Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090483 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer ei bwerau o dan adrannau 10(1) a 10(2)(a) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 18 Ebrill 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygiadau i Reoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Lloegr a Chymru) 1985 2. - (1) Rhaid diwygio Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Lloegr a Chymru) 1985[2] yn unol â'r paragraffau canlynol. (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) -
(3) Yn rheoliad 4 (cymhwyso'r rheoliadau), am baragraff (3A), rhaid amnewid y paragraff canlynol -
(4) Yn rheoliad 7 (trwyddedau) -
(ii) ar ddiwedd is-baragraff (h), am yr atalnod llawn, rhaid amnewid hanner colon; a (iii) ar ôl is-baragraff (h), rhaid ychwanegu'r is-baragraffau canlynol -
(j) a special acceptance licence.".
(b) ar ôl paragraff (9A), rhaid ychwanegu'r paragraffau canlynol -
(9C) A special acceptance licence shall authorise the licensee to accept semen at a supply centre specified in that licence and in accordance with the provisions of regulation 21(d).".
(5) Yn rheoliad 21 (derbyn had i'w gyflenwi) -
(b) ar ddiwedd paragraff (b), rhaid dileu'r gair "or" ; (c) ar ddiwedd paragraff (c) -
(ii) rhaid mewnosod y gair "or"; a
(ch) ar ôl paragraff (c), rhaid ychwanegu'r paragraff canlynol -
(ii) has subsequently been stored in accordance with the conditions of an emergency licence or a farm storage licence, (iii) has been moved in accordance with the conditions of a special transfer licence, and (iv) is accepted in accordance with the conditions of a special acceptance licence.".
(6) Yn rheoliad 24 (gorchymyn cyffredinol ynghylch defnyddio had) -
(ii) has been obtained from a processing centre from which the semen was moved in accordance with the provisions of these Regulations, in accordance with the conditions of either a special movement licence or an emergency licence, or (iii) was collected in accordance with the conditions of an emergency licence, and";
(b) ym mharagraff (b)(iv), yn union ar ôl y geiriau "Agricultural Training Board", rhaid mewnosod y geiriau "or the National Assembly for Wales".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Lloegr a Chymru) 1985 (O.S. 1985/1861) (y cyfeirir atynt yn y nodyn hwn fel Rheoliadau 1985) er mwyn gwneud darpariaethau trosiannol sy'n perthyn i'r trwyddedau argyfwng sy'n dod i ben ac a ddyroddwyd o dan Reoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Trwyddedau Argyfwng) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1539 (Cy. 107)) yn ystod yr achosion diweddar o glwy'r traed a'r genau ac i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gydnabod cyrsiau hyfforddi ychwanegol at y rhai a gydnabuwyd gan y Bwrdd Hyfforddi Amaethyddol (sydd bellach wedi darfod). Mae Rheoliad 2(2) o'r rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniadau newydd o "emergency licence" ("trwydded argyfwng") , "special acceptance licence" (" trwydded dderbyn arbennig") a "special transfer licence" ("trwydded drosglwyddo arbennig") i reoliad 2(1) o Reoliadau 1985. Mae Rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 4(3A) o Reoliadau 1985 i adlewyrchu'r diffiniad newydd o "emergency licence" ("trwydded argyfwng"). Mae Rheoliad 2(4) yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 1985 i ddarparu ar gyfer dyroddi trwyddedau trosglwyddo arbennig a thrwyddedau derbyn arbennig. Mae Rheoliad 2(5) yn diwygio rheoliad 21 o Reoliadau 1985 er mwyn caniatáu (yn ddarostyngedig i amodau) derbyn had i'w gyflenwi sydd wedi ei gasglu a'i brosesu yn unol â thrwydded argyfwng. Mae Rheoliad 2(6) yn diwygio rheoliad 24 o Reoliadau 1985 er mwyn caniatáu defnyddio had a gasglwyd neu a symudwyd yn unol â thrwydded argyfwng ac i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gydnabod cyrsiau hyfforddi. Ni ddarparwyd Arfarniad Rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Notes: [1] 1984 p.40. Trosglwyddwyd pob un o swyddogaethau Gweinidogion y Goron o dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), i'r graddau y mae'r fath swyddogaethau yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.back [2] O.S. 1985/1861: diwygiadau perthnasol mewn perthynas â Chymru yw O.S. 1992/671, O.S. 1995/2549, O.S. 1996/3124, ac O.S. 2001/1539 (Cy. 107).back [3] O.S. 2001/1539 (Cy.107).back
ISBN 0 11090483 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 7 May 2002 |