i) ar ôl ymgynghori â'r pwyllgor a sefydlwyd[1] o dan adran 140(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[2];
ii) ar ôl cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol ag adran 140(6)(b) o'r Ddeddf honno;
iii) ar ôl ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â'r hysbysiad hwnnw;
o'r farn ei bod yn briodol gwneud y Rheoliadau hyn er mwyn atal y sylweddau neu'r eitemau a bennir ynddynt rhag llygru'r amgylchedd a niwedio iechyd anifeiliaid, ac felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 140 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "aderyn gwyllt" ("wild bird") yw unrhyw aderyn o fath sy'n preswylio'n gyffredin yng Nghymru yn gyffedinol, neu syn ymweld öa Chymru, mewn cyflwr gwyllt;
ystyr "Rheoliadau 2001" ("the 2001 Regulations") yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001[4];
ystyr "gwn cetris" ("shot gun") yw gwn â baril llyfn ond nid yw'n cynnwys unrhyw wn cetris â siambr ar gyfer cetris ymyl-danio naw milimetr neu lai;
ystyr "peledi plwm" ("lead shot") yw unrhyw beledi sydd wedi'u gwneud -
(a) o blwm, neu
(b) o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r cyfansoddyn hwnnw;
ystyr "person awdurdodedig" ("authorised person") yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 4(1) isod;
mae "safle" ("premises") yn cynnwys unrhyw dir, cerbyd neu gwch, ond nid yw'n cynnwys safle sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl;
ystyr "safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig" ("site of special scientific interest") yw ardal sydd wedi ei hysbysu o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981[5].
Gwahardd defnyddio cetris sy'n cynnwys peledi plwm
3.
Ni chaiff neb ddefnyddio peledi plwm er mwyn saethu gyda gwn cetris -
(a) ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;
(b) ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu
(c) unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau.
Pwerau mynediad er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau
4.
- (1) Gall person sy'n ymddangos yn addas i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol i arfer, yn unol â thelerau'r awdurdod, unrhyw un o'r pwerau a bennir ym mharagraff (2) isod at ddiben penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.
(2) Dyma'r pwerau y gall person awdurdodedig gael ei awdurdodi i'w harfer o dan baragraff (1) uchod -
(a) mynd i mewn ar unrhyw adeg resymol i unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig le i gredu ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn iddo;
(b) wrth fynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd is-baragraff (a) uchod bod gydag ef -
(i) unrhyw berson awdurdodedig arall;
(ii) os bydd sail resymol dros ddisgwyl unrhyw rwystr difrifol a fyddai'n atal y person awdurdodedig rhag cyflawni ei ddyletswydd, gwnstabl; ac
(iii) unrhyw gyfarpar (heblaw cyfarpar trwm) neu ddefnyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben mae'r p
er mynediad ar ei gyfer;
(c) wneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad sy'n angenrhediol o dan yr amgylchiadau;
(ch) cymryd unrhyw aderyn gwyllt sy'n farw neu wedi'i anafu neu beri bod samplau yn cael eu cymryd o unrhyw eitemau neu sylweddau sy'n cael eu darganfod mewn neu ar unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig b
er i fynd i mewn iddo ac i beri bod unrhyw aderyn neu sampl felly yn cael ei ddadansoddi neu'i brofi;
(d) yn achos unrhyw aderyn neu sampl a grybwyllir yn is-baragraff (ch) uchod, cymryd meddiant ohono a'i gadw gyhyd ag y mae ei angen at y cyfan neu unrhyw rai o'r dibenion canlynol, sef -
(i) ei archwilio, neu beri iddo gael ei archwilio, ac i wneud unrhyw beth iddo y mae gan y person awdurdodedig b
er i'w wneud o dan yr is-baragraff hwnnw neu beri i hynny gael ei wneud;
(ii) sicrhau na fydd neb yn ymyrryd ag ef cyn bod yr archwiliad ohono wedi'i gwblhau;
(iii) sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos llys ar gyfer tramgwydd.
(3) Pan fydd person awdurdodedig yn bwriadu mynd i mewn i unrhyw safle a -
(a) bod mynediad wedi cael ei wrthod a bod y person awdurdodedig yn disgwyl ar seiliau rhesymol y gall fod yn angenrheidiol defnyddio grym i lwyddo i fynd mewn; neu
(b) bod y person awdurdodedig yn disgwyl, ar seiliau rhesymol, y bydd mynediad yn debyg o gael ei wrthod ac y gall fod yn angenrheidiol i ddefnyddio grym i lwyddo i fynd i mewn,
rhaid mynd i mewn i'r safle hwnnw yn rhinwedd y rheoliadau hyn o dan awdurdod gwarant yn rhinwedd paragraff (4) isod yn unig.
(4) Os dangosir i ynad heddwch drwy dystiolaeth ysgrifenedig ar lw -
(a) bod yna seiliau rhesymol dros arfer, mewn perthynas ag unrhyw safle, b
er o dan y rheoliad hwn (gan gynnwys p
er sy'n arferadwy yn unol â gwarant o dan y paragraff hwn), a
(b) bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (5) isod wedi ei gyflawni,
gall yr ynad awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol trwy warant i ddynodi person a awdurdodir i arfer y p
er mewn perthynas â'r safle, yn unol â'r warant a thrwy rym os bydd angen.
(5) Yr amodau a grybwyllir yn is-baragraff 4(b) uchod yw -
(a) bod arfer y p
er mewn perthynas â'r safle wedi'i wrthod;
(b) y disgwylir yn rhesymol y bydd yn cael ei wrthod;
(c) bod y safle heb ei feddiannu;
(ch) bod y meddiannydd yn absennol dros dro o'r safle a bod yr achos yn un brys; neu
(d) y byddai cais am fynediad i'r safle yn trechu diben y mynediad arfaethedig.
(6) Bydd pob gwarant a roddwyd o dan baragraff (4) uchod yn parhau mewn grym nes bod y dibenion y rhoddwyd y gwarant ar eu cyfer wedi eu cyflawni.
(7) Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, ddangos tystiolaeth am yr awdurdod neu'r dynodiad (os gofynnir iddo wneud hynny).
(8) Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, sydd, trwy arfer unrhyw b
er a roddir gan y rheoliad hwn, yn mynd i mewn i unrhyw safle nad yw wedi'i feddiannu neu y mae ei feddiannydd yn absennol dros dro, adael y safle wedi ei sicrhau yn erbyn tresmaswyr yr un mor effeithiol â chyn i'r person hwnnw fynd i mewn iddo.
(9) Ni fydd person awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, yn atebol mewn unrhyw achos sifil na throseddol am unrhyw beth a wnaed trwy honni arfer unrhyw b
er a roddir gan y rheoliad hwn os bydd y llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi ei chyflawni'n ddidwyll a bod seiliau rhesymol dros ei chyflawni.
Tramgwyddau
5.
- (1) Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 3 uchod neu sy'n peri neu'n caniatáu i unrhyw berson arall dorri'r rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro person sy'n gweithredu trwy arfer unrhyw b
er o dan reoliad 4 uchod yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Diddymu Rheoliadau 2001
6.
Diddymir Rheoliadau 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2002
ATODLEN 1Rheoliad 3(b)
SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG
|
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
|
Dyddiad Dynodi o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
|
Lleoliad (Cyfeirnod Grid OS) (gweler y nodyn isod)
|
|
Angle Bay |
04/03/1993 |
SM883025 |
|
Beddmanarch-Cymyran |
25/09/1998 |
SH275790 |
|
Broadwater |
13/01/1993 |
SH582027 |
|
Burry Inlet and Loughor Estuary |
25/09/1989 |
SS135985 |
|
Carew and Cresswell Rivers |
04/03/1993 |
SN025055 |
|
Cosheston Pill |
04/03/1993 |
SM990036 |
|
Daugleddau |
04/03/1993 |
SN003116 |
|
Dee Estuary |
23/09/1998 |
SJ220800 |
|
Dyfi |
14/03/1995 |
SN635950 |
|
Flatholm |
10/03/1993 |
ST220649 |
|
Gronant Dunes / Talacre Warren |
29/01/1998 |
SJ100847 |
|
Inner Marsh Farm |
11/02/1995 |
SJ307735 |
|
Laugharne and Pendine Burrows |
18/02/1990 |
SN290070 |
|
Llyn Alaw |
29/03/1985 |
SH390865 |
|
Llyn Syfaddan / Llangorse Lake |
09/02/1983 |
SO133265 |
|
Llyn Traffwll |
18/02/1986 |
SH325770 |
|
Llynnoedd y Fali / Valley Lakes |
22/05/1986 |
SH310770 |
|
Morfa Harlech |
25/05/2001 |
SH570660 |
|
Ynys Llanddwyn / Newborough Warren |
09/03/1995 |
SH400640 |
|
Pembrey Coast |
10/11/1983 |
SN316054 |
|
Pembroke River and Pwll Crochan Flats |
04/03/1993 |
SM940025 |
|
Severn Estuary |
02/02/1989 |
ST226758 |
|
Shotton Lagoon and Reedbeds |
19/10/1999 |
SJ298709 |
|
Sully Island |
16/12/1986 |
ST167670 |
|
Teifi Estuary |
08/12/1997 |
SN158502
SN785675
|
|
Traeth Lafan |
24/09/1984 |
SH630750 |
|
Whiteford Burrows and Landimore Marsh |
04/04/1984 |
SS450955 |
Nodyn: Mae cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans yn rhoi pwynt o fewn y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
ATODLEN 2Regulation 3(c)
ADAR GWYLLT MEWN PERTHYNAS Â HWY Y MAE'R GWAHARDDIAD AR SAETHU Â PHELENNI PLWM YN GYMWYS IDDYNT
|
Enw Cyffredin
|
Enw Gwyddonol
|
|
Cwtiar |
Fulica Atra |
|
Hwyaid a Gwyddau (holl rywogaethau pob un ohonynt) |
Anatidae |
Iâr Dd r |
Gallinula chloropus |
Nodyn: Mae'r enw neu'r enwau cyffredin yn cael eu cynnwys fel canllaw yn unig; os bydd unrhyw anghydfod neu achos, rhaid peidio â chymryd yr enw neu'r enwau cyffredin i ystyriaeth.
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwahardd defnyddio peledi plwm ar gyfer saethu â gwn cetris -
(a) ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;
(b) ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu
(c) unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau sef hwyaid a gwyddau (pob rhywogaeth o bob un ohonynt), cwtiar ac iâr ddwr (rheoliad 3).
Ystyr "peledi plwm" yw unrhyw beledi o blwm neu o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r cyfansoddyn (rheoliad 2).
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer pwerau mynediad ac archwilio, p
er i gymryd samplau, a ph
er i gymryd unrhyw adar meirw neu rai sydd wedi'u hanafu, er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau.
Mae Rheoliad 5 yn darparu bod torri rheoliad 3, neu rwystro person sy'n arfer unrhyw b
er o dan reoliad 4, yn dramgwydd troseddol y gellir ei gosbi drwy ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Cofrestrir hysbysiadau o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 fel pridiannau tir lleol (adran 28(9) o'r Ddeddf honno).
Gellir cael manylion o'r ardaloedd sy'n cael eu cynnwys yn y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2LQ.
Diddymir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4003 (Cy.331)) (rheoliad 6).
Notes:
[1]
O.S. 1991/1487.back
[2]
1990 p.43back
[3]
Trosglwyddwyd y pwerau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 / 672).back
[4]
O.S. 2001 / 4003 (Cy.331).back
[5]
1981 p. 69.back
[6]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11090550 4