Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090489 3. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) (Diwygio) (Cymru) 2002; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002. Diwygio Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999 2. - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999[3] yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn. (2) Yn y diffiniad o "export dedicated establishment" ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), mewnosodir y cymal "and may include such establishments which prepare DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar ôl y gair "below". (3) Ym mharagraff (a) o'r diffiniad o "export eligible goods" ym mharagraff (1) o reoliad 2, mewnosodir y cymal "(other than any such goods destined for placing on the market in the United Kingdom)" ar ôl y gair "goods" yn y lle y mae'n ymddangos gyntaf. (4) Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 12 (cymeradwyo sefydliadau ar gyfer paratoi neu anfon nwyddau o darddiad tramor sy'n gymwys i'w hallforio, nwyddau'r CASD a'r CABH a sgil-gynhyrchion buchol o darddiad tramor) mewnosodir y gair "origin" yn lle'r gair "original". (5) Ym mharagraff (3)(a) o reoliad 12, mewnosodir y cymal "or DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar ôl y gair "goods" yn y lle y mae'n ymddangos ddiwethaf. (6) Ym mharagraff (3)(c)(i) o reoliad 12, mewnosodir y cymal "other than DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar ôl y gair "abroad". (7) Ym mharagraff (3)(c)(ii) o reoliad 12, mewnosodir y cymal "other than DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar y diwedd. (8) Ym mharagraff (3)(a) o reoliad 13 (gofynion a osodir ar weithredydd sefydliad a gymeradwywyd o dan reoliad 12), hepgorir y cymal ", DBES goods". (9) Ym mharagraff (6) o reoliad 13, mewnosodir y cymal "or DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar ôl y gair "goods". (10) Ym mharagraff (13) o reoliad 13, rhoddir y gair "become" yn lle'r gair "are". (11) Yng ngofyniad 5 yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 (y dulliau gweithredu a fynnir ar gyfer paratoi nwyddau sy'n gymwys i'w hallforio mewn sefydliadau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer allforio), mewnosodir y cymal "or DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar y diwedd. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]. D.Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 25 Ebrill 2002 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999 (O.S. 1999/1103, fel y'u diwygiwyd) ("y Prif Reoliadau") i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Prif Reoliadau yn rhoi effaith i Benderfyniadau'r Comisiwn 98/692/EC (O.J. Rhif L328, 4.12.98, t.28) a 98/564/EC (O.J. Rhif L273, 9.10.98, t.37) a ddiwygiodd Benderfyniad y Cyngor 98/256/EC (O.J. Rhif L113, 15.4.98, t.32). Effaith y diwygiadau yw caniatáu anfon cig eidion ag esgyrn ynddo o safleoedd wedi'u cymeradwyo o dan y Cynllun Allforio ar Sail Dyddiadau ("CASD") i'r farchnad ddomestig. Paratowyd arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copiau oddiwrth Is-Adran Iechyd Anifeiliaid 1, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 1999/1103, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1554 ac O.S. 2000/656.back
ISBN 0 11090489 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 22 May 2002 |