Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002, ISBN 0 11090505 9. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Gan ei bod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn bersonau sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur; Yn awr felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[1], ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 a daw i rym ar 25 Mehefin 2002. Pennu Cyrff Cyhoeddus 2. Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 28 Mai 2002 Yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector Awdurdod Gwasanaethau Ariannol Awdurdod Strategol y Rheilffyrdd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Peiriannol Comisiynydd Plant Cymru Cyngor Deintyddol Cyffredinol Cyngor Defnyddwyr Gwasanaethau Post Cyngor Defnyddwyr Nwy a Thrydan Cyngor Gofal Cymru Cyngor Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Cyngor Meddygol Cyffredinol Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth Cyngor Teithwyr Rheilffyrdd Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru a Lloegr Pwyllgor Teithwyr Rheilffyrdd - Cymru Tribiwnlysoedd Prisio Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ("y Ddeddf") gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (y Cynulliad Cenedlaethol bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny. Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf. Mae tri Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf: Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (1996/1898); Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (1999/1100); a Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (2001/2550 (Cy.215)). Notes: [1] 1993 p.38back [2] Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11090505 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 19 June 2002 |