Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1401 (Cy.140)

      Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090497 4. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1401 (Cy.140)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002

  Wedi'u gwneud 21 Mai 2002 
  Yn dod i rym 31 Mai 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 42(1) a (2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2].

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 31 Mai 2002.

Diwygio Rheoliadau
    
2.  - (1) Diwygir yr Atodlen i Reoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001[3] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 6, mewnosodwch ar ôl is-baragraff (a) "a", a hepgorwch is-baragraff (c) a'r "ac" o'i flaen.

    (3) Yn lle paragraff 8 rhowch - 

         " 8. Yr wybodaeth sy'n ymwneud ag - 

      (a) disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu'r gyflogaeth neu'r hyfforddiant y mae disgyblion yn dechrau arnynt wrth ymadael â'r ysgol; a

      (b) absenoldeb awdurdodedig neu ddiawdurdod disgyblion,

    y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn llawlyfr yr ysgol yn unol â'r rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996[4].".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mai 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwaredu'r gofyniad i gynnwys yn Adroddiadau Llywodraethwyr wybodaeth benodol sy'n ymwneud â chofnodion presenoldeb disgyblion (gweler paragraff 6(c) yn yr Atodlen i'r Rheoliadau blaenorol), ac yn ei le yn rhoi gofyniad newydd i gynnwys gwybodaeth am absenoldebau awdurdodedig a diawdurdod fel y nodir hwy yn llawlyfr yr Ysgol.


Notes:

[1] 1998 p.31. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2001/1110 (Cy. 54).back

[4] Amnewidiwyd adran newydd 537(1) gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Y Rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, O.S. 1999/1812, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1111 (Cy.55) ac O.S. 2002/1394 (Cy137).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090497 4


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 5 June 2002