Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090482 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(1), 32 a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1]. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2001" ("the 2001 Regulations") yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001[2]. Ffurf y trefniadau amgen 2. - (1) Diwygir Rheoliad 4(1) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn. (2) Dilëir y gair "awdurdod" yn y llinell gyntaf ac yn ei le rhoddir "awdurdodau". (3) Ym mharagraff (a) mewnosodir ar ôl "Bwrdd" y geiriau
3.
- (1) Diwygir Rheoliad 4(2) o Reoliadau 2001 fel a ganlyn.
(dd) pwyllgor apelau cyflogaeth; ac (e) mwyafrif o bedwar pwyllgor arall, y gall Rheolau Sefydlog yr awdurdod ddarparu ar eu cyfer, ac a fyddant ond yn arfer swyddogaethau nad ydynt, yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall, yn gyfrifoldeb Bwrdd awdurdod lleol hyn ar yr amod bod unrhyw benderfyniad i sefydlu pwyllgor o'r fath yn cael ei hysbysebu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod o ddyddiad y penderfyniad."
Gofynion ar gyfer pwyllgorau ac is-bwyllgorau
Swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd
(3) Ychwanegir ar ddiwedd Rhan I (Swyddogaethau Amrywiol):
er i wneud gorchymyn yn enwi man yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.";
(c) yng ngholofn (1):
er i gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc."
(d) yng ngholofn (1):
er i gymeradwyo Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc.";
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu "trefniadau amgen" (h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod) (adran 31(1)(b)) ac ar ba ffurf y dylai'r trefniadau hynny ei chymryd (adran 32(1)). O dan y darpariaethau hynny y gwnaeth y Cynulliad Cenedlaethol Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001"). Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n defnyddio'r un darpariaethau statudol, yn diwygio Rheoliadau 2001 er mwyn gwneud mân newidiadau i'r ffurf angenrheidiol i'r trefniadau amgen ac er mwyn dyfarnu sut y gall cyngor gyflawni ei swyddogaeth mewn perthynas â rhai pwerau ychwanegol penodedig. Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4(1) o Reoliadau 2001 fel bod rhaid i Fwrdd awdurdod lleol weithredu fel ei bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol oni ddynodir is-bwyllgor i'r Bwrdd at y diben hwnnw. Yn Rheoliad 3 mae diwygiad i reoliad 4(2) o Reoliadau 2001 hefyd yn caniatáu creu is-bwyllgor i'r Bwrdd i ymgymryd â rôl y pwyllgor gwasanaethau cymdeithasol os yw'r awdurdod lleol yn dewis hynny, creu pwyllgor apelau cyflogaeth a chreu hyd at bedwar pwyllgor (na chaniateir iddynt arfer ond y swyddogaethau nad yw Bwrdd awdurdod lleol yn gyfrifol amdanynt). Mae'r Rheoliad hefyd yn mynnu bod awdurdod lleol sy'n penderfynu sefydlu pwyllgor neu is-bwyllgor yn unol â Rheoliad 4(2)(e) yn hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod o ddyddiad y penderfyniad. Mae Rheoliad 4 yn diwygio Rheoliad 5(6) o Reoliadau 2001 i wahardd cadeirydd neu is-gadeirydd awdurdod lleol rhag bod yn aelod o'r Bwrdd. Diwygir Atodlen 1 o Reoliadau 2001 gan Reoliad 5. Ceir geiriau ychwanegol (ym mharagraff 14) yngl n â phenodi staff er mwyn ei gwneud yn eglur nad cyfrifoldeb Bwrdd awdurdod lleol fydd penderfynu amodau a thelerau (gan gynnwys gweithdrefnau diswyddo). Mae'r diwygiad hwn yn golygu hefyd fod y p er i wneud Gorchymyn yn enwi man yn fan cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau'r heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol o dan adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 yn un y mae'n rhaid i Fwrdd awdurdod lleol beidio â'i arfer. Mae'n rhaid i'r cyngor llawn, ac nid Bwrdd awdurdod lleol, gymeradwyo Cynlluniau Strategol Partneriaethau Pobl Ifanc a Phartneriaethau Fframwaith Plant a Phobl Ifanc o dan adrannau 123 i 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.Notes: [1] 2000 p.22.back [2] O.S. 2001/2284 (Cy.173).back
ISBN 0 11090482 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 7 May 2002 |