person".

Deddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p.33) Adran 117 (3)



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Derbyniodd Deddf Digartrefedd 2002 ("y Ddeddf") Gydsyniad Brenhinol ar 26 Chwefror 2002.

Daeth adran 8 a pharagraffau 3 a 7 o Atodlen 1 i'r Ddeddf i rym pan roddwyd Cydsyniad Brenhinol iddynt. Mae'r gorchymyn hwn yn dod â gweddill darpariaethau'r Ddeddf i rym yng Nghymru ar 30 Medi 2002 yn achos y darpariaethau digartrefedd ac ar 27 Ionawr 2003 yn achos y darpariaethau neilltuo tai.


Notes:

[1] 2002 p.7.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090521 0


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 17 July 2002