Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090501 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Gan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2], wedi gwneud Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002; mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr yn gwneud y Gorchymyn canlynol er mwyn gwneud newidiadau i ddarpariaethau penodol yn y gorchymyn blaenorol hwnnw yngl n â dyddiad dileu cymuned Cynffig a dyddiad cynnal etholiadau ar gyfer cynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl.Enwi a chychwyn 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) (Diwygio) 2002. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mai 2002. Diwygio Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002 2. - (1) Diwygir Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002 fel a ganlyn. (2) Yn erthygl 2, yn lle "2 Mai" rhowch "20 Mehefin". (3) Ym mharagraff (1) o Erthygl 4, yn lle "6 Mai" rhowch "24 Mehefin". Llofnodwyd E. Hart Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau 29 Ebrill 2002 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Gwnaed Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y 28 Mawrth 2002 er mwyn dileu cymuned Cynffig a chreu dwy gymuned newydd sef cymuned Corneli a chymuned y Pîl. Gwnaed y Gorchymyn hwnnw o dan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n diwygio'r Gorchymyn hwnnw, yn cael ei wneud o dan yr un pwerau ac mae'n newid dyddiad dileu cymuned Cynffig o 2 Mai 2002 i 20 Mehefin 2002. Bydd yr etholiadau i'r ddau gyngor cymuned newydd sef cymuned Cynffig a chymuned y Pîl ar 20 Mehefin yn rhinwedd y Gorchymyn hwn. Bydd aelodau'r cynghorau newydd hynny yn ymgymryd â'u swyddi ar 24 Mehefin 2002. Notes: [1] 1972 p.70.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11090501 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 14 June 2002 |