Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1556 (Cy.153)

      Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090517 2. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1556 (Cy.153)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 11 Mehefin 2002 
  Yn dod i rym 30 Gorffennaf 2002 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Gorffennaf 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000[3] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 4(1) yn lle "y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2002" rhoddir "y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr 2002".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


John Marek
Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Mehefin 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 ("Rheoliadau 2000"). Mae Rheoliadau 2000 yn gwneud darpariaethau ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol ac ymhellach yn gwneud darpariaeth am nifer y sesiynau ysgol y gellir eu neilltuo i hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol a strwythurau staffio ysgol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cyfnod pryd y gellir neilltuo sesiynau ysgol yn llwyr neu yn bennaf ar gyfer hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol neu strwythurau staffio ysgol (a nodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 2000).


Notes:

[1] 1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/1323 (Cy. 101), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2499 (Cy. 202) ac O.S. 2002/107 (Cy. 12).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090517 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 5 July 2002