Offerynnau Statudol 2002 Rhif 808 (Cy.89)

      Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002, ISBN 0 11 090490 7. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 808 (Cy.89)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 21 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 47, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1], a'r holl bwerau eraill sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[3]; ac

    ystyr "Deddf Cyllid 1988" ("the 1988 Finance Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[4]).

Addasu Deddfau
     2. Mae'r deddfiadau canlynol, fel y maent yn gymwys i Gymru, yn cael eu haddasu yn unol ag erthyglau 3 i 41 - 

    (a) Deddf 1972;

    (b) Deddf Llywodraeth Leol 1974[
    5];

    (c) Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976[6];

    (ch) Deddf Trafnidiaeth 1985[7];

    (d) Deddf Pwysau a Mesuriadau 1985[8]);

    (dd) Deddf Llywodraeth Leol 1986[9];

    (e) Deddf Meysydd Awyr 1986[10]);

    (f) Deddf Peilota 1987[11];

    (ff) Deddf Llywodraeth Leol 1988[12];

    (g) Deddf Cyllid 1988;

    (ng) Deddf 1989;

    (h) Deddf y Diwydiant Dwcirc r 1991[13]);

    (i) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[14];

    (j) Deddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994[15]);

    (l) Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996[16];

    (ll) Deddf Ddifenwi 1996[17];

    (m) Deddf Addysg 1996[18];

    (n) Deddf Ynadon Heddwch 1997[19];

    (o) Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[20]);

    (p) Deddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000[21];

    (ph) Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983[22];

    (r) Rheoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991[23];

    (rh) Rheoliadau Plant (Llety Diogel)1991[24];

    (s) Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992[25];

    (t) Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994[26].

Gwaharddiad ar hybu Mesurau ar gyfer newid ardaloedd llywodraeth leol, etc
     3. Yn adran 70 o Ddeddf 1972[27]) (gwaharddiad ar hybu mesurau ar gyfer newid ardaloedd llywodraeth leol), ychwanegwch ar y diwedd - 

        " (3) No local authority or joint authority shall have power to promote a Bill for forming, altering or abolishing executive arrangements or alternative arrangements, or for altering arrangements for electing an elected mayor.".

Y cymwysterau ar gyfer ethol a dal swydd fel maer etholedig
     4. Yn adran 79 o Ddeddf 1972 (cymwysterau ar gyfer ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol), yn is-adran (1), ar ôl "member of local authority", mewnosodwch, ", or be qualified to be elected and to be an elected mayor,".

Datgymhwysiadau ar gyfer ethol a dal swydd fel maer etholedig
    
5. Yn adran 80 o Ddeddf 1972 (datgymhwysiadau ar gyfer ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol), yn is-adran (1) - 

Dilysrwydd gweithredoedd personau anghymwys
    
6. Yn adran 82 o Ddeddf 1972[28] (dilysrwydd gweithredoedd personau anghymwys), yn is-adran (1), ar ôl "the Local Government Act 1985", mewnosodwch "or elected as elected mayor or executive leader".

Ymadael â swydd o ganlyniad i fethu â mynychu cyfarfodydd
     7. Yn adran 85 o Ddeddf 1972[29] (ymadael â swydd o ganlyniad i fethu â mynychu cyfarfodydd) - 

    (a) ar ôl is-adran (2), mewnosodwch - 

        " (2A) Subject to subsections (2B) and (3), if a member of a local authority which are operating executive arrangements, who is also a member of the executive of that local authority, fails throughout a period of six consecutive months from the date of his last attendance to attend any meeting of the executive, he shall, unless the failure was due to some reason approved by the local authority before the expiry of that period, cease to be a member of the local authority.

        (2B) For the purposes of this section - 

      (a) the discharge by a member, acting alone, of any function which is the responsibility of the executive; and

      (b) in respect of a mayor and cabinet executive or leader and cabinet executive, attendance as a member at a meeting of a committee of the executive,

    shall each be deemed to be in attendance at a meeting of the executive.";

    (b) yn is-adran (3), ar ôl "meetings of the local authority", mewnosodwch "or of a failure to attend meetings of the executive"; ac

    (c) yn is-adran (3A) - 

      (i) ar ôl "subsection (1)", mewnosodwch "or (2A)"; a

      (ii) ar ôl "meetings of the authority", mewnosodwch "or, as the case may be, meetings of the executive".

Aelodau o awdurdodau lleol nad ydynt i gael eu penodi yn swyddogion
     8. Yn adran 116 o Ddeddf 1972[30] (aelodau awdurdodau lleol nad ydynt i gael eu penodi yn swyddogion) - 

    (a) ar ôl "being appointed", mewnosodwch "or elected"; a

    (b) ar ôl "or vice-chairman", mewnosodwch "or, in the case of a local authority which are operating executive arrangements which involve a leader and cabinet executive, the office of executive leader or member of the executive".

Darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli
     9. Yn is-adran (1) o adran 270 o Ddeddf 1972[31] (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli), ar ôl "that is to say  - " mewnosodwch - 

      " "alternative arrangements" has the same meaning as in Part II of the Local Government Act 2000;".

Ystyried adroddiadau anffafriol
     10.  - (1) Yn adran 31A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974[32] (ystyried adroddiadau anffafriol) - 

    (a) ar ôl is-adran (2), mewnosodwch - 

        " (2A) In the case of a local authority which are operating executive arrangements, consideration of a further report of the Local Commissioner under section 31(2A) above by the executive of that local authority, or any person on behalf of that executive, shall be subject to a corresponding restriction."; a

    (b) ar ôl is-baragraff (5), mewnosodwch - 

        " (5A) In the case of a local authority which are operating executive arrangements - 

      (a) no member of the executive of that authority shall decide; and

      (b) no member of the executive or any body acting on behalf of that executive shall vote;

    on any question with respect to a report or further report under this part of the Act in which that person is named and criticised by a Local Commissioner".

    (2) Yn is-adran (1) o adran 34 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (dehongli Rhan III), ar ôl y diffiniad o "the Commissions" mewnosodwch - 

           " "executive" and "executive arrangements" have the same meaning as in Part II of the Local Government Act 2000;".

Tystiolaeth o benderfyniadau a chofnodion trafodion etc
     11.  - (1) Yn adran 41 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (tystiolaeth o benderfyniadau a chofnodion trafodion) - 

    (2) Yn is-adran (1) o adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (dehongli etc Rhan I), ar ôl y diffiniad o "the Common Council" mewnosodwch - 

           " "executive" and "executive arrangements" have the same meaning as in Part II of the Local Government Act 2000;".

Anableddau cyfarwyddwyr cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus
     12. Yn adran 74 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (anableddau cyfarwyddwyr cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus) - 

        " (3A) Subject to the following provisions of this section, where a director of a public transport company is a member of the executive of any such council as is mentioned in subsection (1)(a) or (b) above which are operating executive arrangements under Part II of the Local Government Act 2000, he shall not, in the course of the discharge of any function that is the responsibility of the executive, take any action in the consideration, or the making of any decision with respect to any contract or proposed contract with, or any other matter relating to the activities of, the public transport company or a subsidiary of that company.

        (3B) Subsection (3) or (3A) above shall not prohibit a person from taking part in the consideration or discussion of, or from voting on any question with respect to, a local transport plan or bus strategy.";

    (b) ar gyfer is-adran (4), mewnosodwch - 

        " (4A) The National Assembly for Wales may grant a written dispensation from subsection (3) or (3A) above in the case of any individual member, except that no such dispensation may be granted in the case of a member of a council's executive acting alone.";

    (c) ar gyfer is-adran (6), mewnosodwch - 

    "(6A) The National Assembly for Wales may confer exemptions from subsection (3) or (3A) above either generally or in the case of any class or description of members except that no such exemption may be granted in the case of a member of a council's executive acting alone; and - 

    (a) subsection (5)(a) and (b) above shall apply in relation to any such exemption as they apply in relation to any dispensation that may be granted under subsection (4) above; and

    (b) any such exemption may be withdrawn or varied at any time by the National Assembly for Wales

    (ch) in subsection (7), after "subsection (3)" there shall be inserted "or (3A)".

Safonau gwaith a chyfarpar profi a stampio
     13. Yn adran 5 o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985 (safonau gwaith a chyfarpar profi a stampio) yn is-adran (11), ar ddiwedd paragraff (c) mewnosodwch - 

Cyhoeddusrwydd awdurdod lleol
     14. Yn adran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986[36] (dehongli a chymhwyso Rhan II), ar ôl is-adran (6), ychwanegwch - 

        " (7) Nothing in this Part shall be construed as applying to anything done by a person in the discharge of any duties under regulations made under section 22 of the Local Government Act 2000 (access to information etc)."[37]

Anableddau cyfarwyddwyr cwmnïau meysydd awyr cyhoeddus
     15. Yn adran 18 o Ddeddf Meysydd Awyr 1986 (anableddau cyfarwyddwyr cwmnïau meysydd awyr cyhoeddus) - 

Awdurdodi cynlluniau peilotiaid
    
16. Yn adran 3 o Ddeddf Peilota 1987 (awdurdodi peilotiaid) - 

Contractau cyflenwi cyhoeddus neu gontractau gwaith
    
17.  - (1) Yn adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 (darpriaethau sy'n atodol neu'n ganlyniadol ar adran 17), yn is-adran (6), ar ôl "Local Government Act 1972", mewnosodwch ", regulations under section 19 of the Local Government Act 2000 (discharge of functions of and by another local authority)".

    (2) Yn Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1988[
38] (contractau cyflenwi cyhoeddus neu waith: yr awdurdodau lleol), ar ôl "A local authority.", mewnosodwch "An executive of a local authority (within the meaning of Part II of the Local Government Act 2000).".

Gweinyddiaeth ariannol  -  dehongli
     18. Yn adran 111 o Ddeddf Cyllid 1988[39] (dehongli), ar ôl is-adran (3), mewnosodwch - 

        " (3A) In this Part, "council manager", "elected mayor", "executive", "executive arrangements", "executive leader" and "cabinet executive", "mayor and "cabinet executive" and "mayor and council manager executive" have the same meaning as in Part II of the Local Government Act 2000.".

Swyddogaethau swyddogion cyfrifol mewn perthynas ag adroddiadau
     19.  - (1) Yn adran 114 o Ddeddf Cyllid 1988[40] (swyddogaethau swyddog cyfrifol mewn perthynas ag adroddiadau) - 

    (a) yn is-adran (2), ar y dechrau, mewnosodwch "Subject to subsection (2A),";

    (b) ar ôl is-adran (2), mewnosodwch - 

        " (2A) Where a relevant authority is operating executive arrangements, the chief finance officer of the relevant authority shall not make a report under subsection (2) in respect of any action referred to in paragraph (a), (b) or (c) of that subsection unless it is action taken otherwise than by or on behalf of the relevant authority's executive."; ac

    (c) yn is-adran (4), ar y diwedd, ychwanegwch - 

      " ; and

      (c) in a case where the relevant authority has a mayor and council manager executive, the person who at the time the report is made is the council manager of that authority".

    (2) Ar ôl adran 114 o Ddeddf Cyllid 1988, mewnosodwch - 

Dyletswyddau'r weithrediaeth ynghylch adroddiadau
     20.  - (1) Ar ôl adran 115A o Ddeddf Cyllid 1988[42], mewnosodwch - 

    (2) Yn adran 116 o Ddeddf Cyllid 1988 - 

Swyddi a gyfyngir yn wleidyddol
    
21. Yn is-adran (3)(a) o adran 2 o Ddeddf 1989[43] (swyddi a gyfyngir yn wleidyddol) ar ôl "are represented", mewnosodwch - 

      " or, where the authority are operating executive arrangements, to the executive of the authority, to any committee of that executive, or to any member of that executive who is also a member of the authority".

Dynodi swyddog monitro a'i adroddiadau
     22.  - (1) Yn adran 5 o Ddeddf 1989[44] (dynodi swyddog monitro a'i adroddiadau) - 

    (a) yn is-adran (1)(a), ar ôl "by this section", mewnosodwch "and, where relevant, section 5A below";

    (b) yn is-adran (1)(b), ar ôl "those duties", mewnosodwch "and, where relevant, the duties under section 5A below";

    (c) yn is-adran (2), ar y dechrau, mewnosodwch "Subject to subsection (2B),";

    (ch) ar ôl is-adran (2A), mewnosodwch - 

        " (2B) Where a relevant authority are operating executive arrangements, the monitoring officer of the relevant authority shall not make a report under subsection (2) in respect of any proposal, decision or omission unless it is a proposal, decision or omission made otherwise than by or on behalf of the relevant authority's executive.";

    (d) yn is-adran (3), ar ddiwedd paragraff (b), ychwanegwch "and, in a case where the relevant authority have a mayor and council manager executive, to the council manager of the authority"; a

    (dd) yn is-adran (8), ar ôl "In this section", mewnosodwch "and in section 5A".

    (2) Ar ôl adran 5 o Ddeddf 1989, mewnosodwch - 

Cynorthwywyr ar gyfer grwcirc piau gwleidyddol
     23. Yn adran 9 o Deddf 1989[46] (cynorthwywyr ar gyfer grwcirc piau gwleidyddol) - 

    (a) yn is-adran (8), ar ôl "corresponding provision for Scotland)", mewnosodwch - 

      " ; or

      (c) Part II of the Local Government Act 2000 (arrangements with respect to executives etc)[47]";

    (b) ar ôl is-adran (8), mewnosodwch - 

        " (8A) Neither an executive, a committee of an executive or a member of an executive, of a relevant authority, shall exercise any power under - 

      (a) sections 14 to 18 of the Local Government Act 2000 (discharge of functions); or

      (b) section 101(5) of the Local Government Act 1972 (arrangements for the discharge of functions by local authorities)[48],

    so as to arrange for the discharge of any of the authority's functions by any person who holds a post under the authority to which he was appointed in pursuance of this section.

        (8B) An area committee of a relevant authority shall not exercise any power under arrangements made under regulations made under section 18 of the Local Government Act 2000 (discharge of functions by area committees)[49] so as to arrange for the discharge of any of the authority's functions by any person who holds a post under the authority to which he was appointed in pursuance of this section."; ac

    (c) yn is-adran (11), ar ôl y diffiniad o "appropriate year", mewnosodwch - 

           " "area committee" has the same meaning as in section 18 of the Local Government Act 2000;".

Dehongli Rhan I o Ddeddf 1989
     24. Yn adran 21 o Ddeddf 1989[50]) - 

    (a) yn is-adran (3), ar ôl y diffiniad o "contravention", mewnosodwch - 

             " "council manager", "executive", "executive arrangements" and "mayor and council manager executive" have the same meaning as in Part II of the Local Government Act 2000;"; and

    (b) yn is-adran (4), ar ôl "or otherwise)", mewnosodwch "or a member of any exeutive of the authority (other than a council manager)".

Cwmnïau y mae gan awdurdodau lleol fuddiant ynddynt
     25.  - (1) Yn is-adran (5) o adran 71 o Ddeddf 1989[51] (rheoli buddiannau lleiafrifol etc mewn rhai cwmnïau), ar ôl "or sub-committee thereof),", mewnosodwch - 

           " or, where a local authority is operating executive arrangements under Part II of the Local Government Act 2000, for enabling members of the executive, in the course of proceedings of the executive (or of any committee of the executive),".

    (2) Yn is-adran (4) o adran 73 o Ddeddf 1989 (awdurdodau sy'n gweithredu ar y cyd a thrwy bwyllgorau), ar ôl "any of the authority's officers", mewnosodwch - 

           " or, where a local authority is operating executive arrangements under Part II of the Local Government Act 2000, by the authority's executive, any committee of the executive, or any member of the executive".

Cyflawni swyddogaethau ymgymerwyr carthffosiaeth gan awdurdodau lleol etc
     26. Yn adran 97 o Ddeddf y Diwydiant Dwcirc r 1991 (cyflawni swyddogaethau ymgymerwyr carthffosiaeth gan awdurdodau lleol etc) - 

Y dreth gyngor a thaliadau cymunedol: cyfyngiadau ar bleidleisio
    
27.  - (1) Yn adran 106 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y dreth gyngor a thaliadau cymunedol: cyfyngiadau ar bleidleisio) - 

    (2) Yn adran 116 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (dehongli: cyffredinol), ar ôl y diffiniad o "the Social Security Acts" mewnosodwch - 

Swyddogaethau awdurdodau lleol
    
28. Yn adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994[52] (swyddogaethau awdurdodau lleol) - 

    (a) ar ôl is-adran (1), mewnosodwch - 

        " (1A) This section also applies to any function of a local authority - 

      (a) if, and to the extent that, it is the responsibility of an executive of that local authority under executive arrangements[53], within the meaning of Part II of the Local Government Act 2000;

      (b) which is conferred by or under any enactment;

      (c) which, by virtue of any of sections 14 to 16, or any provisions made under sections 17 to 20, of the Local Government Act 2000 (provisions with respect to executive arrangements  -  discharge of functions etc), may be exercised by an officer of the local authority; and

      (d) which is not excluded by section 71 below."; a

    (b) ar ôl is-adran (6), mewnosodwch - 

        " (7) Where at any time - 

      (a) an order is in force under this section in relation to any function of a local authority ("authority A");

      (b) that function, to any extent, is the responsibility of an executive of authority A under executive arrangements, within the meaning of Part II of the Local Government Act 2000; a

      (c) arrangements are in force under regulations made under section 19 of the Local Government Act 2000[54] (discharge of functions of and by another local authority) for the exercise of that function, to any extent, by another local authority ("authority B") or by any executive of authority B,

    it shall be an implied term of those arrangements that authority B or, as the case may be, the executive of authority B, shall not give any authorisation by virtue of the order in relation to that function except with the consent of the executive of authority A.".

Yr hawl i gael amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus
     29. Yn adran 50 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (yr hawl i gael amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus),

Datganiadau sy'n freintiedig yn ddarostyngedig i esboniad neu wrth-ddweud
    
30. Yn Atodlen 1 i Ddeddf Ddifenwi 1996 (datganiadau sy'n freintiedig yn ddarostyngedig i esboniad neu groes-ddweud) - 

Unedau cyfeirio disgyblion
    
31. Yn Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 (unedau cyfeirio disgyblion) - 

    (a) yn is-baragraff (2) o baragraff 15[55] (pwyllgorau rheoli) - 

      (i) ar gyfer paragraff (d), amnewidiwch - 

      " (d) for requiring or (as the case may be) prohibiting the delegation by - 

        (i) a local education authority; neu

        (ii) in the case of a local education authority which are operating executive arrangements, the executive of that authority or any person on behalf of that executive,

      to a management committee of such functions in connection with pupil referral units as are specified in the regulations.";

         a

      (ii) ym mharagraff (f) ar ôl "a local education authority" mewnosodwch ", and in the case of a local education authority which are operating executive arrangements the executive of that authority or any person acting on behalf of that executive,"; a

    (b) ar ôl is-baragraff (2) ychwanegwch - 

        " (3) In sub-paragraph (2), "executive" and "executive arrangements" have the same meaning as in the Local Government Act 2000.".

Datgymhwyso mewn rhai achosion ynadon sy'n aelodau o awdurdodau lleol
     32. Yn is-adran (1) o adran 66 o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 (datgymhwyso mewn rhai achosion ynadon sy'n aelodau awdurdodau lleol) - 

Trosglwyddo neu ddirprwyo swyddogaethau sy'n ymwneud â chynorthwyo myfyrwyr
    
33. Yn adran 23 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (trosglwyddo neu ddirprwyo swyddogaethau sy'n ymwneud â chynorthwyo myfyrwyr) - 

Pwcircer i orchymyn rhiant neu warcheidwad i dalu dirwy, costau neu iawndal
    
34. Yn adran 137 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfyrdu) 2000 (pwcircer i orchymyn rhiant neu warcheidwad i dalu dirwy, costau neu iawndal) yn is-adran (8)(b), ar gyfer "stand referred to their social services committees under" amnewidiwch "are social services functions within the meaning of".

Paneli mabwysiadu
    
35. Yn rheoliad 5 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983[56] (sefydlu paneli mabwysiadu a phenodi aelodau), ar ôl paragraff (6), ychwanegwch - 

        " (7) Where a local authority are operating executive arrangements, paragraphs (2)(b) and (6)(c) shall have effect as if the references in those paragraphs to a local authority's social services committee were references to - 

      (a) the authority's executive; or

      (b) an overview and scrutiny committee of the authority where the committee's functions under section 21 of the Local Government Act 2000 (overview and scrutiny committees) relate wholly or partly to any social services functions of the authority.

        (8) In paragraph (7) - 

      (a) "executive", "executive arrangements" and "overview and scrutiny committee" have the same meaning as in Part II of the Local Government Act 2000; and

      (b) "social services functions" has the same meaning as in section 1A of the Local Authority Social Services Act 1970[57] (meaning of "social services functions").".

Ymwelwyr annibynnol
     36. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991[58] (ymwelwyr annibynnol), yn is-baragraff (i) o baragraff (a), ar ôl "elected or co-opted", mewnosodwch ", or a council manager of the local authority (within the meaning of section 11(4)(b) of the Local Government Act 2000 (local authority executives))".

Ceisiadau i lysoedd
     37. Yn rheoliad 8 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) 1991[59] (ceisiadau i lysoedd), ar ôl "Local Government Act 1972", mewnosodwch "or to provisions in or under sections 14 to 20 of the Local Government Act 2000".

Gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus
     38. Yn rheoliad 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992[60]) (gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus), is-baragraff (a) o baragraff (3), ar ôl "by a committee", mewnosodwch ", any executive (within the meaning of Part II of the Local Government Act 2000), a committee of any executive or a member of any executive,".

Anghenion addysgol arbennig  -  cymeradwyo ysgolion annibynnol
     39. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) Regulations 1994[61] (dehongli) - 

    (a) ar ôl y diffiniad o "child with a statement", mewnosodwch - 

           " "executive" has the same meaning as in Part II of the Local Government Act 2000;";

         a

    (b) yn y diffiniad o "local authority", ar gyfer "acting in the discharge of their functions under any of the enactments specified in Schedule 1 to the Local Authority Social Services Act 1970 (enactments conferring functions assigned to the social services committee)", amnewidiwch "which is, or whose executive (if any) is, responsible for exercising social services functions within the meaning of section 1A of the Local Authority Social Services Act 1970[62] (meaning of "social services functions")".

Aelodau'r weithrediaeth
     40.  - (1) Pan fo aelod gweithrediaeth awdurdod lleol yn peidio â bod yn gynghorydd, yn achos gweithrediaeth maer a chabinet neu weithrediaeth arweinydd a chabinet, bydd y person hwnnw yn peidio ar yr un pryd â bod yn aelod o'r weithrediaeth.

    (2) Pan fo cynghorydd yn cael ei benodi gan faer etholedig fel aelod o weithrediaeth maer a chabinet - 

    (3) Pan fo cynghorydd yn cael ei benodi gan arweinydd gweithrediaeth fel aelod gweithrediaeth arweinydd a chabinet - 

    (4) Pan fo awdurdod yn penderfynu, o dan drefniadau gweithrediaeth gweithrediaeth arweinydd a chabinet, nifer y cynghorwyr y gellir eu penodi i'r weithrediaeth o dan adran 11(3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[63], a bod arweinydd y weithrediaeth yn penodi'r cynghorwyr i'r weithrediaeth, bydd arweinydd y weithrediaeth yn - 

    (a) penodi i'r weithrediaeth y nifer o gynghorwyr a bennwyd felly; a

    (b) pan fydd cynghorydd yn peidio â bod yn aelod o'r weithrediaeth cyn diwedd cyfnod arweinydd y weithrediaeth yn ei swydd, penodi cynghorydd arall i'r weithrediaeth yn lle'r cynghorydd a beidiodd â bod yn aelod.

Gweithrediaethau maer a chabinet
     41.  - (1) Mae'r darpariaethau yn yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â threfniadau gweithrediaeth awdurdod lleol sy'n cynnwys gweithrediaeth maer a chabinet.

    (2) At ddibenion yr erthygl hon, dylid ystyried bod maer etholedig, dirprwy faer neu aelod o'r weithrediaeth yn analluog i weithredu dim ond os ydyw yn cael ei wahardd o swydd neu'n anaddas i weithredu am resymau iechyd.

    (3) Os am unrhyw resymau - 

rhaid i'r aelod arall hwnnw weithredu yn lle'r maer etholedig.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), os am unrhyw reswm - 

bydd yr awdurdod, cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, yn penodi cynghorydd o'r awdurdod ("y maer dros dro") ("the interim mayor") i weithredu yn lle'r maer etholedig a phenodi o leiaf ddau, ond nid mwy na naw, cynghorydd o'r awdurdod ("yr aelodau dros dro") ("the interim members") i weithredu yn lle aelodau'r weithrediaeth a benodwyd gan y maer etholedig.

    (5) Ni chaiff y maer dros dro a'r aelodau dros dro benodi cynghorwyr yr awdurdod i'r weithrediaeth na'u symud o'u swyddi.

    (6) At ddibenion adran 11(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (gweithrediaethau awdurdod lleol), bydd y maer dros dro a'r aelodau dros dro yn cael eu trin fel nad ydynt yn aelodau o'r weithrediaeth.

    (7) Ac eithrio adran 80 o Ddeddf 1972 (datgymhwysiadau mewn perthynas ag ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol) neu adran 35 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (datgymhwyso), ni chaiff person ei ddatgymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol neu, fel y digwydd, awdurdod ar y cyd dim ond am fod y person hwnnw yn faer dros dro neu'n aelod dros dro.

    (8) Pan fo'r maer dros dro neu'r aelod dros dro yn peidio â bod yn gynghorydd, bydd y person hwnnw yn peidio â bod ar yr un pryd yn faer dros dro neu, fel y digwydd, yn aelod dros dro.

    (9) Gall yr awdurdod, os yw'n tybio bod hynny'n briodol, symud y maer dros dro neu aelod dros dro o'u swydd.

    (10) Bydd unrhyw faer dros dro ac aelod dros dro, oni bai fod y person hwnnw yn ymddiswyddo fel maer dros dro, neu fel y digwydd, fel aelod dros dro, sy'n peidio â bod yn gynghorydd neu'n cael eu symud o'u swyddi, yn dal swydd hyd - 

p'un bynnag a ddigwydd gyntaf.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
64]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn addasu deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd ac yn gwneud darpariaethau eraill at ddibenion, yn ganlyniadol i, neu ar gyfer rhoi effaith lawn i ddarpariaethau Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000"). Mae'r Gorchymyn hwn a'r addasiadau a wneir ganddo yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae erthyglau 3 a 9 yn addasu Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae erthygl 3 yn rhwystro awdurdod lleol neu awdurdod ar y cyd rhag hybu Mesur i ffurfio, newid neu ddiddymu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen neu i newid trefniadau ar gyfer ethol maer. Mae erthyglau 4 a 5 yn cymhwyso'r cymwysterau a'r datgymwysterau ar gyfer ethol a dal swydd fel maer etholedig. Mae erthygl 6 yn ymestyn darpariaethau ar gyfer dilysrwydd gweithrediadau a wneir gan bersonau anghymwysedig i feiri etholedig ac arweinyddion gweithrediaeth. Mae erthygl 7 yn addasu'r darpariaethau ar gyfer ymadael â swydd o ganlyniad i fethu â mynychu cyfarfodydd fel eu bod yn gymwys i aelodau'r weithrediaeth. Mae erthygl 8 yn addasu'r darpariaethau ar gyfer peidio â phenodi aelodau awdurdodau lleol yn swyddogion fel y gellir penodi person sy'n aelod o weithrediaeth arweinydd a chabinet (a fydd hefyd yn aelod o'r awdurdod) i swydd sy'n derbyn tâl yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis wedi ef neu hi beidio â bod yn aelod felly o'r weithrediaeth. Mae erthygl 9 yn addasu'r ddarpariaeth ddehongli drwy fewnosod diffiniad o "drefniadau amgen".

Mae erthygl 10 yn addasu adran 31A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 fel bod cyfyngiadau sy'n ymwneud ag ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Lleol yr un mor gymwys i'r weithrediaeth, pwyllgorau'r weithrediaeth ac aelodau'r weithrediaeth ag ydynt i bwyllgorau'r awdurdod ac aelodau'r awdurdod.

Mae erthygl 11 yn addasu adran 41 o Ddeddf Llywodreth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 fel y gellir defnyddio cofnodion penderfyniadau a wnaed gan y weithrediaeth, aelodau'r weithrediaeth a phwyllgorau'r weithrediaeth fel tystiolaeth mewn achos sifil, yn yr un modd â chofnodion cyfarfodydd y cyngor a'i bwyllgorau.

Mae erthygl 12 yn addasu adran 74 o Ddeddf Trafnidiaeth 1974 fel nad oes modd i aelod o'r weithrediaeth sydd hefyd yn gyfarwyddwr cwmni trafnidiaeth gyhoeddus gymryd rhan yng nghyfarfodydd y weithrediaeth neu bwyllgor o'r weithrediaeth neu wneud penderfyniadau ar ei ben ei hun pan fo contractau sy'n ymwnueud â'r cwmni hwnnw yn cael eu hystyried.

Mae erthygl 13 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 5 o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985.

Mae erthygl 14 yn addasu adran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986 fel nad yw darpariaethau cyhoeddusrwydd awdurdodau lleol Rhan II y Ddeddf honno yn gymwys i weithrediaethau awdurdodau lleol trwy rinwedd adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Mae erthygl 15 yn addasu adran 18 o Ddeddf Meysydd Awyr 1986 fel nad oes modd i aelod gweithrediaeth sydd hefyd yn gyfarwyddwr cwmni maes awyr cyhoeddus gymryd rhan yng nghyfarfodydd y weithrediaeth, neu bwyllgor gweithrediaeth neu wneud penderfyniad ar ei ben ei hun pan fod contractau neu faterion eraill sy'n ymwneud â'r cwmni maes awyr yn cael eu hystyried.

Mae erthygl 16 yn addasu adran 3 o Ddeddf Peilota 1987 fel nad yw peilot harbwr sy'n aelod o weithrediaeth awdurdod yn cael ei rwystro rhag cymryd rhan mewn penderfyniad ar y cyd pan fo gwybodaeth am beilota yn bwysig.

Mae erthygl 17 yn addasu'r darpariaethau contractau cyflenwi cyhoeddus neu gontractau gwaith yn Neddf Llywodraeth Leol 1988. Caiff Atodlen 2 ei haddasu fel bod gweithrediaeth awdurdod lleol yn awdurdod cyhoeddus at ddibenion adran 17 o'r Ddeddf honno (eithrio ystyriaethau anfasnachol tra'n arfer swyddogaethau mewn perthynas â chontractau cyflenwi cyhoeddus neu gontractau gwaith awdurdod lleol). Caiff adran 19 ei haddasu fel bod adran 17 yn gymwys i awdurdod lleol arall, sy'n cyflawni swyddogaethau ar ran gweithrediaeth awdurdod lleol, ac i weithrediaeth awdurdod lleol arall, sy'n cyflawni swyddogaethau ar ran awdurdod lleol neu weithrediaeth awdurdod lleol.

Mae erthyglau 18 i 20 yn addasu Deddf Cyllid Llywodreth Leol 1988. Mae erthygl 18 yn ychwanegu diffiniadau pellach i'r adran ar ddehongli. Mae erthygl 19 yn addasu adran 114 ac yn mewnosod adran 114A newydd fel bod darpariethau i brif swyddog cyllid awdurdod lunio adroddiad ar achosion o gamymddwyn ariannol gan awdurdod lleol yn cael eu hymestyn i weithrediaeth awdurdod lleol. Pan fo adroddiad wedi cael ei wneud, bydd y darpariaethau yn adran 115B (dyletswyddau gweithrediaethau mewn perthynas ag adroddiadau) a fewnosodwyd gan erthygl 20, yn gymwys, gan gynnwys rhwymedigaeth i'r prif weithredwr wneud adroddiad ar ôl ystyried adroddiad y prif swyddog cyllid. Mae adran 116 yn cael ei haddasu fel bod gwybodaeth ynghylch cyfarfodydd y weithrediaeth o dan adran 115B yn cael ei hanfon at archwilydd yr awdurdod.

Mae erthyglau 21 i 25 yn addasu Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Mae erthygl 21 yn addasu adran 2 fel bod rhoi cyngor yn rheolaidd i weithrediaeth, pwyllgor gweithrediaeth neu aelod o'r weithrediaeth yn ddyletswydd swydd mewn awdurdod lleol at ddibenion yr adran honNo. Mae erthygl 22 yn addasu adran 5 ac yn mewnosod adran 5A newydd fel bod y darpariaethau ar i swyddog monitro awdurdod lunio adroddiad pan fo awdurdod lleol yn torri'r gyfraith, yn camweinyddu neu'n ymddwyn yn anghyfiawn yn cael eu hymestyn i weithrediaeth awdurdod lleol. Rhaid i'r weithrediaeth baratoi adroddiad ar ôl ystyried adroddiad y swyddog monitro. Mae erthygl 23 yn ymestyn y darpariaethau sy'n ymwneud â chynorthwywyr grwcirc piau gwleidyddol fel na all cynorthwy-ydd gwleidyddol gyflawni swyddogaethau sy'n arferadwy gan neu ar ran gweithrediaeth awdurdod lleol. Mae erthygl 24 yn mewnosod diffiniadau pellach yn adran 21 (dehongli Rhan I). Mae erthygl 25 yn addasu Rhan V (cwmnïau y mae gan awduroddau lleol fuddiant ynddynt) fel bod rhai darpariaethau sy'n cyfeirio at aelodau awdurdod, neu bwyllgor neu is-bwyllgor awdurdod, yn cael eu hymestyn i weithrediaeth, aelodau gweithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth fel sy'n briodol.

Mae erthygl 26 yn addasu adran 97 o Ddeddf y Diwydiant Dwcirc r 1991 fel pan fo ymgymerydd carthffosiaeth wedi trefnu i rai swyddogaethau carthffosiaeth gael eu harfer gan awdurdod lleol bod swyddogaethau o'r fath yn cael eu trin fel swyddogaethau'r awdurdod lleol at ddibenion adran 13 o Ddeddf 2000.

Mae erthygl 27 yn addasu adran 106 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel na all aelod o'r weithrediaeth nad ydyw wedi talu ei dreth gyngor ers o leiaf dau fis gymryd rhan ym mhenderfyniadau'r weithrediaeth mewn perthynas â chyllideb y cyngor, y dreth gyngor neu archebiant.

Mae erthygl 28 yn addasu adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (swyddogaethau awdurdodau lleol) fel ei bod yn gymwys mewn perthynas â gweithrediaeth awdurdod lleol.

Mae erthygl 29 yn addasu adran 50 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 fel bod gan gyflogeion yr hawl i gael amser i ffwrdd o'u gwaith er mwyn ymgymryd â busnes fel aelod o weithrediaeth awdurdod lleol.

Mae erthygl 30 yn addasu Atodlen 1 i Ddeddf Ddifenwi 1996 fel bod cofnodion cyfarfodydd cyhoeddus y weithrediaeth neu bwyllgorau'r weithrediaeth a chofnodion penderfyniadau a wneir gan aelodau unigol gweithrediaeth yn cael eu dosbarthu fel gwybodaeth freintiedig yn ddarostyngedig i eglurhad neu wrth-ddweud mewn achosion o ddifenwad.

Mae erthygl 31 yn addasu Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 gan wneud diwygiadau canlyniadol i bwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth ynghylch pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion.

Mae erthygl 32 yn addasu adran 66 o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 fel na all ynad heddwch sy'n aelod o awdurdod lleol weithredu fel aelod o Lys y Goron neu lys yr ynadon mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â phenderfyniad a wnaed gan y weithrediaeth neu gan unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y weithrediaeth.

Mae erthygl 33 yn addasu adran 23 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988 fel pan fo'r Ysgrifennydd Gwladol wedi trefnu bod rhai swyddogaethau sy'n ymwneud â chefnogi myfyrwyr yn cael eu harfer gan awdurdod lleol bod y swyddogaethau hynny yn cael eu trin fel swyddogaethau'r awdurdod at ddibenion adran 13 o Ddeddf 2000.

Mae erthygl 34 yn addasu adran 137 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol 2000 fel bod yr adran hon yn gymwys pan fo awdurdod yn gweithredu trefniadau gweithredol.

Mae erthygl 35 yn addasu rheoliad 5 o Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 er mwyn darparu pan fo awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithredol ac felly nad oes ganddo bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol y gall benodi aelod ohono i'r panel mabwysiadu, bod y cyfeiriad at y pwyllgor gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei drin fel cyfeiriad at weithrediaeth yr awdurdod neu bwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod (pan fo swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw yn ymwneud yn gyfangwbl neu'n rhannol â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw).

Mae erthygl 36 yn addasu'r Diffiniad o Rheoliadau Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991. Caiff person a benodir gan awdurdod lleol fel ymwelydd annibynnol ei ystyried fel person sy'n annibynnol o'r awdurdod sy'n ei benodi pan, er enghraifft, nad yw'r person a benodir yn gysylltiedig â'r awdurdod lleol trwy rinwedd bod yn aelod o'r awdurdod. Mae'r addasiad yn ymestyn y ddarpariaeth hon fel bod person hefyd yn gysylltiedig â'r awdurdod lleol trwy rinwedd bod yn rheolwr cyngor ac felly ni ddylid ystyried bod rheolwr cyngor yn annibynnol o'r awdurdod.

Mae Rheoliad 8 o Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991 yn gwneud darpariaethau fel mai dim ond yr awdurdod lleol sy'n edrych ar ôl y plentyn hwnnw gaiff wneud cais i lys o dan adran 25 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41) (defnydd o lety i gyfyngu ar ryddid) mewn perthynas â phlentyn. Mae hyn yn ddarostyngedig i adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae erthygl 37 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y ddarpariaeth yn rheoliad 8 hefyd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau yn neu o dan adrannau 14 i 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Mae rheoliad 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 yn galluogi awdurdod bilio i ofyn am wybodaeth benodol at ddibenion ei swyddogaethau o dan Ran I o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae eithriadau i'r wybodaeth y gellir gofyn amdani. Mae'r eithriadau hyn yn cael eu haddasu gan erthygl 38 o'r Gorchymyn hwn fel eu bod yn cynnwys gwybodaeth a gafwyd gan weithrediaeth, neu bwyllgor neu aelod o weithrediaeth, awdurdod lleol yn rhinwedd yr awdurdod lleol hwnnw fel cyngor cyfansoddol o awdurdod heddlu.

Mae erthygl 39 yn addasu'r diffiniad o "awdurdod lleol" yn Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994 er mwyn adlewyrchu'r ffaith, pan fo awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithredol, bod gan ei weithrediaeth gyfrifoldeb ar gyfer arfer y rhan fwyaf o'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Mae erthygl 40 yn gwneud darpariaethau amrywiol mewn perthynas ag aelodau gweithrediaeth sy'n peidio â bod yn aelodau o'r awdurdod lleol.

Mae erthygl 41 yn gwneud darpariaethau ar gyfer maer dros dro ac aelodau dros dro pan nad oes modd i aelodau gweithrediaeth maer a chabinet weithredu.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] 1972 p.70back

[3] 1989 p.42.back

[4] 1988 p.41.back

[5] 1974 p.7.back

[6] 1976 p.57.back

[7] 1985 p.67.back

[8] 1985 p.72.back

[9] 1986 p.10.back

[10] 1986 p.31.back

[11] 1987 p.21.back

[12] 1988 p.9.back

[13] 1991 p.56.back

[14] 1992 p.14.back

[15] 1994 p.40.back

[16] 1996 p.18.back

[17] 1996 p.31.back

[18] 1996 p.56.back

[19] 1997 p.25.back

[20] 1998 p.30.back

[21] 2000 p.6.back

[22] O.S. 1983/1964.back

[23] O.S. 1991/892.back

[24] O.S. 1991/1505.back

[25] O.S. 1992/613.back

[26] O.S. 1994/651.back

[27] Diwygiwyd adran 70 gan baragraff 1 o Atodlen 14 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), paragraff 41 o Atolden 12 ac Aodlen 13 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40).back

[28] Diwygiwyd adran 82(1) gan Atodlen 14 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985, (p.4) ac Atodlen 13 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Ceir diwygiadau eraill i adran 82 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[29] Mewnosodwyd is-baragraff (3A) o adran 85 gan baragraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Ceir diwygiadau pellach i adran 85 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[30] Diwygiwyd adran 116 gan adran 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51) ac Atodlen 17 iddi.back

[31] Diwygiwyd adran 270 gan baragraff 12 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Ceir diwygiadau eraill i adran 270 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[32] Mewnosodwyd Adran 31A gan adran 28(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.back

[33] Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 O.S. 2001/2290 (Cy.178).back

[34] Mewnosodwyd is-adran (3A) o adran 74 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 gan adran 161 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38).back

[35] Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2287 (Cy.175).back

[36] Ceir diwygiadau i adran 6 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[37] Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 O.S. 2001/2290 (Cy.178).back

[38] Ceir diwygiadau i Atodlen 2 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[39] Ceir diwygiadau i adran 111 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[40] Diwygiwyd Adran 114 gan baragraffau 1 a 66 o Atodlen 5 i Ddeddf 1989 (p.29). Ceir diwygiadau eraill i adran 114 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[41] Mewnosodir adran 5A gan erthygl 22(2) o'r Gorchymyn hwn.back

[42] Mewnosodwyd adran 115A gan adran 131 o Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29).back

[43] Ceir diwygiadau i adran 2 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[44] Diwygiwyd adran 5 gan baragraff 35 o Atodlen 4 i Ddeddf Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 24 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (gweler adran 108 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000). Ceir diwygiadau eraill i adran 5 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[45] 1974 p.7.back

[46] Ceir diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[47] Gweler, yn benodol, adran 15(2) o'r Ddeddf honNo. back

[48] Gweler, yn arbennig, reoliadau 11 a 12 o Reoliadau Awdurdodau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol) (Cyflawni Swyddogaethau) 2001 (O.S. 2001/2287) (Cy. 175).back

[49] Gweler rheoliad 6 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2001, (O.S. 2001/2287) (Cy. 175).back

[50] Ceir diwygiadau i adran 21 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[51] Daethpwyd ag Adran 71 i rym yn rhannol gan O.S. 1989/2445 ac 1995/841. Daethpwyd ag is-adran (5) i rym at ddibenion paragraff (a) yn unig.back

[52] 1994 p.40. Diwygiwyd adran 40 gan Deddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29) a chaiff ei diwygio gan Ran IX o Atodlen 34 i'r Deddf honNo. back

[53] Gweler adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2291 (Cy.179).back

[54] Gweler Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2287) (Cy. 175)back

[55] Mewnosodwyd paragraff 15 gan adran 48 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44).back

[56] O.S. 1983/1964. Amnewidiwyd rheoliad 5 gan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu a Phlant (Trefniadau ar gyfer Lleoli ac Adolygu) (Diwygiadau Amrywiol) 1997 (O.S. 1997/649).back

[57] 1970 p.42. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 102(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back

[58] O.S. 1991/892.back

[59] O.S. 1991/1505.back

[60] O.S. 1992/613. Amnewidiwyd rheoliad 4 gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/3008).back

[61] O.S. 1994/651. Ceirdiwygiadau i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[62] 1970 p.42. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 102(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back

[63] Gweler paragraff 2(3)(a) o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back

[64] 998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090490 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 24 May 2002