Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090493 1. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(6), (7), (8), (9), (10), (11) a (12), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1]: Enwi, cychwyn, a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 17 Mai 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygiad i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 [2] fel a ganlyn. (2) Yn lle paragraff (4) o Reoliad 5 rhowch:
(ii) pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, o'r amser y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnull; neu
(b) cadeirydd y cyfarfod o'r farn, oherwydd amgylchiadau arbennig, a fydd yn cael eu nodi yn y cofnodion, y dylai'r item gael ei thrafod yn y cyfarfod fel mater o frys.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 o dan adrannau 22(6), (7), (8), (9), (10), (11) a (12), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 er mwyn rheoleiddio gwahanol faterion mewn perthynas â'r busnes a weithredir gan awdurdodau lleol sydd yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth. Gwneir y Rheoliadau yma drwy ddefnyddio'r un pwerau i wneud ychwanegiad i'r Rheoliadau blaenorol hynny. Mae Rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth i gadeirydd cyfarfod o'r weithrediaeth, neu bwyllgor o'r weithrediaeth, o awdurdod lleol wneud ychwanegiadau at agenda'r cyfarfod os yw'r person hynny o'r farn y dylid ystyried y mater ychwanegol, yn rhinwedd amgylchiadau arbennig, fel mater o frys. Notes: [1] 2000 p.22back [2] O.S.2001/2290 (Cy. 178)back
ISBN 0 11090493 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 24 May 2002 |