Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090496 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2]. Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 31 Mai 2002. Diwygio Rheoliadau 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[3] fel a ganlyn. (2) Yn rheoliad 3(1), ar gyfer y diffiniadau o "NC tests" (yn y ddau le) a "NC tasks" amnewidiwch -
(3) Yn Atodlen 3, hepgorwch -
(b) ym mharagraff 18, yn is-baragraff (5) y geiriau "Subject to sub-paragraph (8)"; ac (c) ym mharagraff 18, is-baragraff (8).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 yn sgil diddymu "tasgau asesu safonol" (profion) yng Nghymru a wnaed yn effeithiol gan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/45 (Cy.4)). Notes: [1] 1996 p.56. Diwygiwyd adran 537(4) gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), adran 537(1) gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) ac adran 537(7) gan baragraff 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1999/1812, wedi'i ddiwygio gan O.S. 2001/1111 (Cy.55) ac O.S. 2001/3710 (Cy. 306).back
ISBN 0 11090496 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 5 June 2002 |