Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1087 (Cy.114)

      Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090487 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1087 (Cy.114)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 15 Ebrill 2002 
  Yn dod i rym 16 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 29(10) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[1], ac sydd yn awr wedi eu breinio ynddo[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 16 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994
    
2.  - (1) Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Rhodder, yn lle paragraff (1)(b) - 

      " (b) plant for - 

        (i) the recovery, by filtration or heat treatment, of waste oil from electrical equipment,

        (ii) the destruction by dechlorination of waste polychlorinated biphenyls or terphenyls (PCBs or PCTs), or

        (iii) the collection or storage of a controlled substance from any waste product, installation or equipment;"

    (3) Mewnosoder, ar ôl paragraff (1) - 

        " (1A) For the purposes of paragraph (1)(b)(iii) above, "controlled substance" means any one of the following:

      chlorofluorocarbons, other fully halogenated chlorofluorocarbons, halons, carbon tetrachloride, 1,1,1-tetrachloroethane, methyl bromide, hydrobromofluorocarbons, hydrochlorofluorocarbons."



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

15 Ebrill 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Erthygl 16 o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2037/2000 ar sylweddau sy'n disbyddu'r haen osôn yn ei gwneud yn ofynnol i adennill sylweddau rheoledig sydd wedi'u defnyddio (fel y'u diffiniwyd yn Erthygl 2 o'r Rheoliad) sydd mewn cyfarpar rheweiddiad gwastraff, neu gyfarpar arall.

Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994 yn darparu bod rhai mathau o offer yn gallu cael eu trin fel offer symudol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 12, mewn perthynas â Chymru, drwy ychwanegu math o offer ar gyfer casglu a storio sylwedd rheoledig o eitemau sy'n wastraff. Bydd hyn yn galluogi Asiantaeth yr Amgylchedd i awdurdodi offer symudol ar gyfer adennill sylweddau sy'n disbyddu osôn o gyfarpar rheweiddiad sy'n wastraff, diffoddiaduron tân ac eitemau eraill.


Notes:

[1] 1990 p.43.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1994/1056; diwygiwyd rheoliad 12 gan O.S. 1995/288 ac O.S. 1996/634.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090487 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 15 May 2002