Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090511 3. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithredu mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1) ac (1A)(e) a 36 o Ddeddf Amrywiaethau Planhigion a Hadau 1964[1], ar ôl ymgynghori yn unol â'r adran 16(1) honno â chynrychiolwyr buddiannau o'r fath y mae'n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2002, maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 9 Gorffennaf 2002. Diwygio 2. - (1) Caiff Rheoliadau Hadau (Ffioedd) 1985[2] eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 2 diwygir y diffiniad o "the Minister" -
(b) drwy ddileu'r geiriau "or Wales".
(3) Ym mharagraff A (Ffioedd cychwynnol) o Atodlen 2 -
(b) ar ôl is-baragraff (iii) mewnosodir y geiriad canlynol -
(4) Ym mharagraff B (Ffi archwilio cnydau) o Atodlen 2 -
(b) ar ôl y geiriau "field beans and field peas", yn y lle olaf y maent yn digwydd, rhoddir y geiriau -
(5) Ym mharagraff C (Ffi lot hadau) o Atodlen 2 -
(b) ar ôl is-baragraff (iv) rhoddir y geiriad canlynol -
(6) Ym mharagraff D (Ffi ailgyflwyno lot hadau) o Atodlen 2 -
(b) ar ôl is-baragraff (iii) rhoddir y geiriad canlynol -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Hadau (Ffioedd) 1985 (fel y'u diwygiwyd). Mae angen y diwygiadau o ganlyniad i Reoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3665 (Cy.297)) a dynnodd bysedd y blaidd gwynion, bysedd y blaidd dail cul (bysedd y blaidd glas), bysedd y blaidd melyn, ffacbys Hwngaraidd, ffacbys maethol, ffacbys blewog a maglys o'r diffiniad o "Hadau Ardystiedig" yn Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993 a'u cynnwys yn hytrach o fewn y diffiniad o "Hadau Ardystiedig Cenhedlaeth Gyntaf". Mae angen y diwygiadau er mwyn sicrhau bod y disgrifiadau o gategorïau o hadau y mae ffioedd yn cael eu rhagnodi ar eu cyfer yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau yn adlewyrchu'r newidiadau hyn. Notes: [1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraffau 5(1), (2) a (3); gweler adran 38(1) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1978/272) am ddiffiniad o "the Minister"; trosglwyddwyd swyddogaethau y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywiaethau Planhigion a Hadau 1964, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272); ac o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, fe drosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [2] O.S. 1985/981; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1990/610, 1999/1553, 1999/1865 a 2001/2533 (Cy.210).back
ISBN 0 11090511 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 27 June 2002 |