Offerynnau Statudol 2002 Rhif 785 (Cy.86)

      Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2002/2003) (Cymru) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2002/2003) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090465 6. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 785 (Cy.86)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2002/2003) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 21 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru[2]:

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Disgownt ar gyfer 2002/2003) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Cyfradd y disgownt
    
2. 6.7 y cant fydd cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 at ddibenion adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gwneud darpariaeth ar gyfer arian cyfalaf awdurdodau lleol.

Mae adran 49(2) o'r Ddeddf honno'n nodi fformwla ar gyfer penderfynu, at ddibenion Rhan IV, werth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth.

Un o'r elfennau sy'n ffurfio'r fformwla yw cyfradd ganrannol y disgownt a ragnodir ar gyfer blwyddyn ariannol.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi cyfradd ganrannol o 6.7 y cant o ddisgownt sy'n 0.3 y cant yn llai na chyfradd y disgownt a ragnodwyd ar gyfer 2001/2002.


Notes:

[1] 1989 p.42.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090465 6


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 19 April 2002