Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090486 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 93 a 94(1)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 93(2) o'r Ddeddf honno, a rhoi sylw i'r materion a bennir yn adran 93(6) o'r Ddeddf honno, fel sy'n ofynnol o dan adran 93(5) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pacio) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 22 Mawrth 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997 2. - (1) Diwygir Atodlen 2 (rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu) i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997[3] fel a ganlyn - (2) ym mharagraff 4, yn lle "and (c) for any subsequent year, 56%.", rhodder "(c) for the year 2001, 56%; and (d) for any subsequent year, 59%.". (3) ym mharagraff 5, yn lle "and (c) for any subsequent year, 18%.", rhodder "(c) for the year 2001, 18%; and (d) for any subsequent year, 19%.". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4] Dafydd Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 21 Mawrth 2002 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 1997 ("y Prif Reoliadau") yn gosod rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr i adennill ac ailgylchu gwastraff deunydd pacio, ac yn gosod rhwymedigaethau cysylltiedig arnynt. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r targedau adennill ac ailgylchu yn Atodlen 2 i'r Prif Reoliadau ar gyfer 2002 ymlaen. Defnyddir y targedau hyn er mwyn cyfrifo rhwymedigaethau adennill ac ailgylchu. Mae Rheoliad 2(2) yn codi'r darged ar gyfer adennill o 56% i 59% ac mae rheoliad 2(3) yn codi'r darged ar gyfer ailgylchu o 18% i 19%. Notes: [1] 1995 p. 25; gweler adran 93(8) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back [2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back [3] O.S. 1997/648, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1361, O.S. 1999/3447 ac O.S. 2000/3375.back
ISBN 0 11090486 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 15 May 2002 |