Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090488 5. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym -
(b) rheoliadau 2 a 5 ar 9 Ebrill 2002.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£11.30" rhowch "£11.50".
Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986"). Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol. Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur a bennir ynddo ar gyfer yr "amount withdrawn" o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl. (Mae'r ddarpariaeth hon yn cynyddu'r lefel incwm sy'n dod â'r rheini sy'n cael credydau treth yn gymwys i gael talebau optegol GIG). Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) er mwyn cynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at gost amnewid un lens cyffwrdd, ac er mwyn cynyddu uchafswm y cyfraniad a wneir drwy gyfrwng taleb tuag at gost trwsio ffrâm sbectol. Mae rheoliad 4(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at gost cyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd. Mae rheoliad 4(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerthoedd ychwanegol talebau ar gyfer prismau, tintiau, lensys ffotocromig a chategorïau penodol o gyfarpar. Mae rheoliad 4(3) a'r Atodlen yn gosod Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at drwsio ac amnewid cyfarpar optegol. Rhyw 1.95% yw cyfradd y cynnydd, ar gyfartaledd. Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur ar gyfer yr "amount withdrawn" o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl. (Mae'r ddarpariaeth hon yn cynyddu'r lefel incwm sy'n dod â'r rheini sy'n derbyn y credydau treth yn gymwys i gael prawf golwg GIG). Yn rheoliad 6 ceir darpariaethau trosiannol. Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27. Estynwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) , adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52, gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1); mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back [2] O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 (Cy.48), 2000/3119 (Cy.198), 2001/1362 (Cy.90), 2001/1423 (Cy.98) a 2002/186 (Cy.25).back [3] O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/486, 1989/395 a 1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705 a 2320, 1999/693, 1999/2481 (Cy.21) a 2001/1362 (Cy.90).back
ISBN 0 11090488 5
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 17 May 2002 |