Offerynnau Statudol 2002 Rhif 678 (Cy.75)

      Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090455 9. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 678 (Cy.75)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 12 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19(1) a (2) a 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1]:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 31 Mawrth 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn adran 1(1)(d) neu (e) o Ddeddf 1999 (awdurdodau heddlu a thân).

    (3) Yn y Gorchymyn hwn Ystyr "Deddf 1988" ("the 1988 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1988[
2].

Materion nad ydynt i fod yn faterion anfasnachol mewn perthynas ag awdurdodau gwerth gorau
     2. Bydd y materion a bennir yn adran 17(5)(a) a (d) o Ddeddf 1988 (contractau awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill: hepgor ystyriaethau anfasnachol) yn peidio â bod yn faterion anfasnachol at ddibenion yr adran honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Adran 17(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988") yn cynnwys rhestr o faterion (materion anfasnachol) na chaiff awdurdod cyhoeddus arfer y swyddogaethau a restrir yn adran 17(4) o'r Ddeddf honno o'u herwydd, sef swyddogaethau sy'n cynnwys swyddogaethau mewn perthynas â chontractau cyflenwadau neu weithfeydd cyhoeddus arfaethedig.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod y materion a bennir yn adran 17(5)(a) a (d) o Ddeddf 1988 yn peidio â bod yn faterion anfasnachol at ddibenion yr adran honno . Mae'r materion o dan sylw yn ymwneud â thelerau ac amodau cyflogi etc gweithlu'r contractiwr ac ymddygiad contractwyr neu eu gweithwyr mewn anghydfodau diwydiannol.


Notes:

[1] 1999 p.27.back

[2] 1988 p.9.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090455 9


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 5 April 2002