Offerynnau Statudol 2002 Rhif 1038 (Cy.110)

      Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090473 7. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 1038 (Cy.110)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002

  Wedi'i wneud am 10.20 ar 10 Ebrill 2002 
  Yn dod i rym am 12.00 ar 10 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, a 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] a'r holl bwerau sy'n eu galluogi yn y cyswyllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym am 12.00 ar 10 Ebrill 2002.

Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
    
2.  - (1) Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[2] yn cael ei ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.

    (2) Yn erthygl 2 yn y diffiniad o "hunting" ychwanegwch y gair "hare" ar ôl y gair "mink".

    (3) Yn erthygl 3 - 

    (a) yn lle is-baragraff 2(b)(xiii) a (xiv) rhowch y paragraff canlynol - 

        " (xiii) of pigs or cattle to an artificial insemination centre;

        (xiv) of pigs, sheep, goats, cattle, camelids or deer to a place for veterinary treatment provided (except in the case of pigs) the animals will be isolated from all other animals there whilst the treatment is carried out; or

        (xv) of a bull for breeding purposes; or";

    (b) yn lle is-baragraffau (3)(i) i (k) rhowch y canlynol - 

      " (i) a camelid which is returning to those premises from a trekking expedition or which is crossing them in the course of such an expedition;

      (j) a lamb less than 7 days old in the circumstances described in paragraph (2)(b)(iv) above;

      (k) cattle which are being returned to those premises from an artificial insemination centre; or

      (l) sheep, goats, cattle, camelids or deer being returned to those premises from a place for veterinary treatment or of any offspring to which they have given birth whilst there provided those animals and such offspring have been isolated from all other animals whilst at that place"; ac

    (c) ar ddechrau paragraff (5) mewnosodwch y geiriau canlynol - 

      " Except in the cases referred to in paragraphs (2)(b)(xiv), (3)(a)(i) and (3)(l) above,".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].


Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

10.20 ar 10 Ebrill 2002


Lord Whitty
Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
9 Ebrill 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 ("y prif Orchymyn") (O.S. 2002/280 (Cy.32)). Daw i rym am hanner dydd ar 10 Ebrill 2002.

Mae'r diwygiadau canlynol yn cael eu gwneud - 

    (a) mae'r diffiniad o "hunting" yn erthygl 2 yn cael ei ddiwygio i gynnwys cyfeiriad at "hare" (erthygl 2(2));

    (b) mae symud defaid, geifr, camelidau a cheirw i fannau er mwyn iddynt dderbyn triniaeth filfeddygol, ar yr amod y byddant yn cael eu cadw ar wahân i anifeiliad eraill tra bônt yno, yn cael ei ychwanegu at y rhestr o symudiadau sy'n cael ei chofnodi yn erthygl 3(2)(b) o'r prif Orchymyn, sef symudiadau sydd wedi'u hesemptio o'r gofyniad cyfnod segur sy'n cael ei gofnodi a'i ddiffinio yn erthygl 3(1)(b) o'r Gorchymyn hwnnw (y "gofyniad cyfnod segur") (erthygl 2(3)(a));

    (c) mae dychwelyd yr anifeiliad y cyfeirir atynt ym mharagraff (b) uchod o'r man derbyn triniaeth filfeddygol, ynghyd ag unrhyw epil y gannwyd iddynt yno, (ar yr amod eu bod hwy a'u hepil wedi eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill tra oeddent yno) yn cael ei ychwanegu at y rhestr o symudiadau sy'n cael ei chofnodi yn erthygl 3(3) o'r prif Orchymyn sef symudiadau sydd wedi'u hesemptio o'r gofyniad cyfnod segur yn y safle lle tarddodd yr anifeiliaid ohonno (erthygl 2(3)(b));

    (ch) mae'r esemptiadau sy'n cyfateb ac sy'n bodoli eisoes ynglöyn â'r gofyniad cyfnod segur fel y maent yn gymwys i symud gwartheg i fannau er mwyn iddynt dderbyn triniaeth filfeddygol, neu eu symud oddi yno, yn cael eu diwygio er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gadw gwartheg ar wahân i anifeiliaid eraill tra yno (erthygl 2(3)(a) a (b));

    (d) mae'r rhestr o symudiadau a gofnodir yn erthygl 3(3) o'r prif Orchymyn sef symudiadau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofyniad cyfnod segur yn cael ei diwygio er mwyn sicrhau na fydd symud camelid ar hirdaith drwy fan yn gwneud y camelid yn ddarostyngedig i ofyniad cyfnod segur yn y fan honno (erthygl 2(3)(b));

    (dd) mae'r gofyniad (yn unol ag erthygl 3(3)(a)(i) a 3(5) o'r prif Orchymyn) i gadw moch ar wahân mewn cyfleusterau i'w cadw ar wahân sydd wedi'u cymderadwyo, pan maent yn dychwelyd o ganolfannau semeniad artiffisial neu fannau y'u symudwyd hwy iddynt er mwyn bridio neu driniaeth filfeddygol, i'r man yr oeddent yn tarddu ohono, os nad yw dychwelyd i fod yn ddarostyngedig i ofyniad cyfnod segur yn y mannau hynny, yn cael ei ddisodli gan ofyniad i gadw moch ar wahân i bob anifail arall yn y mannau hynny am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd (erthygl 2(3)(c)).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) am y diffiniadau o "the Ministers" a "the Minister". Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru, i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141) ac fe'u trosglwyddwyd ymhellach i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/ 794).back

[2] O.S. 2002/280 (Cy.32).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090473 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 29 April 2002