Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090446 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(b) o 1 Ebrill hyd at 30 Tachwedd; (c) o 1 Rhagfyr hyd at 31 Mawrth.
(4) Rhaid i bob awdurdod addysg y talwyd grant iddo neu sy'n ceisio cael taliad grant ar gyfer gwariant a dynnwyd yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol, wneud y canlynol cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw -
(b) sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif wedi'i llofnodi gan archwilydd a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998[5] ac sy'n ardystio bod y manylion a roddwyd yn y datganiad, ym marn yr archwilydd, ac a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn, wedi'u datgan yn deg a bod y gwariant a dynnwyd wedi'i gymeradwyo at ddibenion adran 484 o Ddeddf 1996[6].
(5) Ac eithrio yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 30 Tachwedd mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod blwyddyn ariannol flaenorol ac nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(b) am y flwyddyn honno. Gwella safleoedd ysgolion, gan gynnwys -
(b) darparu ceblau ar gyfer offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a'u gosod fel rhan o wella, adnewyddu neu amnewid o'r fath (ond nid darparu'r offer ei hun a'i osod ); ac (c) darparu offer diogelwch.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu grantiau ar gyfer gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion addysgol neu mewn cysylltiad â hwy ac y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylid annog yr awdurdodau hynny i'w dynnu er lles addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu grantiau o'r fath. Mae Rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn a chymhwyso. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig. Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau. Mae Rheoliad 3 yn darparu mai dim ond ar gyfer gwariant a dynnwyd neu a dynnir gan awdurdod addysg lleol at y dibenion a bennir yn yr Atodlen yn ystod blwyddyn ariannol neu mewn cysylltiad â hwy y bydd grantiau yn daladwy, a dim ond i'r graddau y mae'r gwariant wedi'i gymeradwyo am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau. Mae Rheoliad 4 yn darparu yn ôl pa gyfradd y mae grantiau yn daladwy. Mae Rheoliadau 5 i 7 yn nodi'r amodau sy'n gymwys ar gyfer talu grantiau, gan gynnwys gofynion archwilio. Mae Rheoliad 8 yn nodi nifer o ofynion eraill y mae'n rhaid i awdurdodau addysg lleol, y mae taliadau grant wedi'u gwneud iddynt, gydymffurfio â hwy . Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion ychwanegol. Mae'r Atodlen yn darparu at ba ddibenion neu mewn cysylltiad â pha ddibenion y gall grantiau gael eu talu. Notes: [1] 1996 p.56; mae adrannau 484 a 489 wedi'u diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 125 a 126 o Atodlen 30 iddi. I gael ystyr "regulations" gweler adran 579(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [6] Mae adran 484 wedi'i diwygio gan adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 125 o Atodlen 30 iddi.back
ISBN 0 11090446 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 25 March 2002 |