Offerynnau Statudol 2002 Rhif 837 (Cy.99)

      Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090466 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 837 (Cy.99)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 26 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 10 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan adran 33 ac 146 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1]:

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 10 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio'r Gorchymyn
    
2. Ym mharagraff (b) o erthygl 2 o Orchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996[2] yn lle "£24,000" rhowch "£30,000".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996, sy'n rhagnodi uchafswm y grant gorfodol ar gyfer cyfleusterau i'r anabl y gall fod yn ofynnol i awdurdod tai lleol dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae'r uchafswm yn cael ei godi o £24,000 i £30,000 ar gyfer adeiladau neu anheddau yng Nghymru.


Notes:

[1] 1996 p. 53; mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gweler erthygl 2 o ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 1996/2888, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1275 (Cy. 74).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090466 4


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 18 April 2002