Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1358 (Cy.134)

      Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090499 0. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1358 (Cy.134)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002

  Wedi'i wneud 14 Mai 2002 
  Yn dod i rym 15 Mai 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer ar y cyd y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7 a 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 [1] yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002; mae'n gymwys i Gymru yn unig ac mae'n dod i rym ar 15 Mai 2002.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

Diwygio erthygl 2
     3.  - (1) Bydd erthygl 2 y prif Orchymyn yn cael ei diwygio yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.

    (2) Dilëwch y geiriau ", oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall".

    (3) Ym mharagraff (d), dilëwch y geiriau "yn achos gwartheg stôr,".

Diwygio Paragraff 2 o'r Atodlen
    
4. Rhowch y paragraff dilynol yn lle paragraff 2 o'r Atodlen  - 

Diwygio paragraff 6 o'r Atodlen
    
5. Ym mharagraff 6 o'r Atodlen, yn lle'r geiriau "(am reswm nad yw'n ymwneud â phresenoldeb anifeiliaid yno)" rhowch y geiriau a ganlyn  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Mai 2002


Lord Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
14 Mai 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae'n diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S.2002/283 (Cy.34)) (y prif Orchymyn), sydd, am gyfnod dros dro hyd nes 30 Tachwedd 2002, yn datgymhwyso ac yn cymryd lle Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (O.S. 1925/1349) (fel y'i diwygiwyd), ac mae'n gwahardd defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynoadau anifeiliaid oni bai bod trwydded i ganiatáu'r gweithgaredd hwnnw ac oni bai bod ymlyniad wrth ddarpariaethau ei Atodlen.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio  - 

    (a) y diffiniad o "crynhoad anifeiliaid" yn Erthygl 2(d) o'r prif Orchymyn (erthygl 3).

    (b) y darpariaethau ym mharagraff 2 o'r Atodlen i'r prif Orchymyn sy'n gymwys yn dilyn crynhoad anifeiliaid er mwyn cael gwared ar y gofyniad bod rhaid i 28 diwrnod fynd heibio cyn y gellir caniatáu i anifeiliaid eraill fod ar y tir ac adeiladau (erthygl 4).

    (c) y darpariaethau ym mharagraff 6 o'r Atodlen i'r prif Orchymyn er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r tir ac adeiladau gael ei lanhau a'i ddiheintio ymhellach os yw yn cael ei halogi am unrhyw reswm ar ôl iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r prif Orchymyn (erthygl 5).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) ar gyfer y diffiniadau o "the Ministers" a "the Minister". Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac i'r graddau yr oedd y swyddogaethau hynny yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, trosglwyddwyd hwy i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd holl swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ymhellach i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 2002/283 (Cy.34).back



English version



ISBN 0 11090499 0


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 6 June 2002