Offerynnau Statudol 2002 Rhif 784 (Cy.85)

      Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002, ISBN 0 11090464 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 784 (Cy.85)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002

  Wedi'i wneud 21 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

GAN FOD adran 28(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1], ("Deddf 1998"), a rhan 1 o Atodlen 4 iddi yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") y pwer i drosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol swyddogaethau statudol y Pwyllgor ("y Pwyllgor Ymgynghorol") a sefydlwyd o dan adran 11(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[2] ("Deddf 1995");

     A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod swyddogaethau statudol y Pwyllgor Ymgynghorol, sef swyddogaethau cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar weithredu swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru, neu sy'n gysylltiedig â hwy, yn swyddogaethau sy'n gofyn am i gyngor gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ac felly yn syrthio y tu mewn i adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998;

     YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, trwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998 a rhan 1 o Atodlen 4 iddi, trwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Pwyllgor Ymgynghorol dros Gymru (Asiantaeth yr Amgylchedd) 2002.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (3) Yny Gorchymyn hwn ystyr "y Pwyllgor Ymgynghorol" ("the Advisory Committee") yw'r pwyllgor a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 1995 i gynghori ynglyn â materion sy'n effeithio ar weithredu swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru neu sydd fel arall yn gysylltiedig â hwy.

    (4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diddymu'r Pwyllgor Ymgynghorol a darpariaethau ôl-ddilynol
    
2.  - (1) Diddymir y Pwyllgor Ymgynghorol a'i swyddogaethau.

    (2) Diddymir adran 11 o Ddeddf 1995.

    (3) Trosglwyddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yr holl eiddo a hawliau sy'n eiddo i'r Pwyllgor Ymgynghorol ac unrhyw rwymedigaethau sydd ar y Pwyllgor Ymgynghorol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Sefydlodd adran 11 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ("Deddf 1995") Bwyllgor ("y Pwyllgor Ymgynghorol") er mwyn cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â materion sy'n effeithio ar gyflawni swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru neu sy'n gysylltiedig â hwy.

Effaith Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo, yw ei bod yn ofynnol bellach i'r Pwyllgor Ymgynghorol gynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol").

Pennwyd y Pwyllgor Ymgynghorol yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ("Deddf 1998") yn gorff y gall y Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun trwy Orchymyn o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998.

Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol, trwy Orchymyn, ddiddymu swyddogaeth corff felly yn hytrach na'i throsglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol os yw'r swyddogaeth yn gofyn am i rywbeth gael ei wneud mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol (swyddogaeth cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun yn yr achos hwn).

Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gallu diddymu corff a bennwyd yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf 1998, trwy Orchymyn, os bydd pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu.

Mae adran 28(4) o Ddeddf 1998 yn darparu y gall Gorchymyn a wnaed o dan adran 28(3) gynnwys darpariaeth ar gyfer trosglwyddo unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r corff hwnnw.

Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y gall Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol gan gynnwys diddymu deddfiadau.

Effaith erthyglau 2(1) a 2(2) o'r Gorchymyn hwn yw diddymu'r Pwyllgor Ymgynghorol a'r darpariaeth statudol o dan yr hyn y sefydlwyd y Pwyllgor. Bwriedir y bydd y Cynulliad Cenedlaethol o hyn allan yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol mewn perthynas â'r materion hynny y bu'r Pwyllgor Ymgynghorol yn cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol arnynt hyd yn hyn.

Mae unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Pwyllgor Ymgynghorol, trwy erthygl 2(3), yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol.


Notes:

[1] 1998 p.38.back

[2] 1995 p.25.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090464 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 18 April 2002