Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1729 (Cy.163)

      Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090528 8. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1729 (Cy.163)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 4 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 19 Gorffennaf 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 19 Gorffennaf 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Deddf 1970" yw Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970.

Dynodi cyrff cyhoeddus
    
2. Bydd y personau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, gan eu bod yn bersonau y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, yn gyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf 1970.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Gorffennaf 2002



YR ATODLEN
Erthygl 2


Cyrff Cyhoeddus


Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyngor Gofal Cymru

Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 1(5) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 ("Deddf 1970") yn rhoi pwcircer i'r Ysgrifennydd Gwladol bennu'n gorff cyhoeddus, at ddibenion Deddf 1970, berson neu ddisgrifiad o bersonau y mae'n ymddangos eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus. Mae'r pwcirc er hwn yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Gofal Cymru a Chyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant yn gyrff cyhoeddus at ddibenion Deddf 1970.


Notes:

[1] 1970 p.39.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090528 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 1 August 2002