Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002, ISBN 0 11090474 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Enw, cymhwyso a chychwyn 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru, a deuant i rym am 12.00 ar 10 Ebrill 2002. Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000[3] mewn perthynas â Chymru yn unol â darpariaethu canlynol y rheoliad hwn. (2) Yn Atodlen 3, Rhan I -
(b) ym mharagraff 16 yn lle'r geiriau "and 2002/153/EC (OJ No. L50, 21.2.2002, p.98)." rhoddir y geiriau -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym am hanner dydd ar 10 Ebrill 2002, yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 (O.S. 2000/1673, fel y'u diwygiwyd) ac yn darparu mewn perthynas â Chymru fod y canlynol yn effeithiol - Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/242/EC (OJ Rhif L82, 26.3.2002, t.18), sy'n diwygio Penderfyniad 2001/327/EC (OJ Rhif L115, 25.4.2001, t.12), sy'n ymwneud â chyfyngu ar symud anifeiliaid o rywogaethau a allai ddioddef o glwy'r traed a'r genau, am y nawfed tro. Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 2000/1673; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/2266, O.S. 2000/2524, O.S. 2000/2900 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2002/430 (Cy.52).back
ISBN 0 11090474 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 29 April 2002 |