Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002, ISBN
0 11090450 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2002 Rhif 757 (Cy.80)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
19 Mawrth 2002
Yn dod i rym
1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y per a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1] a hynny ar ôl yr ymgynghori y mae adran 4(3) o'r Ddeddf honno yn gofyn amdano.
Enwi, cychwyn a chymhwyso 1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
ystyr "awdurdod gwerth gorau" ("best value authority") yw'r canlynol:
- mewn perthynas â Rhan 1 o'r Tabl yn Erthygl 4, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, gan gynnwys, lle bo'n briodol, y cynghorau hynny yn gweithredu fel awdurdodau gwaredu gwastraff
- mewn perthynas â Rhan 2 o'r Tabl hwnnw, awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.
Dangosyddion Perfformiad 4.
Rhaid i berfformiad awdurdod gwerth gorau wrth arfer ei swyddogaethau gael ei fesur drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennir yn y Tabl isod mewn perthynas â'r swyddogaethau a nodir yn y Tabl.
TABL
Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt
Rhan 1
Llywodraeth Gorfforaethol
Pob dangosydd yn Atodlen 1
Addysg
Pob dangosydd yn Atodlen 2
Gwasanaethau Cymdeithasol
Pob dangosydd yn Atodlen 3
Tai
Pob dangosydd yn Atodlen 4
Gwasanaethau'r Amgylchedd
Pob dangosydd yn Atodlen 5
Trafnidiaeth
Pob dangosydd yn Atodlen 6
Cynllunio
Pob dangosydd yn Atodlen 7
Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach
Pob dangosydd yn Atodlen 8
Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol
Pob dangosydd yn Atodlen 9
Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor
Pob dangosydd yn Atodlen 11
Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol
Pob dangosydd yn Atodlen 12
Rhan 2
Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol
Pob dangosydd yn Atodlenni 7 a 10
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
Lefelau cydymffurfio â chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod gwerth gorau a gadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
NAWPI 1.2
Lefel safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi.
NAWPI 1.3
Nifer y cwynion i Ombudsmon a ddosbarthwyd fel camweinyddu.
NAWPI 1.4
Y gyfran o'r gofrestr etholiadol a bleidleisiodd mewn etholiadau lleol (fel canran).
NAWPI 1.5
Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl y math o weithrediad, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sy'n cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill.
NAWPI 1.6
Y ganran o anfonebau diddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod iddynt ddod i law.
NAWPI 1.7
Swm y dreth gyngor a gafwyd yn y flwyddyn ariannol fel canran o gyfanswm y debyd ar gyfer y flwyddyn ariannol.
NAWPI 1.8
Swm yr ardrethi annomestig a gafwyd, yn glir o ad-daliadau yn y flwyddyn adrodd fel canran o'r ardrethi gros sy'n daladwy yn y flwyddyn ariannol, wedi'i addasu ar gyfer rhyddhad trosiannol, yn llai rhyddhad ar eiddo bach a phob rhyddhad gorddewisol a gorfodol.
NAWPI 1.9
Y ganran o swyddi rheoli uwch a ddelir gan fenywod. Dylid eithrio'r holl staff mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau o'r cyfrif hwn.
NAWPI 1.10
Y nifer o'r dyddiau gwaith neu sifftiau am bob cyflogai cyfwerth amser llawn a gollwyd trwy absenoldeb oherwydd salwch gan weithwyr parhaol yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 1.12
Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 1.13
Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50) fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 1.14
Y nifer o weithwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol o fewn gweithlu'r awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm gweithlu'r awdurdod.
NAWPI 1.15
Y ganran o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd ac sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl.
NAWPI 1.16
Digwyddiadau hiliol
(a) nifer y digwyddiadau hiliol a gofnodir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 100,000 o'i boblogaeth
(b) y ganran o'r digwyddiadau hiliol a arweiniodd at weithredu pellach.
NAWPI 1.17
Y nifer o leoedd mewn lloches rhag trais domestig am bob 10,000 o'r boblogaeth a ddarperir neu a gefnogir gan yr awdurdod gwerth gorau.
Cyfartaledd sgôr pwyntiau TGAU/GNVQ plant 15/16 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 2.2
Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol a enillodd 5 TGAU neu ragor gyda graddau A* i C neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol.
NAWPI 2.3
Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol a enillodd un TGAU neu ragor gyda gradd G neu uwch neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol.
NAWPI 2.4
Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf flaenorol a enillodd:
(a) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Mathemateg Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(b) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(c) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Cymraeg (iaith gyntaf) Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(ch) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
NAWPI 2.5
Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf flaenorol a enillodd:
(a) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Mathemateg Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(b) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(c) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Cymraeg (iaith gyntaf) Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(ch) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
NAWPI 2.6
Canran y plant 15/16 oed sy'n ennill y "dangosydd pwnc craidd" - y disgyblion hynny sy'n ennill gradd C o leiaf mewn TGAU, Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth mewn cyfuniad.
NAWPI 2.7
Canran y plant 15/16 oed sy'n ymadael ag addysg amser-llawn heb gymhwyster cydnabyddedig.
NAWPI 2.8
Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau:
(a) mewn ysgolion cynradd.
(b) mewn ysgolion uwchradd.
(c) mewn ysgolion arbennig.
NAWPI 2.11
Y ganran o'r disgyblion a waharddwyd yn barhaol sy'n dilyn:
(a) llai na 10 awr yr wythnos o addysgu arall
(b) rhwng 10 a 25 awr yr wythnos o addysgu arall
(c) rhagor na 25 awr yr wythnos o addysgu arall.
NAWPI 2.12
Y ganran o'r dosbarthiadau ysgol gynradd gyda mwy na 30 disgybl yn y blynyddoedd:
(a) derbyn i ddau yn gynwysedig
(b) tri i chwech.
NAWPI 2.13(a) Nifer y datganiadau a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn
(b) Y ganran o'r datganiadau anghenion addysgol arbennig, gan eithrio y rhai a gyfrifir yn "eithriadau i'r rheol" yn unol â'r Cod Ymarfer AAA (Anghgenion Addysg Arbennig):
(i) a baratowyd o fewn 18 wythnos,
(ii) a orffenwyd o fewn 26 wythnos.
NAWPI 2.14
Y ganran o bresenoldeb y rhai sy'n mynychu ysgolion uwchradd neu sydd yno yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgiadol sydd wedi'u cymeradwyo.
Sefydlogrwydd lleoliadau'r plant yn derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at ganran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth a gafodd dri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn ariannol.
NAWPI 3.2
Cymwysterau addysgol plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at y ganran o'r bobl ifanc 16 oed a throsodd a ymadawodd â gofal gyda'r nifer isod o TGAU gradd A* i G neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQ):
(a) un neu ragor
(b) dau neu ragor.
NAWPI 3.3
Y gyfran o bobl ifanc mewn gofal ar eu pen-blwydd yn 16 oed y mae ganddynt gynllun gofal a/neu gynllun llwybr fel sy'n addas ar gyfer eu gofal parhaol.
NAWPI 3.4
Canran y lleoliadau cyntaf (i blant sy'n derbyn gofal) sy'n dechrau gyda chynllun gofal wedi'i sefydlu.
NAWPI 3.5
Costau gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at wariant wythnosol gros am bob plentyn y gofelir amdano, mewn gofal maeth neu gartref i blant.
NAWPI 3.6
Y gost o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion drwy gyfeirio at gost gros bob wythnos am:
(a) gofal cartrefi preswyl a nyrsio
(b) gofal cartref.
NAWPI 3.7
Y gyfradd o'r bobl hyn (65 oed neu drosodd) y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n 65 oed neu drosodd.
NAWPI3.8
Y gyfradd o drosglwyddiadau gofal a ohirir am resymau gofal cymdeithasol am bob 1000 o'r boblogaeth 75 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 3.9
Y ganran o oedolion o gleientau sy'n cael datganiad o'u hanghenion a sut y byddant yn cael eu diwallu.
NAWPI 3.10
Y gyfradd o asesiadau o bobl 65 oed a throsodd am bob 1000 o'r boblogaeth 65 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 3.11
Nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarperir neu a gyllidir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1,000 o'r boblogaeth 18 oed neu drosodd yn yr awdurdod.
NAWPI 3.12
Y ganran o'r plant ar y gofrestr amddiffyn plant y dylid wedi adolygu eu hachosion, ac y cafodd eu hachosion eu hadolygu.
NAWPI 3.13
Y nifer o bobl 65 neu drosodd sy'n derbyn cymorth gan yr awdurdod gwerth gorau mewn cartrefi gofal preswyl neu gartrefi nyrsio am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod sy'n 65 oed neu drosodd.
NAWPI 3.14
Y nifer o oedolion o dan 65 oed y mae'r awdurdod gwerth gorau yn eu helpu i fyw gartref am bob 1,000 o oedolion o dan 65 oed yn yr awdurdod, ym mhob un o'r grwpiau isod, o'u hystyried ar wahân:
(a) y rhai ag anabledd corfforol neu anabledd i'r synhwyrau,
(b) y rhai ag anabledd dysgu,
(c) y rhai â phroblemau iechyd meddwl.
NAWPI 3.15
Y ganran o achosion lle mae plant yn derbyn gwasanaeth gan weithiwr cymdeithasol neilltuedig sy'n addas i anghenion y plentyn, ym mhob un o'r grwpiau canlynol, o'u hystyried ar wahân:
(a) plant ar y gofrestr amddiffyn plant,
(b) plant sy'n derbyn gofal (peidiwch â chynnwys y plant sydd yng ngrwp (a) uchod),
(c) plant mewn angen (peidiwch â chynnwys y plant sydd yng ngrwpiau (a) a (b) uchod).
Y gyfran o anheddau sector preifat lle mae gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod gwerth gorau wedi golygu:
(a) anheddau an-ffit wedi'u gwneud yn ffit neu wedi'u dymchwel
(b) anheddau yn dychwelyd i feddiannaeth yn ystod blwyddyn ariannol pan fuont yn sefyll yn wag am fwy na chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.
NAWPI 4.2
Effeithlonrwydd Ynni - dosbarthiad cyfartalog y Weithdrefn Asesu Safonol ar gyfer anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 4.5
Casglu rhent ac ôl-ddyledion gan awdurdod gwerth gorau:
(a) ôl-ddyledion rhent y tenantiaid cyfredol fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod gwerth gorau
(b) ôl-ddyledion rhent cyn-denantiaid fel cyfran o restr rhent yr awdurdod gwerth gorau
(c) rhent cyn-denantiaid a thenantiaid cyfredol a ddilëwyd gan na ellir ei gasglu, fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 4.6
Y gyfran o geisiadau digartrefedd y mae'r awdurdod gwerth gorau yn gwneud penderfyniad arnynt ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o fewn 33 diwrnod gwaith.
NAWPI 4.7
Cyfartaledd amserau ailosod ar gyfer anheddau'r awdurdod gwerth gorau a osodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol.
NAWPI 4.10
Y ganran o atgyweiriadau a gwblhawyd o fewn yr amser targed
(a) wedi'u dosbarthu fel argyfwng
(b) wedi'u ddosbarthu fel rhai brys.
NAWPI 4.11
Yr amser cyfartalog a gymerwyd i gwblhau atgyweiriadau ymatebol nad oeddent yn rhai brys.
NAWPI 4.12
A yw'r awdurdod gwerth gorau yn dilyn cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ynglyn â thai ar rent?
NAWPI 4.13
Cyfranogiad tenantiaid:
(a) A oes yna Gompactau Cyfranogiad Tenantiaid (CCT) sy'n cynnwys pob landlord?
(b) Pryd oedd yr adolygiad mwyaf diweddar o CCT yn cynnwys pob landlord mewn partneriaeth gyda thenantiaid?
(c) Pa gyfran o denantiaid yr awdurdod gwerth gorau sy'n dod o dan adain CCT lleol neu grwp-benodol?
NAWPI 4.14
Effeithiolrwydd y dull cydgysylltiedig o ddelio â digatrefedd a thai cymdeithasol: Y nifer o aelwydydd digartref sy'n cael eu gosod mewn tai dros dro gan yr awdurdod gwerth gorau am fwy na chwe mis.
NAWPI 4.15
Cyfartaledd y rhent am bob tenant sy'n cael ei golli am fod anheddau wedi cael eu gadael yn wag yn ystod y flwyddyn ariannol.
Sylwer: At ddibenion dangosyddion perfformiad tai gwerth gorau, diffinnir annedd fel adeilad, neu ran o adeilad sy'n ffurfio safle ar wahân, neu sy'n lled ar wahân ac yn hunan-gynwysiedig, ac a ddyluniwyd i'w meddiannu gan aelwyd unigol.
Cyfanswm y gwastraff trefol sy'n codi mewn tunelli -
(a)
(i) y ganran sydd wedi'i ailgylchu neu ei ailddefnyddio
(ii) y ganran o weddillion llosgydd gwastraff, gwastraffoedd glanhau gadawedig sydd wedi'u hailgylchu
(b) y ganran sydd wedi'i gompostio
(c) y ganran sydd wedi'i ddefnyddio i adfer gwres, per a ffynonellau ynni eraill
(ch) y ganran sydd wedi'i dirlenwi.
NAWPI 5.5
Y ganran o briffyrdd a thir perthnasol (fel y diffinir 'relevant land' yn adran 86 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43)) a archwiliwyd ac y mae safon eu glanweithdra yn uchel neu'n dderbyniol.
NAWPI 5.6
Nifer y casgliadau a gollwyd am bob 100,000 o gasgliadau gwastraff cartref.
NAWPI 5.7
Y ganran o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau a wasanaethwyd gan gasgliad wrth ymyl y ffordd o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu.
Cost gwasanaethau bysiau â chymhorthdal am bob siwrnai a wneir gan deithiwr.
NAWPI 6.3
Cyflwr y ffyrdd
(a) cyflwr y prif ffyrdd
(b) cyflwr ffyrdd heblaw'r prif ffyrdd.
NAWPI 6.4
Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio.
NAWPI 6.5
Nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd am bob 100,000 o boblogaeth, wedi'i ddadansoddi yn ôl
(a) natur yr anafusion a
(b) y math o ddefnyddiwr ffordd.
NAWPI 6.6
Nifer y dyddiau o reolaeth traffig dros dro neu o gau ffyrdd a hynny ar ffyrdd sy'n sensitif i draffig wedi'i achosi gan waith ar ffyrdd yr awdurdod gwerth gorau am bob km o ffordd sy'n sensitif i draffig.
NAWPI 6.8
Cyfanswm y digwyddiadau a hysbyswyd o ddifrod peryglus i ffyrdd a phafinau ac a drwsiwyd neu a wnaed yn ddiogel o fewn 24 awr o'r adeg y daeth yr awdurdod gwerth gorau i wybod am y difrod gyntaf, fel canran o'r digwyddiadau hyn.
NAWPI 6.9
Y ganran o'r croesfannau cerddwyr gyda chyfleusterau i bobl anabl.
NAWPI 6.10
Y ganran o gyfanswm hyd y llwybrau troed a hawliau tramwy eraill sy'n hawdd eu defnyddio gan aelodau o'r cyhoedd.
(a) a oes gan yr awdurdod gwerth gorau gynllun datblygu unedol sydd wedi'i sefydlu?
Os nad oes, ewch i (b) a (c)
(b) a oes gan yr awdurdod gwerth gorau gynllun datblygu unedol wedi'i adneuo?
(c) pa ganran o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n cael ei gwmpasu gan gynlluniau lleol a fabwysiadwyd yn y pum mlynedd ddiwethaf?
NAWPI 7.3
Nifer y gwyriadau a hysbysebwyd o'r cynllun datblygu statudol sydd wedi'i fabwysiadu a gymeradwywyd gan yr awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm y caniatadau a roddwyd.
NAWPI 7.4
Y ganran o gyfanswm y ceisiadau a benderfynwyd o fewn 8 wythnos.
NAWPI 7.6
Ansawdd mewn gwasanaeth defnyddwyr (Rhestr gyfeirio Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru): - nifer y dangosyddion ansawdd a gyrhaeddir wedi'i fynegi fel cyfran o'u gyfanswm.
NAWPI 7.7
Y ganran o chwiliadau safonol tir statudol a gwblhawyd mewn 10 diwrnod gwaith.
NAWPI 7.8
Oes yna Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Biolegol Lleol ar gyfer ardal yr awdurdod gwerth gorau?
Os nac oes,
fydd cynllun o'r fath yn cael ei sefydlu o fewn y 12 mis nesaf?
Nifer y disgyblion ysgol yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau mewn grwpiau wedi'u trefnu gan ysgolion.
NAWPI 9.2
Nifer yr ymweliadau corfforol â llyfrgelloedd cyhoeddus am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau yn ystod y flwyddyn ariannol.
NAWPI 9.3
Pyllau nofio a chanolfannau chwaraeon:
nifer y nofiadau ac ymweliadau eraill am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau yn ystod y flwyddyn ariannol.
NAWPI 9.4
Meysydd chwarae:
(a) nifer y meysydd chwarae a llecynnau chwarae a ddarperir gan yr awdurdod gwerth gorau, am bob 1,000 o blant dan 12 oed yn ardal yr awdurdod gwerth gorau, a
(b) y ganran o'r rhain sydd:
(i) yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol ar gyfer llecynnau chwarae digyfarpar lleol;
(ii) yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol ar gyfer llecynnau chwarae lleol gyda chyfarpar;
(iii) yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol ar gyfer llecynnau chwarae bro mwy eu maint a chyda chyfarpar.
DANGOSYDDION LLYWODRAETH GORFFORAETHOL AWDURDODAU PARCIAU CENEDLAETHOL
Rhif y dangosydd
Disgrifiad y dangosydd
NAWPI 10.1
Lefelau cydymffurfio â chynllun iaith Gymraeg cymeradwy yr awdurdod gwerth gorau, fel a gadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
NAWPI 10.2
Lefel safon y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi.
NAWPI 10.3
Nifer y cwynion i Ombudsmon a ddosbarthwyd fel camweinyddu.
NAWPI 10.4
Y ganran o'r anfonebau di-ddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod iddynt ddod i law.
NAWPI 10.5
Y nifer o'r dyddiau gwaith neu sifftiau am bob cyflogai cyfwerth amser llawn yr awdurdod gwerth gorau a gollwyd drwy absenoldeb oherwydd salwch.
NAWPI 10.7
Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 10.8
Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50) fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 10.9
Y nifer o staff o gymunedau ethnig lleiafrifol yn ngweithlu'r awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm gweithlu'r awdurdod.
NAWPI 10.10
Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl y math o weithrediad, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sydd yn cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio protocolau rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill.
NAWPI 10.11
Y ganran o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd a'r ganran sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl.
NAWPI 10.12
Ydy'r awdurdod gwerth gorau wedi ffurfio polisi gorfforaethol a gyfer lleihau trosedd ac anrhefn yn eu hardal?
Diogelwch: A oes gan yr awdurdod gwerth gorau strategaeth ysgrifenedig a blaenweithgar i fynd i'r afael â thwyll a chamgymeriadau sy'n ymgorffori mentrau penodedig gan gynnwys y rhai a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) sy'n cael ei mynegi i'r holl staff yn rheolaidd?
Oes/nac oes
NAWPI 11.3 (a)/ BV78a
Cyflymder prosesu:
(a) Amser cyfartalog prosesu ceisiadau newydd.
NAWPI 11.3 (b)/ BV78b(b) Amser cyfartalog prosesu hysbysiadau newid amgylchiadau.
NAWPI 11.3 (c) BV78c(c) Canran y ceisiadau adnewyddu a brosesir yn brydlon.
NAWPI 11.4 (a)/ BV79a
Cywirdeb prosesu:
(a) Canran yr achosion yr oedd cyfrifiad swm y budd-dâl sy'n ddyledus yn gywir ar eu cyfer ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael ar gyfer penderfynu, a hynny ar gyfer sampl o achosion sy'n cael ei gwirio ar ôl y penderfyniad arnynt.
NAWPI 11.4 (b)/ BV79b(b) Canran y gor-daliadau adenilladwy (heb gynnwys Budd-dâl Treth Gyngor) a adenillwyd yn y flwyddyn ariannol.
Nodyn: Nodir diffiniadau o dermau a chanllawiau ar fesur perfformiad yn erbyn y dangosyddion hyn yn "The Housing Benefit and Council Tax Benefit Management Information System Guide" a gynhyrchwyd gan yr AGP.
Byrgleriaethau domestig am bob 1,000 o aelwydydd yn ardal yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 12.2 / BV127
Troseddau treisgar am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau:
(a) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd gan berson dieithr
(b) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd mewn man cyhoeddus
(c) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd mewn cysylltiad â safleoedd trwyddedig
(ch) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd o dan ddylanwad.
NAWPI 12.3 / BV128
Troseddau cerbydau am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau.
NAWPI 12.4 / BV173
A yw'r awdurdod gwerth gorau wedi sefydlu strategaeth gorfforaethol i leihau troseddau ac anhrefn yn eu hardal? Os nad ydyw, a yw'r awdurdod gwerth gorau wedi sefydlu amserlen ar gyfer gwneud hynny?
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, ar gyfer Cymru, ddangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt er mwyn mesur perfformiad y cynghorau sir, y cynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (fel awdurdodau gwerth gorau), wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, o 1 Ebrill 2002 ymlaen.
Gwneir y Gorchymyn yn unol ag adrannau 4(1)(a) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Mae adran 4(3) o'r Ddeddf honno yn gosod rhwymedigaeth ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymgynghori, cyn gwneud Gorchymyn o'r math hwn, â phersonau y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau gwerth gorau o dan sylw ac unrhyw bersonau eraill (os oes rhai) y gwêl yn dda. Mae'r gofyniad hwn i ymgynghori wedi'i fodloni cyn i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Mae Erthygl 3 yn diffinio pa awdurdodau gwerth gorau y bydd yn rhaid mesur eu perfformiad, mewn perthynas â swyddogaethau penodol, drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad penodedig.
Drwy gyfeirio at yr Atodlenni, mae Erthygl 4 yn rhagnodi pa ddangosyddion perfformiad a gaiff eu defnyddio i fesur pa swyddogaethau ar gyfer y gwahanol awdurdodau gwerth gorau.
Mae Atodlenni 1 i 12 yn manylu ar y dangosyddion rhagnodedig ar gyfer y gwahanol swyddogaethau fel a ganlyn:
Atodlen 1 - Llywodraeth Gorfforaethol
Atodlen 2 - Addysg
Atodlen 3 - Gwasanaethau Cymdeithasol
Atodlen 4 - Tai
Atodlen 5 - Gwasanaethau'r Amgylchedd
Atodlen 6 - Trafnidiaeth
Atodlen 7 - Cynllunio
Atodlen 8 - Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach.
Atodlen 9 - Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol
Atodlen 10 - Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol
Atodlen 11 - Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor
Atodlen 12 - Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001 er nad y mwyafrif y dangosyddion wedi newid. Mae'r newidiadau sy'n dilyn wedi'u gwneud i'r dangosyddion yng Ngorchymyn 2001:
Yn ogystal mae yna fân ddiwygiadau drafftio wedi'u gwneud i nifer o ddangosyddion eraill.
Mae manylion y dangosyddion (a oedd yn y drydedd colofn o'r atodlenni i'r Gorchmynion blaenorol) hefyd wedi'u dileu. Mae'r manylion bellach wedi'u cynnwys mewn canllawiau i'w cyhoeddi gan y Cynulliad Cenedlaethol.