Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002, ISBN 0 11090494 X. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 49 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986[1], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 49(4) o'r Ddeddf ag unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol, a chynrychiolwyr athrawon, yr oedd yn ymddangos bod ganddynt ddiddordeb yn y mater ac unrhyw bersonau eraill yr oedd yn ymddangos y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Medi 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diddymu 2. Mae Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999[3] yn cael eu diddymu. Dehongli 3. - (1) Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn -
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn -
(b) at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.
Y ddyletswydd i werthuso Cymhwyso Rhan II 6. Mae rheoliadau 7 i 19 yn gymwys ar gyfer gwerthuso penaethiaid yn unig. Penodi gwerthuswyr a chynghorydd allanol 7. - (1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol benodi yn werthuswyr pennaeth dau neu dri o lywodraethwyr, y mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn llywodraethwr sefydledig yr ysgol os yw'n ysgol sydd â chymeriad crefyddol neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir heb gymeriad crefyddol. (2) Caiff y corff llywodraethu benodi gwerthuswr newydd yn lle unrhyw werthuswr presennol ar unrhyw adeg. (3) Ni ellir penodi unrhyw lywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o'r staff yn yr ysgol yn werthuswr i'r pennaeth. (4) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol hefyd benodi cynghorydd allanol mewn perthynas â gwerthuso pennaeth. (5) Caiff y corff llywodraethu benodi cynghorydd allanol newydd yn lle unrhyw gynghorydd allanol presennol ar unrhyw adeg. Y cylch gwerthuso 8. - (1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, ac i reoliad 9, rhaid i'r corff llywodraethu benderfynu amseriad y cylch gwerthuso ar gyfer pennaeth yr ysgol. (2) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (3) a rheoliad 9(3) blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso. (3) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf pennaeth o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso hwnnw'n gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn gynharach na 30 Tachwedd 2003 nac yn hwyrach na 31 Mydref 2004 (4) Pan fyddant wedi dechrau, bydd y cylchoedd gwerthuso ar gyfer pob pennaeth yn barhaus. (5) Ni fydd penodiad gwerthuswr neu gynghorydd allanol newydd yn peri bod cylch gwerthuso pennaeth yn dechrau eto. Cylch gwerthuso newydd 9. - (1) Os bydd pennaeth yn symud i swydd pennaeth mewn ysgol arall, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto. (2) Pan ddaw athro neu athrawes ysgol (nad yw'n bennaeth) yn bennaeth (yn yr un ysgol neu mewn un arall) fel bod rheoliadau 7 i 19 yn gymwys i'w gwerthusiad, bydd yr amseriad ar gyfer eu cylch gwerthuso yn cael ei benderfynu o'r newydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan y corff llywodraethu o dan reoliad 8(1). (3) Pan fydd cylch gwerthuso pennaeth yn dechrau eto o dan baragraff (1), neu'n cael ei benderfynu o'r newydd o dan baragraff (2), caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd hyd cylch gwerthuso cyntaf y pennaeth yn ei swydd newydd yn gyfnod o lai na blwyddyn. Cylch gwerthuso cyntaf 10. Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw cylch gwerthuso cyntaf pennaeth yr ysgol sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn dechrau'n hwyrach na 31 Ionawr 2002. Gweithdrefnau gwerthuso 11. Yn ddarostyngedig i reoliadau 12 i 16, rhaid i gorff llywodraethu ysgol benderfynu'r gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso'r pennaeth yn yr ysgol. Cynllunio gwerthusiad a phennu amcanion 12. - (1) Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r holl werthuswyr, y cynghorydd allanol a'r pennaeth gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion y mae'n rhaid iddynt gynnwys amcanion ynghylch -
(b) cynnydd y disgyblion.
(2) Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswyr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y maent yn credu eu bod yn briodol, a chaiff y pennaeth ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.
(b) caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion pennaeth eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion fel y'u hadolygwyd; ac (c) caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion y pennaeth eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion fel y'i diwygiwyd.
Monitro cynnydd
(b) o asesu i ba raddau y mae'r pennaeth wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion; ac (c) o nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny.
(2) Rhaid i'r dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal gael ei benderfynu gan y gwerthuswyr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (ysgrifenedig) i'r pennaeth am y dyddiad hwnnw.
(b) manylion unrhyw hyfforddiant y mae'r pennaeth yn credu y byddai'n ddymunol ei gael o ystyried yr asesiad hwnnw; ac (c) manylion unrhyw ffactorau y mae'r pennaeth yn credu eu bod wedi effeithio ar ei berfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd;
a rhaid i unrhyw asesiad o'r fath a gwybodaeth arall a gyflwynir i'r gwerthuswyr o dan y paragraff hwn gael eu hystyried yn yr adolygiad gwerthuso.
(b) diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb yr holl werthuswyr; neu (c) gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.
(8) Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (7)(c) rhaid i'r holl werthuswyr a'r cynghorydd allanol gael eu disodli gan werthuswyr newydd a chyngorydd alllanol newydd a benodir yn unol â rheoliad 7 a rhaid i'r swyddog neu'r swyddogion apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.
(b) penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 12 i gael eu hadolygu.
(11) Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn a rheoliadau 17 a 18 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 15(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 17 a 18, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog neu swyddogion apêl o dan baragraff (7)(a).
(b) i gadeirydd y corff llywodraethu; (c) i unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, os gwnânt gais; ac (ch) yn achos pennaeth ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) i unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, os gwnaiff gais.
(2) Os gwneir cais rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi crynodeb o'r datganiad gwerthuso i'r Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori am berfformiad penaethiaid yn unol â pharagraff 23 o Atodlen 16 a pharagraff 22 o Atodlen 17 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny. Cymhwyso Rhan III 20. Mae rheoliadau 21 i 33 yn gymwys ar gyfer gwerthuso athrawon ysgol heblaw penaethiaid. Penodi gwerthuswyr ar gyfer athrawon ysgol 21. - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 30(8) rhaid i'r pennaeth benodi yn werthuswr ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol, athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol neu'r pennaeth. (2) Caiff y pennaeth benodi gwerthuswr newydd yn lle gwerthuswr presennol ar unrhyw adeg. Y cylch gwerthuso 22. - (1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, ac i reoliad 23, rhaid i'r pennaeth benderfynu amseriad y cylch gwerthuso ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol. (2) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3) a (4) a rheoliad 23(3) blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso. (3) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso hwnnw'n gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn gynharach na 30 Tachwedd 2003 nac yn hwyrach na 31 Hydref 2004. (4) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn nad yw'n ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch yn gyfnod a lai na blwyddyn. (5) Pan fyddant wedi dechrau, bydd y cylchoedd gwerthuso ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol yn barhaus. (6) Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto. Cylch gwerthuso newydd 23. - (1) Os bydd athro neu athrawes ysgol yn symud i swydd athro neu athrawes ysgol mewn ysgol arall, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto. (2) Os bydd athro neu athrawes ysgol yn symud i swydd newydd fel athro neu athrawes ysgol yn yr un ysgol, caiff y pennaeth benderfynu y bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto. (3) Pan fydd cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto o dan baragraff (1) neu (2), caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd cylch gwerthuso cyntaf yr athro neu'r athrawes ysgol yn ei swydd newydd yn gyfnod o lai na blwyddyn. Cylch gwerthuso cyntaf 24. Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw cylch gwerthuso cyntaf pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn dechrau'n hwyrach na 30 Ebrill 2003. Gweithdrefnau gwerthuso 25. Yn ddarostyngedig i reoliadau 26 i 30, rhaid i gorff llywodraethu ysgol benderfynu'r gwethdrefnau ar gyfer gwerthuso'r athrawon ysgol yn yr ysgol. Cynllunio gwerthusiad a phennu amcanion 26. - (1) Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion y mae'n rhaid iddynt gynnwys amcanion ynghylch -
(b) cynnydd y disgyblion.
(2) Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, a chaiff yr athro neu'r athrawes ysgol ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.
(b) caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion athro neu athrawes ysgol eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion fel y'u hadolygwyd; ac (c) caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion yr athro neu'r athrawes ysgol eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion fel y'i diwygiwyd.
Monitro cynnydd
(b) o asesu i ba raddau y mae'r athro neu'r athrawes ysgol wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion; ac (c) o nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny.
(2) Rhaid i'r dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal gael ei benderfynu gan y gwerthuswr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (ysgrifenedig) i'r athro neu'r athrawes ysgol am y dyddiad hwnnw.
(b) manylion unrhyw hyfforddiant y mae'r athro neu'r athrawes ysgol yn credu y byddai'n ddymunol ei gael o ystyried yr asesiad hwnnw; ac (c) manylion unrhyw ffactorau y mae'r athro neu'r athrawes ysgol yn credu eu bod wedi effeithio ar eu perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd;
a rhaid i unrhyw asesiad o'r fath a gwybodaeth arall a gyflwynir i'r gwerthuswr o dan y paragraff hwn gael eu hystyried yn yr adolygiad gwerthuso.
(b) diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu (c) gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.
(7) Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (6)(c), rhaid i werthuswr newydd gael ei benodi yn unol â rheoliad 21 a rhaid i'r swyddog apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.
(b) penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 26 i gael eu hadolygu.
(12) Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 31 a 32 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 29(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 31 a 32, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog apêl o dan baragraff (6)(a).
(b) i unrhyw swyddog apêl ac unrhyw gynghorydd allanol sy'n rhoi cymorth i'r swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r corff llywodraethu gael hysbysiad apêl o dan reoliad 30(2), y mae'n rhaid rhoi iddo gopi o'r datganiad amcanion hefyd; (c) i unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny; ac (ch) yn achos athro neu athrawes ysgol sy'n cael eu cyflogi mewn ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) i'r Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.
(3) Rhaid i'r pennaeth roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 29(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad yr athrawon ysgol yn yr ysgol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2888 (Cy.25)). Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gwerthuso perfformiad athrawon ysgol (gan gynnwys athrawon anghymwysedig) mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol, ysgolion sefydledig, ysgolion arbennig cymunedol, neu ysgolion arbennig sefydledig, heblaw am athrawon a gyflogir o dan gontract cyfnod penodol o lai na blwyddyn. Mae Rhan I o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys dyletswydd y corff llywodraethu a'r pennaeth i sicrhau bod perfformiad pob athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol yn cael ei werthuso'n rheolaidd (rheoliad 4) a'r ddyletswydd sydd ar benaethiaid i gyflwyno adroddiad blynyddol ysgrifenedig ar effeithiolrwydd gweithdrefnau gwerthuso i'r corff llywodraethu (rheoliad 5). Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn ymdrin â gwerthuso penaethiaid. Mae rheoliad 7 yn darparu bod y corff llywodraethu yn penodi dau neu dri llywodraethwr yn werthuswyr ar gyfer pennaeth. Caiff cynghorydd allanol ei benodi hefyd. Mae rheoliadau 8 a 9 yn darparu yngl n â'r cylch gwerthuso. Fel rheol mae'r cylch gwerthuso yn para am flwyddyn, er gall y corff llywodraethu benderfynu ar hyd gwahanol ar gyfer cylch gwerthuso cyntaf pennaeth. Ar ôl symud i swydd newydd fel pennaeth neu ar ôl dod yn bennaeth, mae'r cylch gwerthuso yn ailddechrau.Mae rheoliad 10 yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu i sicrhau bod cylch gwerthuso cyntaf pennaeth yn dechrau erbyn 31 Ionawr 2003. Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso. Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer cynnal cyfarfod rhwng y gwerthuswyr, y cynghorydd allanol a'r pennaeth lle maent yn cynllunio'r gwerthusiad ac yn cytuno ar amcanion neu'n eu pennu. Mae rheoliad 13 yn darparu y gall yr amcanion hyn gael eu hadolygu. Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad gael eu pennu neu eu cytuno ac mae'n darparu ar gyfer y ffordd y dylai'r gwerthuswyr gael gwybodaeth. Mae rheoliad 15 yn darparu bod rhaid cynnal adolygiad gwerthuso tuag at ddiwedd y cylch. Gall y pennaeth gyflwyno asesiad o'i berfformiad i gael ei ystyried yn yr adolygiad. Ar ôl yr adolygiad rhaid i'r gwerthuswyr baratoi datganiad ysgrifenedig. Mae rheoliad 16 yn rhoi hawl i'r pennaeth apelio yn erbyn gwerthusiad ac yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer apêl. Mae rheoliadau 17 ac 18 yn darparu ar gyfer datgelu datganiadau gwerthuso, eu cadw a'u defnyddio. Rhaid i gopïau gael eu rhoi i bobl benodol a gellir eu rhoi i bobl eraill. Rhaid cadw datganiadau am dair blynedd. Mae rheoliad 19 yn cynnwys darpariaeth drosiannol. Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn ymdrin â gwerthuso athrawon ysgol heblaw penaethiaid. Mae rheoliad 21 yn darparu bod y pennaeth yn penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro neu athrawes ysgol mewn ysgol. Caiff y pennaeth neu un o athrawon eraill yr ysgol fod yn werthuswr. Mae rheoliadau 22 a 23 yn gwneud darpariaeth yngl n â'r cylch gwerthuso. Fel rheol mae'r cylch gwerthuso yn para am flwyddyn, er y gall y pennaeth benderfynu ar hyd gwahanol ar gyfer y cylch gwerthuso cyntaf. Ar ôl symud i swydd newydd mewn ysgol arall mae'r cylch gwerthuso'n dechrau eto, ond ar ôl symud i swydd newydd yn yr un ysgol, mater i'r pennaeth yw penderfynu a yw'r cylch yn dechrau eto neu beidio.Mae rheoliad 24 yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu i sicrhau bod gwerthusiad cyntaf athro neu athrawes ysgol yn dechrau erbyn 30 Ebrill 2003. Mae rheoliad 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso. Mae rheoliad 26 yn darparu ar gyfer cynnal cyfarfod rhwng y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol lle maent yn cynllunio'r gwerthusiad ac yn cytuno ar amcanion neu'n eu pennu. Mae rheoliad 27 yn darparu y gall yr amcanion hyn gael eu hadolygu. Mae rheoliad 28 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad gael eu pennu neu eu cytuNo. Rhaid i'r gwerthuswr arsylwi unwaith o leiaf ar yr athro neu'r athrawes yn addysgu. Mae'n darparu hefyd ar gyfer y ffordd y dylai'r gwerthuswyr gael gwybodaeth. Mae rheoliad 29 yn darparu bod rhaid cynnal adolygiad gwerthuso tuag at ddiwedd y cylch. Gall yr athro neu'r athrawes ysgol gyflwyno asesiad o'u perfformiad i gael ei ystyried yn yr adolygiad. Ar ôl yr adolygiad rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig. Mae rheoliad 30 yn rhoi hawl i'r athro neu'r athrawes ysgol apelio yn erbyn gwerthusiad ac yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer apêl. Mae rheoliadau 31 a 32 yn darparu ar gyfer datgelu datganiadau gwerthuso, eu cadw a'u defnyddio. Rhaid i gopïau gael eu rhoi i bobl benodol a gellir eu rhoi i bobl eraill. Rhaid cadw datganiadau am dair blynedd. Mae rheoliad 33 yn cynnwys darpariaeth drosiannol. Notes: [1] 1986 p.61. Diwygiwyd adran 49 gan baragraffau 36 a 101 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), gan baragraff 23 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) a chan baragraff 14 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107 o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35). Ar gyfer materion sydd i'w rhagnodi, gweler adran 67(3) o Ddeddf 1986 (a ddiwygiwyd gan baragraff 66 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), ac adran 579(1) o'r Ddeddf honno).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)back [3] O.S. 1999/2888 (Cy.25).back
ISBN 0 11090494 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 5 June 2002 |