Offerynnau Statudol 2002 Rhif 886 (Cy.101)

      Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090468 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 886 (Cy.101)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 27 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2), 6(3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "cynllun gwella" ("improvement plan") yw cynllun perfformiad gwerth gorau o fewn yr ystyr a briodolir i "best value performance plan" yn adran 6(1) o'r Ddeddf;

    ystyr "dadansoddiad awdurdod cyfan" ("whole authority analysis") yw adolygiad gwerth gorau o holl swyddogaethau awdurdod gwerth gorau o fewn yr ystyr a briodolir i "best value reviews" yn adran 5 o'r Ddeddf;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r awdurdodau hynny a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf.

Cyfnod cynnal dadansoddiadau
    
2. Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gynnal dadansoddiad awdurdod cyfan erbyn 30 Mehefin 2003 a rhaid iddynt gynnal dadansoddiad awdurdod cyfan pellach cyn diwedd pob cyfnod o bum mlynedd wedi hynny.

Dyddiad cyhoeddi cynlluniau gwella
    
3. Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella ar gyfer blwyddyn ariannol benodol erbyn 30 Mehefin yn ystod y flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.

Y dyddiad ar gyfer anfon copïau o adroddiadau archwilwyr
    
4. Yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf, rhaid anfon copïau o adroddiad archwilydd ynglyn â chynllun gwella erbyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.

Diddymu
    
5. Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000[2] drwy hyn yn cael ei ddiddymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswydd i awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau a llunio cynllun perfformiad gwerth gorau (yn y Gorchymyn hwn fe'u gelwir yn "gynlluniau gwella") ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Rhaid i awdurdodau yng Nghymru (ac eithrio awdurdod a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf) adolygu eu holl swyddogaethau (yn y Gorchymyn hwn fe elwir adolygiad o'r fath yn "ddadansoddiad awdurdod cyfan") o fewn cyfnod penodol sydd i'w bennu mewn Gorchymyn sydd i'w wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhaid i awdurdodau gyhoeddi eu cynlluniau gwella ar gyfer blynyddoedd ariannol penodol cyn y dyddiad a gaiff ei bennu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn. Rhaid i archwilwyr anfon copïau o'u hadroddiadau sy'n ymwneud â chynlluniau gwella o'r fath at yr awdurdodau perthnasol, y Comisiwn Archwilio ac, os yw'n ofynnol, at Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn y dyddiad a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r cyfnod ar gyfer cynnal adolygiadau. Mae'r Gorchymyn hefyd yn pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyhoeddi cynlluniau awdurdodau ar gyfer blynyddoedd ariannol penodol a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon copïau o adroddiadau archwilwyr. Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000, sy'n cael ei ddiddymu, a dylid darllen y Gorchymyn hwn ar y cyd â'r canllawiau a elwir "Wales Programme for Improvement: Guidance for Local Authorities" a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.


Notes:

[1] 1999 p.27.back

[2] O.S. 2000/1271 (Cy. 97).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090468 0


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 18 April 2002