Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090476 1. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(1), 6(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[1], a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 April 2002. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru (fel y mae wedi'i diffinio yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn -
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "unrhyw orchymyn cyfatebol" yw unrhyw orchymyn arall wedi'i wneud o dan adrannau 5 neu 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, sy'n gymwys i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac sy'n gwahardd pysgota am y canlynol, neu eu glanio, mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig:
(ii) cimwch coch wedi'i lurgunio, (iii) unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn, pennir "y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru" yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987[4] ac ag unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sy'n dwyn effaith fel pe baent wedi'u gwneud, o dan yr adran honNo. Pennir y ffin rhwng y rhannau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy sydd i'w trin fel moroedd tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r rhannau nad ydynt i'w trin felly, yn unol ag Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 3 iddo ym mhob achos.
(b) cimwch coch wedi'i lurgunio, neu (c) unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V.
(2) Mae pysgota gan gwch pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru wedi'i wahardd.
(b) cimwch coch wedi'i lurgunio, neu (c) unrhyw gimwch neu gimwch coch ac arno hollt V;
sydd wedi eu dal.
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt, neu'n ymwneud â'r personau sydd ar fwrdd y cwch, sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath; (c) er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5(1), 5(6) neu 6(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[5] fel y'u darllenir gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio; (ch) os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir iddo neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos ynghylch y tramgwydd;
ond fydd dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu cipio a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
(b) cadw'r cwch yn y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yno;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch, neu'n ei gwneud yn ofynnol bod cwch yn cael ei gadw, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y bydd angen, neu fod angen, cadw'r cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig arall i'r meistr wedi'i lofnodi gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn gwahardd cychod pysgota Prydeinig perthnasol a chychod pysgota'r Alban rhag pysgota am gimychiaid a chimychiaid cochion y mae arnynt hollt V, neu rai sydd wedi'u llurgunio mewn modd sy'n cuddio hollt V, a'u glanio (erthyglau 3 a 4). Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol sy'n gyfagos at Gymru. Mae'r Gorchymyn hefyd yn rhoi pwerau gorfodi pellach i swyddogion pysgodfeydd môr Prydain mewn perthynas â chychod pysgota perthnasol o Brydain a chychod pysgota o'r Alban yn y môr sy'n gyfagos at Gymru (erthygl 5). Mae ganddynt bwerau yn barod o dan adran 15(2) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 ("Deddf 1967"), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, i gipio unrhyw bysgod y mae tramgwydd wedi'i gyflawni, neu wrthi yn cael ei gyflawni, mewn perthynas â hwy o dan adrannau 5(1) a (6) o Ddeddf 1967. Yn rhinwedd adrannau 5(1) a 6(5), yn y drefn honno, o Ddeddf 1967, tramgwydd yw pysgota am gimychiaid neu gimychiaid cochion o'r fath neu eu glanio yn groes i'r Gorchymyn hwn. Mae adran 5(6) o'r Ddeddf honno yn darparu bod rhaid i unrhyw bysgod sy'n cael eu dal yn groes i'r Gorchymyn gael eu dychwelyd i'r môr ar unwaith (yn ddarostyngedig i adran 9 o Ddeddf 1967). Os na chydymffurfir ag is-adran (6), mae adran 5(7) yn darparu bod meistr a pherchennog y cwch pysgota, a'r siartrwr (os oes un), bob un yn euog o dramgwydd. Rhagnodir cosbau gan adran 11 o Ddeddf 1967, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1991. Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud drwy ddibynnu ar Erthygl 46.1 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1), ynghylch cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i ddiogelu rhai bach organeddau morol, sy'n awdurdodi'r Aelod-wladwriaethau i gymryd mesurau cenedlaethol penodol i gadw a rheoli stociau. Notes: [1] 1967, p.84. Gweler adran 22(2)(a) i gael y diffiniad o "the Ministers", fel y'i diwygiwyd gan adrannau 19(2)(d) a 45(b) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29). Amnewidiwyd adran 5(1) gan adran 22(1) o Ddeddf 1981. Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77), Atodlen 1, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Terfynau Pysgota 1976 (p.86), Atodlen 2, paragraff 16(1). Diwygiwyd adrannau 6(1) a 15(3) gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820), Atodlen 2, paragraff 43(2) a (6) yn y drefn honNo. Addaswyd adrannau 5(1) a 6 o ran eu heffaith gan adran 33(1) o Ddeddf 1981.back [2] Trosglwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) holl swyddogaethau Gweinidog y Goron o dan y Ddeddf hon (ac eithrio swyddogaethau'r Bwrdd Masnach mewn perthynas ag adran 8) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.back [5] Diwygiwyd adran 5(6) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adran 22(2). Diwygiwyd adran 6(5) gan adran 23(3) o Ddeddf 1981. Yn rhinwedd adran 5(7) o Ddeddf 1967 os na chydymffurfir ag adran 5(6) yn achos unrhyw gwch pysgota, mae'r meistr, y perchennog a'r siartrwr (os oes un) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (6).back
ISBN 0 11090476 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 3 May 2002 |