Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1663 (Cy.158)

      Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002, ISBN 0 11090514 8. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1663 (Cy.158)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 25 Mehefin 2002 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(b) a (10)(aa) a 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

    ystyr "athro neu athrawes berthnasol" ("relevant teacher") yw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes (pa un a ddisgrifir y swydd y cyflogir y person ynddi yn swydd addysgu ai peidio) mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach ac eithrio - 

    (a) person a gyflogir i addysgu cyrsiau addysg uwch yn unig, a

    (b) person nad addysgu yw ei brif alwedigaeth neu broffesiwn ac a gyflogir gan y coleg ar sail dros dro neu achlysurol i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar arferion diwydiannol, masnachol neu broffesiynol cyfredol;

    ystyr "cymhwyster addysgu AB cam 3" ("stage 3 FE teaching qualification") yw cymhwyster y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

    ystyr "cymhwyster addysgu AB cam 2" ("stage 2 FE teaching qualification") yw cam canol y cymhwyster addysgu AB cam 3 y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

    ystyr "cymhwyster addysgu AB cam 1" ("stage 1 FE teaching qualification") yw cam rhagarweiniol y cymhwyster addysgu AB cam 3 y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

    ystyr "cymhwyster Rheoliadau 1999" ("1999 Regulations qualification") yw cymhwyster sy'n rhoi i berson statws athro neu athrawes gymwysedig o fewn ystyr rheoliad 10 o Reoliadau 1999;

    ysytyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "sefydliad o fewn y sector addysg bellach" ("institution within the further education sector") yw sefydliad o fewn ystyr "institutions within the further education sector" yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[4];

    ystyr "swydd cam 3" ("stage 3 post") yw swydd addysgu y mae cymhwyster addysgu AB cam 3, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

    ystyr "swydd cam 2" ("stage 2 post") yw swydd addysgu rhan-amser y mae cymhwyster addysgu AB cam 2, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

    ystyr "swydd cam 1" ("stage 1 post") yw swydd addysgu rhan-amser y mae cymhwyster addysgu AB cam 1, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;

    ystyr "Tystysgrif Addysg" ("Certificate of Education") yw cymhwyster o'r enw hwnnw ac a ddyfarnwyd cyn 1 Awst 2002 gan sefydliad yn y sector addysg uwch.

Athrawon perthnasol i feddu ar gymwysterau
     3.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob person sy'n mynd yn athro neu athrawes berthnasol ar neu wedi 1 Gorffennaf 2002 mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru ac na fu ar unrhyw adeg cyn y dyddiad hwnnw yn - 

    (2) Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac sydd ar unrhyw adeg yn cael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal - 

    (a) cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

    (b) Tystysgrif Addysg;

    (c) cymhwyster addysgu AB cam 3; neu

    (ch) cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.

    (3) Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser o dan gontract i weithio am gyfran benodol o'r cyfnod y cyflogir athro neu athrawes lawnmamser i weithio ynddo, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal - 

    (a) cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

    (b) Tystysgrif Addysg;

    (c) cymhwyster addysgu AB cam 3; neu

    (ch) cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.

    (4) Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser ac nad yw'n dod o fewn paragraff (3), cyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(2) (os digwydd), ddal - 

    (a) cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

    (b) Tystysgrif Addysg;

    (c) cymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, swydd cam 2 neu swydd cam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes); neu

    (ch) cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, cam 2 neu gam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes).

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn - 

    (a) mae cymhwyster yn gyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o safon cywerth â, neu o safon uwch na, y cymhwysterau hynny ac os pennir ef gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

    (b) caiff person sy'n dal cymhwyster addysgu AB cam 3 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster addysgu AB cam 2 a chaiff person sy'n dal, neu sy'n cael ei drin fel petai'n dal, cymhwyster addysgu AB cam 2 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster cam 1.

Dyddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3
     4.  - (1) Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(2) a (3) yw'r dyddiad y mae'r athro neu'r athrawes wedi ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser arno o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3), am gyfnod o, neu am gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn - 

    (2) Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(4) yw - 

    (3) Y "cwrs perthnasol" y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a (2) yw - 

    (4) Wrth gyfrif y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) ni chyfrifir y cyfnodau canlynol - 

Diwygio Rheoliadau 1999
    
5. Diwygir Rheoliad 4 o Reoliadau 1999 fel a ganlyn - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mehefin 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar bersonau penodol a gyflogir yn athrawon mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach i feddu ar gymwysterau. Bydd y gofynion yn gymwys i athrawon sy'n bodloni'r diffiniad o "athro neu athrawes berthnasol" yn rheoliad 2 ac a gyflogir mewn sefydliadau yn y sector addysg bellach ar ôl 1 Gorffennaf 2002 os nad ydynt wedi addysgu mewn ysgolion a gynhelir neu sefydliadau addysg bellach a ariennir yn gyhoeddus o'r blaen (rheoliad 3(1)). Yn rhinwedd adran 218(13) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 bydd y Rheoliadau yn gymwys i bersonau a gymerir ymlaen i ddarparu gwasanaethau fel athrawon ond sydd heb gontract cyflogaeth, yn ogystal â'r personau hynny a gyflogir o dan gontract cyflogaeth.

Mae rheoliadau 3(2), (3) a (4) a 4 yn darparu ar gyfer lefelau o gymwsyterau ac ar gyfer y cyfnodau y mae rhaid cael y cymwysterau ynddynt.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999.

Pennir y safonau ar gyfer rhai o'r cymhwysterau y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r safonau hynny oddi wrth Sefydliad Hyfforddiant Cenedlaethol Addysg Bellach (Cymru), Canolfan Quadrant, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5WF.


Notes:

[1] 1988 p.40; mewnosodwyd adran 218(10)(aa) gan adran 93 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13) a pharagraff 49(c) o Atodlen 8 iddi.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/2817 (Cy. 18).back

[4] 1992 p.13.back

[5] 1992 p.13; diddymwyd adran 6(5) gan adrannau 149 a 153 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) a pharagraffau 1 a 20 o Atodlen 9 ac Atodlen 11 iddi.back

[6] O.S. 1997/1772 (G.I. 15).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090514 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 3 July 2002