Offerynnau Statudol 2002 Rhif 802 (Cy.87)

      Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090481 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 802 (Cy.87)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 21 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1), (2), 19(1), (2), (4), (5), (6), 20(1), (2), 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1]: - 

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

    ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

    ystyr "person perthnasol" ("relevant person") at ddibenion Rheoliadau 6(2), (3) ac 11(4) yw - 

    (a) y maer etholedig os oes gan yr awdurdod lleol weithrediaeth maer a chabinet;

    (b) y rheolwr cyngor os oes gan yr awdurdod lleol weithrediaeth maer a rheolwr cyngor;

    (c) arweinydd y weithrediaeth os oes gan yr awdurdod lleol weithrediaeth arweinydd a chabinet a bod y pwcircer i wneud y trefniadau yn codi yn rhinwedd is-baragraffau (b), (c) neu (ch) o reoliad 4(1);

    ystyr "pwyllgor ardal" ("area committee") yw pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol fel y'i diffinnir yn adran 18(3) o Ddeddf 2000.

Y pwcircer i wneud trefniadau: gweithrediaethau maer a chabinet
     3. Yn achos awdurdod lleol a chanddo weithrediaeth maer a chabinet, mae gan y personau canlynol bwcirc er i wneud trefniadau o dan reoliadau 6 a 7 ac i wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11 - 

Y pwcircer i wneud trefniadau: gweithrediaethau arweinydd a chabinet
    
4.  - (1) Yn achos awdurdod lleol a chanddo weithrediaeth arweinydd a chabinet, mae gan y personau canlynol bwcirc er i wneud trefniadau o dan reoliadau 6 a 7 ac i wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11 - 

    (2) Os yw arweinydd y weithrediaeth yn gwneud unrhyw drefniadau o dan reoliad 6 neu 7 neu'n gwneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11, caiff gyfarwyddo, bryd hynny neu ar unrhyw adeg ddilynol, nad yw paragraff (1)(b) neu (c) uchod i fod yn gymwys i unrhyw un o'r swyddogaethau sy'n dod o dan y trefniadau hynny neu nad yw i fod yn gymwys i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny mewn unrhyw achosion neu amgylchiadau y gallai arweinydd y weithrediaeth eu cyfarwyddo.

Y pwcircer i wneud trefniadau: gweithrediaethau maer a rheolwr cyngor
    
5. Yn achos awdurdod lleol a chanddo weithrediaeth maer a rheolwr cyngor, mae gan y personau canlynol bwer i wneud trefniadau o dan reoliadau 6 a 7 ac i wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11 - 

Cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau ardal
    
6.  - (1) Caiff person sydd â phwcirc er i wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn drefnu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol perthnasol gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod hwnnw.

    (2) Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal yn rhinwedd y rheoliad hwn, yna, oni bai bod y person perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor ardal drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu gan un o swyddogion yr awdurdod.

    (3) Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor o bwyllgor ardal yn rhinwedd paragraff (2) uchod, yna, oni bai bod y pwyllgor ardal neu'r person perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.

    (4) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliad 3, 4 neu 5 uchod ar gyfer cyflawni unrhyw swyddogaethau gan bwyllgor ardal i atal y person hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.

    (5) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud trefniadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r weithrediaeth sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

    (6) Wrth baratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (5) uchod, rhaid i'r weithrediaeth roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

Cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall
    
7.  - (1) Caiff person sydd â phwcirc er i wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn wneud trefniadau gydag awdurdod lleol arall yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Caiff trefniadau o dan y rheoliad hwn ddarparu - 

    (3) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal y person a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.

Trefniadau i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall
    
8.  - (1) Caiff awdurdod lleol wneud trefniadau gydag awdurdod lleol arall i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw gyflawni unrhyw swyddogaethau i'r awdurdod cyntaf a grybwyllwyd nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw - 

    (2) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal yr awdurdod a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.

Swyddogaethau a ddirprwyir i awdurdod lleol arall at ddibenion adrannau 14 ac 16 o Ddeddf 2000
    
9. Os oes trefniadau mewn grym yn rhinwedd rheoliad 7 neu 8 uchod i unrhyw un o swyddogaethau awdurdod lleol, neu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw, gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall, rhaid trin y swyddogaethau hynny, at ddibenion adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2000, fel swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw.

Arfer swyddogaethau gan awdurdod lleol arall
    
10.  - (1) Os oes trefniadau mewn grym, yn rhinwedd rheoliad 7 uchod, i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall, yna, yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, caiff yr awdurdod arall hwnnw drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog iddynt.

    (2) Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni, yn rhinwedd paragraff (1) uchod, gan bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw'n cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu swyddog i'r awdurdod.

    (3) Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni, yn rhinwedd paragraff (1) neu (2) uchod, gan is-bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y pwyllgor hwnnw yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.

Arfer swyddogaethau ar y cyd
    
11.  - (1) Rhaid i drefniadau a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 gan berson y mae rheoliad 3, 4 neu 5 uchod yn rhoi'r pwcircer iddo wneud hynny, gael eu gwneud yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud - 

    (3) Os yw'r trefniadau yn darparu i swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor, rhaid i benodiadau'r personau sydd i gynrychioli pob awdurdod lleol ar y pwyllgor hwnnw gael eu gwneud, a rhaid i nifer y personau hynny sydd i'w penodi gael ei benderfynu, gan y person sy'n gwneud y trefniadau ar ran yr awdurdod hwnnw.

    (4) Yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau ac oni bai bod y person perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff cyd-bwyllgor a benodir yn unol â'r rheoliad hwn drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu swyddog i un o'r awdurdodau o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau ac oni bai bod y cyd-bwyllgor neu'r person perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff unrhyw is-bwyllgor o'r fath drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan swyddog o'r fath.

    (5) Nid yw unrhyw drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliadau 3, 4 neu 5 uchod i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor i atal y person hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.

    (6) Os yw trefniadau a wneir ar ran awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliad 3, 4 neu 5 uchod yn darparu ar gyfer penodi personau nad ydynt yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw i gyd-bwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y trefniadau, rhaid i'r person hwnnw sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

    (7) Rhaid i berson sy'n paratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) uchod roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

    (8) Bydd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001[
3] yn gymwys i gyfarfod o gyd-bwyllgor - 

    (a) a sefydlir gan drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn yn unig gan weithrediaethau, aelodau gweithrediaethau neu bwyllgorau gweithrediaethau os yw'r holl weithrediaethau o dan sylw yn cynnal eu cyfarfodydd yn breifat; a

    (b) lle nad oes yr un o'i aelodau yn aelod o un o'r awdurdodau lleol o dan sylw ond nad yw'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw,

fel pe bai cyfarfodydd y cyd-bwyllgor hwnnw yn gyfarfodydd preifat o bwyllgor gweithrediaeth awdurdod lleol, oni bai bod yr holl weithrediaethau hynny yn cytuno fel arall.

    (9) Ac eithrio fel y disgrifir ym mharagraff (8) uchod, bydd Rhan VA o Ddeddf 1972 (cael mynediad i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) yn gymwys i gyd-bwyllgorau a sefydlir yn unol â'r rheoliad hwn.

Aelodau cyd-bwyllgorau
     12.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, rhaid i bob person a benodir i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 11 uchod gan weithrediaeth, aelod gweithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth fod yn aelod o'r weithrediaeth honno, ac ni fydd y gofynion ynglycircn â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.

    (2) Os gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor yw'r weithrediaeth o dan sylw - 

    (3) Os - 

    (4) Os oes gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw a bod cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y pwyllgor hwnnw yn cael eu penodi gan yr awdurdod, ni fydd y gofynion ynglycircn â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r cynrychiolwyr hynny a rhaid i'r cynrychiolwyr hynny fod yn aelodau o'r awdurdod lleol hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod.

Diddymu
    
13. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001[4] drwy hyn yn cael eu diddymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis - Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") yn darparu i'r awdurdodau lleol wneud trefniadau ("trefniadau gweithrediaeth") ar gyfer creu a gweithredu gweithrediaeth o'r awdurdod, sef trefniadau y mae rhai o swyddogaethau'r awdurdod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth odanynt.

O dan adrannau 18 a 19 o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, sy'n galluogi gweithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru, neu bwyllgor neu aelod penodedig o weithrediaeth o'r fath, i wneud trefniadau i unrhyw swyddogaethau sydd, o dan y trefniadau gweithrediaeth yn gyfrifoldeb i'r awdurdod, gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod neu gan awdurdod lleol arall.

Mae adran 19 o'r Ddeddf hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod gael ei chyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall.

O dan adran 20 o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i unrhyw swyddogaethau sydd, o dan y trefniadau gweithrediaeth, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod gael eu cyflawni gan yr awdurdod hwnnw ac un neu ragor o awdurdodau lleol eraill ar y cyd.

Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn pennu'r personau sydd â'r pwer i wneud trefniadau o'r fath yn achos gweithrediaeth maer a chabinet, gweithrediaeth arweinydd a chabinet a gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor yn y drefn honNo.

Mae Rheoliad 6 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod hwnnw.

Mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall.

Mae Rheoliad 8 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau, o dan amgylchiadau penodedig, i swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall.

Os oes trefniadau wedi'u gwneud o dan Reoliad 7 neu 8 i swyddogaethau awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall, mae Rheoliad 9 yn darparu bod y swyddogaethau hynny i gael eu trin fel swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw at ddibenion adrannau 14 i 16 o'r Ddeddf.

Os oes trefniadau wedi'u gwneud o dan Reoliad 7 i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall, mae Rheoliad 10 yn darparu i'r dasg o arfer y swyddogaethau hynny gael ei dirprwyo i bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r awdurdod lleol arall hwnnw.

Mae Rheoliad 11 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan yr awdurdod hwnnw ac un neu ragor o awdurdodau lleol eraill ar y cyd neu gan gyd-bwyllgor.

Mae Rheoliad 12 yn darparu ar gyfer aelodaeth cyd-bwyllgor a benodir yn unol â threfniadau a wneir o dan Reoliad 11.

Mae Rheoliad 13 yn diddymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001.


Notes:

[1] 2000 p.22back

[2] 1972 p.70.back

[3] O.S. 2001/2290 (Cy.178)back

[4] O.S. 2001/2287 (Cy.175)back

[5] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090481 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 7 May 2002