Offerynnau Statudol 2002 Rhif 812 (Cy.92)

      Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002, ISBN 0 11090477 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 812 (Cy.92)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 16.00 ar 21 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN I - 

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Datganiad o ddiben

RHAN II - 

PERSONAU COFRESTREDIG
4. Y person cofrestredig  -  ei addasrwydd
5. Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
6. Hysbysu tramgwyddau

RHAN III - 

LLES A DATBLYGIAD PLANT PERTHNASOL
7. Hybu lles
8. Y bwyd a ddarperir ar gyfer plant
9. Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
10. Rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal
11. Anghenion iechyd y plant
12. Peryglon a diogelwch
13. Defnyddio meddyginiaethau a'u storio
14. Cwynion

RHAN IV - 

STAFFIO
15. Staffio
16. Addasrwydd gweithwyr
17. Cyflogi staff

RHAN V - 

COFNODION A GWYBODAETH
18. Cadw cofnodion
19. Darparu gwybodaeth

RHAN VI - 

Y SAFLE
20. Ffitrwydd y safle
21. Rhagofalon tân

RHAN VII - 

AMRYWIOL
22. Cydymffurfio â rheoliadau
23. Safonau
24. Tramgwyddau

  ATODLEN 1 DATGANIADAU SAFONAU GOFYNNOL CENEDLAETHOL

  ATODLEN 2 YR WYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN PERTHYNAS Â PHERSONAU SY'N CEISIO GWEITHREDU FEL GWARCHODWYR PLANT NEU DDARPARWYR GOFAL DYDD NEU WEITHIO DROSTYNT

  ATODLEN 3 Y COFNODION SYDD I'W CADW

  ATODLEN 4 Y DIGWYDDIADAU SYDD I'W HYSBYSU I'R CYNULLIAD CENEDLAETHOL

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwer a roddwyd iddo gan adrannau 79C a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[
1]:



RHAN  - 

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phersonau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant neu'n darparu gofal dydd ar safle perthnasol yng Nghymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    ystyr "corff" ("organisation") yw corff corfforaethol;

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "darpariaeth chwarae mynediad agored "("open access play provision") yw darpariaeth gofal dydd nad yw'n gofyn am y canlynol:

    (a) trefniant ymlaen llaw gan y person cofrestredig i ddarparu gofal o'r fath; neu

    (b) bod plant yn cael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall yn ôl ac ymlaen i'r safle perthnasol;

    ystyr "datganiad o ddiben" ("statement of purpose") yw'r datganiad sy'n cael ei lunio yn unol â rheoliad 3(1);

    ystyr "datganiadau safonau gofynnol cenedlaethol" ("statements of national minimum standards") yw'r datganiadau safonau gofynnol cenedlaethol a ddisgrifir yn Atodlen 1 ac a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ddyddiad gwneud y Rheoliadau hyn;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Plant 1989;

    ystyr "person cofrestredig" ("registered person") yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran XA o'r Ddeddf fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd;

    ystyr "person sy'n gyfrifol" ("person in charge"), mewn perthynas â gofal dydd, yw'r unigolyn sydd wedi'i benodi gan y person cofrestredig fel y person sy'n gyfrifol am ddarparu gofal dydd gwirioneddol ar y safle;

    ystyr "plentyn perthnasol" ("relevant child") yw plentyn y mae person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant mewn perthynas ag ef neu, yn ôl fel y digwydd, y mae gofal dydd yn cael ei ddarparu iddo gan berson cofrestredig;

    ystyr "safle perthnasol" ("relevant premises") yw'r safle lle mae'r person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu, yn ôl fel y digwydd, lle mae gofal dydd yn cael ei ddarparu gan berson cofrestredig;

    ystyr "safonau gofynnol cenedlaethol" ("national minimum standards") yw'r safonau sydd wedi'u nodi yn y datganiadau safonau gofynnol cenedlaethol;

    ystyr "swyddfa briodol" ("appropriate office")

    (a) os yw swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) mewn perthynas ag unrhyw safle perthnasol, yw'r swyddfa honno;

    (b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

    mae i "unigolyn cyfrifol" ("responsible individual") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â safle perthnasol sydd wedi'i leoli mewn ardal benodol o Gymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad - 

    (a) at reoliad neu atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;

    (b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;

    (c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

    (4) Yn y rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau neu fel arall heblaw o dan gontract, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu gyflogi person yn unol â hynny.

Datganiad o ddiben
    
3.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r gwaith gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd y mae'r person wedi'i gofrestru ar ei gyfer, datganiad ar bapur ("y datganiad o ddiben") a rhaid i'r datganiad hwnnw gynnwys - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau ei fod yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu fod gofal dydd yn cael ei ddarparu, yn ôl fel y digwydd, mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

    (3) Ni fydd dim ym mharagraff (2) nac yn rheoliad 20 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig dorri neu beidio â chydymffurfio â'r canlynol nac yn ei awdurdodi i wneud hynny - 

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig - 



RHAN II  - 

PERSONAU COFRESTREDIG

Y person cofrestredig  -  ei addasrwydd
    
4.  - (1) Rhaid i berson beidio â gweithredu fel gwarchodwr plant na darparu gofal dydd oni bai bod y person yn addas i ofalu am blant o dan wyth oed.

    (2) Nid yw person yn addas felly oni bai bod y person - 

    (a) yn unigolyn sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant ar ei ben ei hun neu sy'n darparu gofal dydd ar ei ben ei hun neu mewn partneriaeth ag un neu ragor o bersonau, ac yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi ym mharagraff (3); neu

    (b) yn achos person sy'n darparu gofal dydd, yn gorff a - 

      (i) bod y corff wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch enw, cyfeiriad a safle unigolyn yn y corff (unigolyn y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "yr unigolyn cyfrifol") sy'n un o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion y corff neu'n un o'i swyddogion eraill ac sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith darparu gofal dydd o'r fath; a

      (ii) bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi ym mharagraff (3).

    (3) Y gofynion yw - 

    (a) bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i ofalu am blant o dan wyth oed;

    (b) bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth oed;

    (c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person - 

      (i) ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;

      (ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw faterion a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[2] wedi'i dwyn i rym.

    (5) Nid yw person yn addas i weithredu fel gwarchodwr plant nac i ddarparu gofal dydd - 

    (a) os yw'r person wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os yw ei ystad wedi'i hatafaelu ac nad yw'r person (yn y naill achos neu'r llall) wedi'i ryddhau a bod y gorchymyn methdaliad heb ei ddirymu nac wedi'i ddadwneud; neu

    (b) os yw'r person wedi gwneud unrhyw gyfaddawd neu drefniant gyda'i gredydwyr, a heb gael ei ryddhau mewn perthynas ag ef.

Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
     5.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw

weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.

    (2) Os yw person cofrestredig yn gweithredu fel gwarchodwr plant neu yn unigolyn sy'n darparu gofal dydd, rhaid i'r person cofrestredig ymgymryd o bryd i'w gilydd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau sy'n angenrheidiol i weithredu fel gwarchodwr plant neu i ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd.

    (3) Os corff sy'n darparu gofal dydd yw'r person cofrestredig rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r medrau sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.

Hysbysu am dramgwyddau
    
6.  - (1) Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn sy'n gyfrifol wedi'i gael yn euog o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru neu'n rhywle arall, rhaid i'r person a gafwyd yn euog hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith o'r canlynol:

    (2) Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000[3] rhaid i'r person hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith yn ysgrifenedig o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono a dyddiad a man y cyhuddiad.



RHAN III  - 

LLES A DATBLYGIAD PLANT PERTHNASOL

Hybu lles
     7.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, yn y fath fodd ag i wneud y canlynol - 

    (a) hybu lles plant perthnasol a darparu'n briodol ar ei gyfer; a

    (b) darparu'n briodol ar gyfer gofal, addysg, goruchwyliaeth ac, os yw'n briodol, driniaeth plant perthnasol.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig, er mwyn darparu gofal i blant perthnasol a darparu'n briodol ar gyfer eu lles, a chyn belled ag y bo'n ymarferol, ddarganfod eu dymuniadau a'u teimladau a'u cymryd i ystyriaeth.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau - 

    (a) bod preifatrwydd ac urddas plant perthnasol yn cael eu parchu;

    (b) bod sylw dyledus yn cael ei roi i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol plant perthnasol ac unrhyw anabledd sy'n effeithio arnynt

tra bod y plant hynny o dan ofal y person.

Y bwyd a ddarperir ar gyfer y plant
    
8.  - (1) Os oes bwyd yn cael ei ddarparu i'r plant perthnasol gan y person cofrestredig, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod modd i blant perthnasol gael dwcirc r yfed ffres yn ystod yr holl gyfnod y maent o dan ofal y person.

Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
    
9.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a gweithredu polisi ysgrifenedig - 

    (2) Yn benodol rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu ar gyfer y canlynol - 

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "ymholiadau amddiffyn plant" yw unrhyw ymholiadau a wneir gan awdurdod lleol wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd gan y Ddeddf neu odani mewn perthynas ag amddiffyn plant.

Rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal
    
10.  - (1) Rhaid peidio â defnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol, yn afresymol neu'n groes i baragraff (5) ar blant perthnasol ar unrhyw adeg.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig, yn unol â'r rheoliad hwn, lunio a gweithredu polisi rheoli ymddygiad ysgrifenedig sy'n nodi - 

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7) o'r rheoliad hwn, dim ond y mesurau rheoli, atal a disgyblu y darperir ar eu cyfer yn y polisi rheoli ymddygiad a enwyd y caniateir eu defnyddio ar blant perthnasol.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r polisi rheoli ymddygiad o dan sylw ac, os yw'n briodol, ei adolygu, a hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw adolygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid peidio â defnyddio'r mesurau canlynol na bygythiad i ddefnyddio un neu ragor ohonynt ar blant perthnasol - 

    (6) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn gwahardd - 

Anghenion iechyd y plant
    
11.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig hybu iechyd plant perthnasol a'i ddiogelu.

    (2) Yn benodol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

Peryglon a diogelwch
    
12. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

Defnyddio meddyginiaethau a'u storio
    
13.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cadw unrhyw feddyginiaeth ar y safle perthnasol yn ddiogel.

    (2) Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, yn ddarostyngedig i baragraff (3) - 

    (3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "rhagnodwyd" neu "wedi'i rhagnodi" yw

Cwynion
     14.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cwynion sy'n cael eu gwneud gan blant perthnasol neu ar eu rhan.

    (2) Yn benodol, rhaid i'r weithdrefn ddarparu ar gyfer trefniadau i roi gwybod am y weithdrefn

    (3) Os gofynnir amdano, rhaid darparu copi o'r weithdrefn i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2).

    (4) Rhaid i'r copi o'r weithdrefn a ddarperir o dan baragraff (3) gynnwys - 

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i unrhyw gwyn sy'n cael ei gwneud o dan y weithdrefn gwynion.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gwyn, neu unrhyw gyfnod byrrach sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau, hysbysu'r person sydd wedi gwneud y gwyn am unrhyw gamau (os o gwbl) sydd i'w cymryd.

    (7) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud am unrhyw gwyn, am y camau a gymerwyd mewn ymateb iddi ac am ganlyniad yr ymchwiliad.

    (8) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i bob cwyn.



RHAN IV  - 

STAFFIO

Staffio
    
15. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod nifer digonol o bersonau medrus a phrofiadol gyda chymwysterau addas yn gofalu am y plant perthnasol bob amser, o ystyried - 

    (a) y datganiad o ddiben a nifer y plant perthnasol a'u hanghenion (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n deillio o unrhyw anabledd) , a

    (b) yr angen i ddiogelu a hybu eu hiechyd a'u lles.

Addasrwydd gweithwyr
    
16.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol - 

    (2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i ofalu am blant perthnasol oni bai - 

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad oes unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater y cyfeirir ato ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am nad yw unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997[7] wedi'i dwyn i rym.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau - 

    (a) bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson a ddisgrifir ym mharagraff (1) neu drefniant arall ynghylch gweithio ar y safle perthnasol a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a

    (b) oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, na fydd unrhyw berson o'r fath yn dechrau gwaith ar y safle perthnasol nes y cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.

    (5) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y safle perthnasol er gwaethaf paragraff (4)(b) - 

    (a) bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 o Atodlen 2 yn anghyflawn;

    (b) bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch - 

      (i) y mater a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2; a

      (ii) y mater a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno, ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys; neu

      (iii) y mater a bennir ym mharagraff 7 o'r Atodlen honno, os yw paragraff (3) yn gymwys;

    (c) bod yr amgylchiadau yn eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac

    (ch) bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio ar y safle perthnasol nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol tra bod y plant perthnasol yn bresennol.

Cyflogi staff
     17.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu sydd, yn benodol - 

    (2) At ddibenion paragraff (1)(b), y person cofrestredig, person sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran XA o'r Ddeddf, un o swyddogion yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle perthnasol, cwnstabl neu un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yw'r person priodol.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob cyflogai sy'n gofalu am blant perthnasol - 



RHAN V  - 

COFNODION A GWYBODAETH

Cadw cofnodion
    
18.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig  - 

    (a) cadw'r cofnodion ynglycircn â'r materion a bennir yn Atodlen 3 a thra bydd plant perthnasol yn derbyn gofal gan y person cofrestredig, rhaid cadw'r cofnodion hynny ar y safle perthnasol;

    (b) cadw'n ddiogel bob cofnod yn y cofnodion a bennir ym mharagraffau 1 i 9 o'r Atodlen honno am gyfnod o dair blynedd o'r dyddiad y gwnaed y cofnod diwethaf; ac

    (c) trefnu bod y cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdanynt.

    (2) Nid yw'n ofynnol i berson cofrestredig sy'n darparu gofal dydd drwy gyfrwng darpariaeth chwarae mynediad agored gadw'r cofnodion a bennir ym mharagraffau 5, 6 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag oriau mynychu) a 9 o'r Atodlen honNo.

    (3) Os yw person cofrestredig yn peidio â gweithredu fel gwarchodwr plant neu'n peidio â darparu gofal dydd, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion sy'n cael eu cadw yn unol â pharagraff (1) yn cael eu cadw'n ddiogel a rhaid iddo drefnu iddynt fod ar gael i'w harchwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdanynt.

Darparu gwybodaeth
    
19.  - (1) Rhaid i berson cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a nodir yn Atodlen 4 yn digwydd ac yr un pryd rhaid iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth a bennir yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw.

    (2) Rhaid hysbysu - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu rhiant plentyn perthnasol yn ddi-oed am unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol sy'n effeithio ar les y plentyn a rhaid iddo drefnu bod y cofnodion sy'n cael eu cadw yn unol â rheoliad 18, i'r graddau y maent yn ymwneud â phlentyn perthnasol, ar gael i'w harchwilio gan riant y plentyn hwnnw ac eithrio os na fyddai gwneud hynny yn rhesymol ymarferol neu os byddai'n gosod lles y plentyn mewn perygl.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol, os bydd yn gofyn amdani, unrhyw wybodaeth y mae arno ei hangen am ddarparu gofal i blant perthnasol, gan gynnwys gwybodaeth ariannol a chadarnhad am yswiriant ar gyfer atebolrwydd y gall y person cofrestredig ei beri mewn perthynas â marwolaeth, anafiadau, atebolrwydd cyhoeddus, niwed neu golled arall.



RHAN VI  - 

Y SAFLE

Ffitrwydd y safle
    
20.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, oni bai ei fod mewn lleoliad sy'n addas ar gyfer sicrhau'r nodau a'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y datganiad o ddiben, a bod dyluniad a chynllun ffisegol y safle yn addas ar gyfer sicrhau'r nodau a'r amcanion hynny.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr holl rannau o'r safle perthnasol sy'n cael eu defnyddio gan blant - 

    (a) wedi'u goleuo, eu gwresogi a'u hawyru'n ddigonol;

    (b) yn ddiogel rhag mynediad diawdurdod;

    (c) wedi'u dodrefnu a'u cyfarparu'n addas;

    (ch) o adeiladwaith cadarn ac yn cael eu cadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn;

    (d) yn lân ac wedi'u haddurno a'u cynnal a'u cadw'n rhesymol; a

    (dd) wedi'u cyfarparu â'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, ac wedi'u haddasu yn ôl yr angen, i ddiwallu'r anghenion sy'n deillio o anabledd unrhyw blentyn perthnasol.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y safle perthnasol yn cael ei gadw'n rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol.

    (4) Pan fydd gofal yn cael ei ddarparu mewn safle dan do rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yna ddigon o'r cyfleusterau canlynol ar y safle perthnasol i blant perthnasol eu defnyddio o dan amodau sy'n caniatáu preifatrwydd priodol - 

    (a) nifer digonol o fasnau ymolchi gyda chyflenwad dwr rhedegog poeth ac oer, a

    (b) nifer digonol o doiledau, sy'n addas i blant perthnasol,

ar gyfer nifer a rhyw'r plant perthnasol.

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, os yw bwyd yn cael ei ddarparu mewn safle dan do, fod cyfleusterau a chyfarpar addas a digonol ar gyfer paratoi, storio a bwyta bwyd ar y safle perthnasol.

Rhagofalon tân
    
21.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig - 

    (2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "awdurdod tân" yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal lle mae'r safle perthnasol, swyddogaethau awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[8].



RHAN VII  - 

AMRYWIOL

Cydymffurfio â rheoliadau
     22. Os oes mwy nag un person cofrestredig ar gyfer darparu gofal dydd i blant perthnasol ar yr un safle, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Safonau
    
23.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i'r safonau gofynnol cenedlaethol sydd wedi'u nodi yn y datganiad safonau gofynnol cenedlaethol sy'n berthnasol i'r math o ofal plant sy'n cael ei ddarparu gan y person cofrestredig.

    (2) Mae unrhyw honiadau bod y person cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â pharagraff (1) i'w cymryd i ystyriaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran XA o'r Ddeddf ac mewn achos o dan y Rhan honno o'r Ddeddf.

Tramgwyddau
    
24. Bydd person cofrestredig sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofynion rheoliadau 3 i 21 neu'n methu fel arall â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002 (16.00)



ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)


DATGANIADAU SAFONAU GOFYNNOL CENEDLAETHOL


    " Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwarchodwyr Plant"

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd Llawn"

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal y tu allan i'r Ysgol"

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Crèches"

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sesiynol"

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Darpariaethau Chwarae Mynediad Agored"



ATODLEN 2
Rheoliadau 4 ac 16


YR WYBODAETH SY'N OFYNNOL MEWN PERTHYNAS Â PHERSONAU SY'N CEISIO GWEITHREDU FEL GWARCHODWYR PLANT NEU DDARPARWYR GOFAL DYDD NEU'N CEISIO GWEITHIO DROSTYNT


     1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.

     2. Naill ai - 

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno[12].

     3. Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.

     4. Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei ddyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, yna, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

     5. Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymhwyster perthnasol.

     6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

     7. Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol - 

    (a) y cafwyd y person yn euog ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr "spent" yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974[13] ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975[14]; neu

    (b) y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt gan swyddog heddlu ac yr oedd y person wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.



ATODLEN 3
Rheoliad 18


Y COFNODION SYDD I'W CADW


     1. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a phob person arall sy'n byw, sy'n gweithio neu sy'n cael ei gyflogi ar y safle perthnasol.

     2. Enw, cyfeiriad cartref a rhif ffôn unrhyw berson arall a fydd mewn cysylltiad rheolaidd heb oruchwyliaeth â'r plant perthnasol.

     3. Enw, cyfeiriad cartref, dyddiad geni a rhyw pob plentyn perthnasol.

     4. Ar gyfer pob plentyn perthnasol, enw, cyfeiriad cartref a rhif ffôn rhiant.

     5. Ar gyfer pob plentyn perthnasol, enw a chyfeiriad yr ymarferydd meddygol cofrestredig y mae'r plentyn wedi'i gofrestru gydag ef.

     6. Cofnod dyddiol o enwau'r plant perthnasol, yr oriau yr oeddent yn bresennol ac enwau'r personau a oedd yn gofalu amdanynt.

     7. Cofnod o ddamweiniau, afiechydon difrifol a digwyddiadau arwyddocaol eraill a ddigwyddodd ar y safle perthnasol ac a effeithiodd ar les y plant perthnasol.

     8. Cofnod o unrhyw gynnyrch meddyginiaethol a roddwyd i blentyn perthnasol ar y safle perthnasol, gan gynnwys dyddiad ac amgylchiadau ei roi a chan bwy y cafodd ei roi, gan gynnwys cynhyrchion meddyginiaethol y caniateir i'r plentyn eu rhoi iddo ef ei hun, ynghyd â chofnod o gydsyniad rhiant.

     9. Unrhyw anghenion deietegol neu anghenion iechyd arbennig neu alergedd sydd gan unrhyw blentyn perthnasol.

     10. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân neu ddamwain.

     11. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os oes gan riant gwyn ynghylch y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan y person cofrestredig.

     12. Datganiad o'r trefniadau sydd wedi'u sefydlu ar gyfer amddiffyn plant perthnasol, gan gynnwys trefniadau i ddiogelu'r plant rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn os ceir honiadau o gam-drin neu esgeuluso.

     13. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd plentyn perthnasol yn mynd ar goll neu'n peidio â chael ei gasglu.



ATODLEN 4
Rheoliad 19


DIGWYDDIADAU I'W HYSBYSU I'R CYNULLIAD CENEDLAETHOL


     1.  - (1) Yn achos gwarchod plant, newid yn y personau canlynol - 

    (a) unrhyw berson sy'n gofalu am blant ar y safle perthnasol, neu

    (b) unrhyw berson sy'n byw neu'n cael ei gyflogi ar y safle hwnnw.

    (2) Dyddiad geni, enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill y person newydd a'i gyfeiriad cartref yw'r wybodaeth sydd i'w darparu.

     2.  - (1) Yn achos gofal dydd, newid yn y personau canlynol - 

    (a) unrhyw berson sy'n gyfrifol,

    (b) unrhyw un sy'n gofalu am blant ar y safle perthnasol,

    (c) unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio ar y safle hwnnw (ar yr amod na ddylid trin personau fel rhai sy'n gweithio ar y safle at ddibenion y paragraff hwn os nad oes dim o'u gwaith yn cael ei wneud yn y rhan o'r safle lle mae plant yn derbyn gofal neu os nad ydynt yn gweithio ar y safle ar adegau pan yw plant yn derbyn gofal yno), ac

    (ch) os yw'r gofal dydd yn cael ei ddarparu gan bartneriaeth, pwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforaethol, y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd, y Trysorydd (neu berson sy'n dal swydd gyffelyb yn y corff).

    (2) Dyddiad geni, enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill y person newydd a'i gyfeiriad cartref yw'r wybodaeth sydd i'w darparu.

     3. Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu'r personau hynny a ddisgrifir ym mharagraff 1(1) neu baragraff 2(1)(a) i (c).

     4. Unrhyw newid yn y math o ofal plant sy'n cael ei ddarparu gan berson cofrestredig.

     5. Unrhyw newid yng nghyfeiriad y safle perthnasol.

     6. Yn achos gofal dydd, unrhyw newid yn y cyfleusterau sydd i'w defnyddio ar gyfer gofal dydd ar y safle perthnasol, gan gynnwys newidiadau i'r nifer o ystafelloedd, eu swyddogaethau, y nifer o doiledau a basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân ar gyfer gweithwyr sy'n oedolion a mynedfa i'r safle ar gyfer ceir.

     7. Unrhyw newid yn yr oriau y mae gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant yn cael ei ddarparu ynddynt.

     8. Brigiad unrhyw glefyd heintus ar y safle perthnasol sydd ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n ymweld â phlentyn neu berson arall ar y safle yn ddigon difrifol i'w hysbysu felly neu unrhyw anaf difrifol i unrhyw blentyn neu berson arall ar y safle, neu salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall ar y safle.

     9. Unrhyw honiadau bod niwed difrifol wedi'i wneud yn erbyn plentyn gan unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol ar y safle, neu gan unrhyw berson sy'n byw, yn gweithio neu'n cael ei gyflogi ar y safle, neu unrhyw gamdriniaeth yr honnir ei bod wedi digwydd ar y safle.

     10. Unrhyw ddigwyddiad arall a all effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw, yn gweithio neu'n cael ei gyflogi ar y safle i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.

     11. Unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol arall sy'n debyg o effeithio ar les unrhyw blentyn ar y safle.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989 ("Deddf 1989") ac maent yn gymwys i bersonau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant neu sy'n darparu gofal dydd ar safle sydd wedi'i leoli yng Nghymru. Mae Rhan XA yn darparu ar gyfer cofrestru ac arolygu gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n cynnwys pwerau hefyd sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau personau o'r fath. Mae'r rheoliadau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2002.

Mae Rheoliad 3 yn darparu bod datganiad o ddiben yn cael ei lunio gan bersonau cofrestredig a bod hwnnw'n cynnwys y nodau a'r amcanion a materion perthnasol eraill am y gwasanaeth sydd i'w ddarparu ar gyfer plant o dan ofal y person cofrestredig.

Mae Rhan II (rheoliadau 4 i 6) yn gwneud darpariaeth ynglycircn ag addasrwydd personau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth fod ar gael mewn perthynas â'r materion a bennir yn Atodlen 2. Os corff yw'r darparydd gofal dydd, rhaid iddo enwebu unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth fod ar gael mewn perthynas ag ef. Mae rheoliad 5 yn gosod gofynion cyffredinol ynglycircn â darparu gofal gan bersonau cofrestredig ac ynglycircn â hyfforddiant. Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei hysbysu ynghylch tramgwyddau a chyhuddiadau o dramgwyddau penodol.

Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynglycircn â lles a datblygiad plant perthnasol o dan ofal personau cofrestredig ac yn benodol ynghylch hybu lles plant o'r fath, darparu bwyd a darparu polisïau amddiffyn plant a rheoli ymddygiad a'u gweithredu. Mae rheoliad 10 yn cynnwys darpariaethau sy'n gwahardd cosbi'n gorfforol a mesurau eraill yn erbyn plant o'r fath. Mae rheoliadau 11 i 13 yn gwneud darpariaeth am hybu iechyd plant perthnasol, ynglyn â'u diogelwch ac ynghylch storio meddyginiaethau a'u rhoi. Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol bod gweithdrefn gwynion yn cael ei pharatoi a'i dilyn gan bersonau cofrestredig.

Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch nifer, cymwysterau, profiad ac addasrwydd y rhai sy'n gweithio i bersonau cofrestredig gan gynnwys darpariaeth am yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â gweithwyr cyn y caniateir iddynt weithio i warchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd.

Mae Rhan V yn darparu ar gyfer cadw cofnodion a darparu gwybodaeth i rieni plant perthnasol o dan ofal gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd ac i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Rhan VI yn darparu ar gyfer ffitrwydd y safle lle mae gofal yn cael ei ddarparu, y cyfarpar a'r cyfleusterau sy'n cael eu darparu yn y safle ac ynglycircn â rhagofalon tân.

Mae Rhan VII yn ymdrin â materion amrywiol. Yn benodol, mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau cofrestredig roi sylw i safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer y gwahanol sefydliadau a ddisgrifir yn Atodlen 1 ac yn darparu y dylai unrhyw honiad bod person cofrestredig wedi methu â rhoi sylw i'r safonau perthnasol gael ei gymryd i ystyriaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ran XA o Ddeddf 1989 ac mewn achosion o dan y Rhan honno o'r Ddeddf. Mae rheoliad 24 yn darparu ar gyfer tramgwyddau am dorri rheoliadau penodol neu fethu â chydymffurfio â hwy.


Notes:

[1] 1989 p.41; mewnosodwyd adran 79C gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).back

[2] 1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.back

[3] 2000 p.50.back

[4] 1977 p.49.back

[5] 1997 p.46back

[6] 1968 p.67. Mae adran 58 wedi'i diwygio gan adran 1 o Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys 1992 (p.28).back

[7] Gweler y troednodyn i reoliad 4(4).back

[8] 1947 p.41.back

[9] 1998 p.38.back

[10] Mae adran 115(5)(e) wedi'i diwygio gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.back

[11] Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.back

[12] Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) ar ddyddiad sydd i'w bennu, ac yn cael eu diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi ar ddyddiad sydd i'w bennu. Mae'r diwygiad o dan baragraff 25 wedi'i ddwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig. Mae adrannau 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.back

[13] 1974 p.53.back

[14] O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, O.S. 1986/2268 ac O.S. 2001/1192.back



English version



ISBN 0 11090477 X


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 1 May 2002