Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002, ISBN 0 11090454 0. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr adran 2(2) uchod a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Teitl, cychwyn ac eithrio 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002. (2) Ni fydd y ffaith bod rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn diddymu erthygl 4(2) o'r Gorchymyn yn effeithio ar ei chymhwyso mewn achos (pa bryd bynnag y mae'n digwydd) am dramgwydd yr honnir ei fod wedi'i gyflawni cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Gorchymyn" yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000[3]. (2) Dehongler ymadroddion a ddefnyddir mewn darpariaethau sy'n cael eu mewnosod gan y Rheoliadau hyn i mewn i'r Gorchymyn yn yr un modd â phetaent wedi'u mewnosod felly gan orchymyn a wnaed o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[4]. Diwygio'r Gorchymyn 3. Yn erthygl 2(1) (dehongli) o'r Gorchymyn mewnosoder yr is-baragraff canlynol yn union ar ôl y diffiniad o "cwch pysgota Prydeinig perthnasol" -
4.
- (1) Diwygir erthygl 3 (olrhain cychod pysgota â lloeren) o'r Gorchymyn fel a ganlyn.
(3) Dilëir paragraff (4) gan roi'r paragraffau canlynol yn ei le -
(5) Rhaid i ddyfais olrhain loerennol sydd wedi'i gosod ar gwch pysgota y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi drosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd, yn y fformat a ragnodir gan Atodiad II i Reoliad 1489/97, i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd -
(ii) mewn achos y pennir cyfnod hwyaf uwch ar ei gyfer yn Atodiad I i Reoliad 1489/97, yn ôl cyfnodau nad ydynt yn uwch na'r cyfnod hwyaf hwnnw; neu
(b) pan nad yw'r ddyfais olrhain loerennol yn gallu cael ei pholio, o leiaf bob awr.
(6) Rhaid peidio â thrin y naill na'r llall o'r amgylchiadau canlynol fel rhai sy'n arwain at dorri'r gofyniad ym mharagraff (3)(b) -
(b) pan yw'r ddyfais yn methu yn dechnegol neu'n cau gweithredu o fewn ystyr "technical failure or non-function" yn Erthygl 6.2 o Reoliad 1489/97 tra bod y cwch pysgota naill ai yn y porthladd neu ar ganol taith bysgota a awdurdodir gan yr Erthygl honno.
(7) Drwy gydol unrhyw gyfnod -
(b) pan yw'r ddyfais olrhain loerennol sydd wedi'i gosod ar y cwch yn methu â gweithredu am unrhyw reswm yn unol â pharagraff (5),
heb ragfarnu Erthygl 6.1 o Reoliad 1489/97 (y gofyniad i drosglwyddo gwybodaeth i ganolfannau monitro gwladwriaethau'r faner ac, os yw'n briodol, gwladwriaethau'r arfordir drwy ddulliau eraill o leiaf bob 24 awr), rhaid trosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig drwy un o'r dulliau a bennir yn yr Erthygl honno o leiaf bob dwy awr.".
5.
Mae Erthygl 4(2) (tramgwyddau) o'r Gorchymyn yn cael ei diddymu.
(6) Mae'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn hysbysiad -
(b) sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ddyfais gael ei gosod (mor agos ag y mae ei chyflwr yn caniatáu) fel ei bod yn trosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig -
(ii) yn achos dyfais nad yw wedi'i dylunio felly, o leiaf bob awr.
(7) Rhaid peidio â chyflwyno hysbysiad o dan baragraff (6) yn ddiweddarach na 30 diwrnod ar ôl y diwrnod diwethaf y methodd y ddyfais olrhain loerennol â gweithredu yn unol ag erthygl 3(5) o'r Gorchymyn hwn ym marn y swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
(b) ym mharagraff (6) ystyr "y cyfnod monitro penodedig" yw cyfnod o 24 awr sy'n cael ei bennu yn yr hysbysiad (a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â dechrau yn hwyrach na 9.00 a.m. ar y diwrnod o'r wythnos ar ôl y diwrnod y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno).".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1078 (Cy.71)) ("y Gorchymyn"), sy'n cynnwys darpariaethau ar gyfer gorfodi deddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod lleoliad cychod pysgota uwchlaw maint arbennig yn cael ei fonitro â lloeren. Fel yn achos y Gorchymyn hwnnw, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chychod pysgota yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru. Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn newid y Gorchymyn mewn dwy brif ffordd. Mae Rheoliad 4 yn diwygio erthygl 3 o'r Gorchymyn sy'n creu rhwymedigaethau ynghylch gosod a gweithredu dyfeisiau olrhain lloerennol, drwy egluro'r gofyniad yn erthygl 3(3)(b) bod dyfais olrhain loerennol yn cael ei chadw'n hollol weithredol. Yn benodol mae'r drafftio newydd yn ei gwneud yn glir nad yw'r gofyniad hwnnw yn cael ei dorri naill ai pan fydd y ddyfais olrhain loerennol yn cael ei throi i ffwrdd yn y porthladd o dan amodau a ganiateir gan ddeddfwriaeth berthnasol y GE neu os oes diffyg technegol neu os yw'n methu â gweithio pan fydd y cwch yn y porthladd neu pan nad yw'r cyfnod dros dro pryd y mae deddfwriaeth berthnasol y GE yn caniatáu pysgota gyda dyfais ddiffygiol wedi dod i ben eto. Mae Rheoliad 4 yn gosod gofyniad ychwanegol bod rhaid darparu'r wybodaeth a fynnwyd am leoliad bob dwy awr i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig drwy delecs, ffacs, ffôn neu radio, os nad yw ei ddyfais olrhain yn gweithio, tra bod cwch pysgota y mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn gymwys iddo ar y môr. Mae'r prif newid arall yn cael ei wneud gan reoliad 8, sy'n rhoi p er gorfodi ychwanegol i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig mewn achos lle mae'r ddyfais olrhain loerennol ar fwrdd cwch pysgota Prydeinig wedi methu â gweithio. Gall y swyddog gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cwch aros yn y porthladd nes bod y cyfnod monitro o 24 awr yn dod i ben. Yn ystod y cyfnod hwn rhaid gosod y ddyfais olrhain loerennol i ddarlledu'r wybodaeth a fynnwyd am leoliad bob dwy awr (bob awr yn achos dyfais nad yw wedi'i dylunio i allu cael ei pholio gan y Ganolfan Fonitro).Mae'r diwygiadau eraill sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau yn rhai canlyniadol. Maent yn cynnwys diddymu amddiffyniad mewn achos troseddol penodol sydd wedi'i ddisodli drwy'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan reoliad 4 (gweler rheoliadau 1(2) a 5). Notes: [1] O.S. 1999/2788.back [3] O.S. 2000/108 (Cy. 71).back [4] 1981 p. 29; cafodd O.S. 2000/191 ei wneud o dan adran 30(2).back
ISBN 0 11090454 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 5 April 2002 |