Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090463 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Mawrth 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall -
(b) Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1263/1999 ar Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddyd Pysgodfeydd[5]; (c) Rheoliad y Cyngor 2792/1999[6]; (ch) Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1999/501[7]) dyddiedig 1 Gorffennaf 1999 sy'n pennu dyraniad dangosol ar gyfer ymrwymiadau'r Aelod-wladwriaethau ar gyfer Amcan 1 o'r Cronfeydd Strwythurol am y cyfnod 2000 i 2006; (d) Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1999/502[8] dyddiedig 1 Gorffennaf 1999 sy'n llunio'r rhestr o ranbarthau sy'n dod o dan Amcan 1 o'r Cronfeydd Strwythurol am y cyfnod 2000 i 2006; (dd) Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1685/2000[9]) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1260/1999 o ran cymhwyster gwariant gweithrediadau sy'n cael eu cydariannu gan y cronfeydd strwythurol; (e) Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2049 dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1 yng Nghymru; (f) Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 4298 dyddiedig 27 Rhagfyr 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig mewn ardaloedd y tu allan i Amcan 1; (ff) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 438/2001 dyddiedig 2 Mawrth 2001 yn pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 ynghylch systemau rheoli ar gyfer cymorth a roddir o dan y Cronfeydd Strwythurol [10]; ac (g) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 448/2001 dyddiedig 2 Mawrth 2001 yn pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud cywiriadau ariannol i gymorth a roddir o dan y Cronfeydd Strwythurol [11]
(b) at ddibenion arfer unrhyw swyddogaethau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddynt gael eu harfer ganddo o dan reoliad 11 isod, gan yr Awdurdod;
ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog o'r Comisiwn sydd wedi'i benodi'n briodol ac sy'n mynd ynghyd â swyddog awdurdodedig o'r fath.
(ii) i wariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â'r gweithrediad hwnnw; a
(b) y mae ei gais wedi'i gymeradwyo felly.
(2) Wrth benderfynu o dan baragraff (1) -
(b) swm unrhyw grant o'r fath y mae wedi penderfynu ei wneud,
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i ofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol ac, yn benodol, i'r terfynau ar gyfanswm cyfranogiad ariannol y Wladwriaeth fel y'u nodir yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor 2792/1999.
(b) ei gymeradwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol a hynny naill ai yn ddiamod neu o dan unrhyw amodau y gall benderfynu arnynt.
(2) Gyda chydsyniad y ceisydd, caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio cymeradwyaeth o dro i dro drwy ddiwygio unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu drwy ychwanegu amodau.
(b) hysbysu buddiolwyr am unrhyw amodau y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu sydd wedi'i hamrywio yn unol â'r rheoliad hwn.
(4) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu ceisydd ei fod wedi gwrthod cymeradwyo cais neu'n hysbysu buddiolwr ei fod wedi rhoi cymeradwyaeth o dan amodau neu wedi amrywio telerau cymeradwyaeth sydd eisoes yn bodoli, rhaid iddo roi i bob ceisydd neu fuddiolwr o'r fath -
(b) cyfle i gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw o fewn unrhyw amser sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ac sydd wedi'i hysbysu i'r ceisydd neu'r buddiolwr.
(5) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael unrhyw sylwadau yn unol â pharagraff (4), rhaid iddo eu hystyried a chaiff gadarnhau ei benderfyniad neu roi penderfyniad gwahanol yn ei le.
(b) tystiolaeth foddhaol bod y gweithrediad a gymeradwywyd, neu'r rhan o'r gweithrediad y mae'r taliad yn gysylltiedig â hi wedi'u cyflawni'n briodol.
Dull talu'r cymorth ariannol
(b) o dan unrhyw amodau,
y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'n rhesymol arnynt a rhaid i unrhyw amodau mewn perthynas ag unrhyw daliad gael eu hysbysu i'r buddiolwr yn ysgrifenedig.
(b) tra bydd gweithrediad a gymeradwywyd yn cael ei gyflawni, ar ôl cwblhau'r gweithrediad a gymeradwywyd ac wedyn drwy gydol y cyfnod rheoli, cadw unrhyw gofnod o'r fath ynghyd ag unrhyw "ddogfennau perthnasol", ac eithrio i'r graddau y mae swyddog awdurdodedig wedi'i gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw un ohonynt neu wedi mynd â hwy o dan reoliad 13(5) isod.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr y "cyfnod rheoli" mewn perthynas â gweithrediad a gymeradwywyd yw:
(b) y cyfnod hwnnw o chwe blynedd yn ogystal ag unrhyw gyfnod pellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i dderbynnydd cymorth ariannol ar unrhyw adeg cyn i'r cyfnod cychwynnol hwnnw o chwe blynedd ddod i ben,
ond wrth benderfynu yn y naill achos neu'r llall ar ba ddyddiad y daw'r cyfnod rheoli i ben, rhaid peidio â chymryd unrhyw amser rhwng cychwyn unrhyw achos a ddygir o dan reoliad 15 i adennill unrhyw gymorth ariannol a dalwyd mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd a phenderfyniad terfynol neu setliad yr achos hwnnw.
(b) darganfod a ddylai unrhyw wariant y gwneir cais am gymorth ariannol mewn perthynas ag ef gael ei gymeradwyo, ac i ba raddau; (c) darganfod a gydymffurfiwyd ag unrhyw ymrwymiadau a roddwyd gan fuddiolwr o dan reoliad 8 ac ag unrhyw amodau perthnasol, ac i ba raddau; (ch) darganfod a oes unrhyw swm o gymorth ariannol yn daladwy ac i ba raddau, neu a ddylai gael ei ostwng, ei ddal yn ôl neu ei adennill, ac i ba raddau, o dan reoliad 15 isod; (d) darganfod a oes tramgwydd o dan reoliad 17 wedi'i gyflawni neu wrthi'n cael ei gyflawni; neu (dd) darganfod fel arall, yn unol ag Erthygl 38 o Reoliad 1260/1999, a yw'r cymorth Cymunedol yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon ac yn gywir, a bydd y pwerau hyn yn arferadwy at y dibenion hyn ar hap, i archwilio yn y fan a'r lle neu i archwilio samplau yn ogystal â thrwy gyfeirio at amgylchiadau penodol achosion unigol neu at yr amgylchiadau a amheuir mewn achosion unigol.
(2) Caiff swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw safle, heblaw safle sy'n cael ei ddefnyddio fel annedd yn unig, sy'n safle perthnasol neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu ei fod yn safle perthnasol.
(b) archwilio unrhyw ddogfennau o'r fath ac, os oes unrhyw ddogfennau o'r fath yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau hynny, a'u harchwilio ac edrych i weld sut y maent yn gweithio; (c) ei gwneud yn ofynnol bod copïau o unrhyw ddogfennau perthnasol, neu o ddarnau ohonynt, yn cael eu cyflwyno; neu (ch) cymryd a chadw, am gyfnod rhesymol, unrhyw ddogfen berthnasol o'r fath y mae ganddo reswm dros gredu y gall fod eu hangen yn dystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn neu y gall fod yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu eu bod ar gael i'r Comisiwn yn unol ag Erthygl 38(6) o Reoliad 1260/1999 ac, os oes unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chyflwyno ar ffurf a all gael ei chymryd i ffwrdd, a honno'n ffurf y mae'n weladwy ac yn ddarllenadwy ynddi.
(6) Yn y rheoliad hwn -
Amddiffyn swyddogion
(b) nad oedd y cais a gymeradwywyd, (neu unrhyw ran ohono), yn gais (neu ran) yr oedd y buddiolwr yn gymwys i'w wneud; (c) bod y buddiolwr, neu gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr -
(ii) wedi rhwystro unrhyw swyddog awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer y pwerau o dan reoliad 13 uchod; neu (iii) wedi rhoi gwybodaeth am unrhyw fater sy'n berthnasol i roi'r gymeradwyaeth neu i wneud taliad sy'n berthnasol i'r gymeradwyaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn ystyr berthnasol;
(ch) bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i gychwyn cyn y dyddiad y rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol ganiatâd ysgrifenedig iddo gychwyn;
caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu'r gymeradwyaeth yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu caiff ostwng neu ddal yn ôl unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd ac, os oes taliad cymorth ariannol wedi'i wneud, caiff adennill, ar gais, swm sy'n gyfartal â'r cyfan neu ag unrhyw ran o'r taliad sydd wedi'i wneud.
(b) difrodi neu ddinistrio unrhyw offer perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu daliad digollediad neu iawndal; (c) morgais ar y cwch (heblaw morgais sy'n cael ei greu i godi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio'r cwch, sef morgais a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddo gael ei wneud); (ch) defnyddio'r cwch yn bennaf at ddibenion heblaw'r dibenion y cymeradwywyd y cymorth ariannol mewn perthynas â hwy; (d) gwaredu'r cwch neu unrhyw ran ohoni, ei hinjan neu unrhyw ran ohoni neu unrhyw offer perthnasol neu offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar y cwch neu mewn cysylltiad ag ef, boed drwy werthu neu drwy ddull arall; neu (dd) bod y cwch yn peidio â bod yn cwch bysgota Cymunedol.
(3) Dyma'r digwyddiadau a grybwyllir yn is-baragraff (g) o baragraff (1) uchod -
(b) difrodi neu ddinistrio unrhyw offer, safle, neu weithfeydd perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu daliad digollediad neu iawndal; (c) creu hawl mewn gwarant dros yr offer, y safle, neu'r gweithfeydd perthnasol (heblaw hawl mewn gwarant sy'n cael ei chreu er mwyn codi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio yr offer perthnasol, y safle, neu'r gweithfeydd perthnasol, sef hawl mewn gwarant a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn iddi gael ei gwneud); (ch) defnyddio'r offer, y safle neu'r gweithfeydd perthnasol yn bennaf at ddibenion heblaw'r dibenion y cymeradwywyd y cymorth ariannol mewn perthynas â hwy; neu (d) gwaredu'r offer, y safle neu'r gweithfeydd perthnasol neu unrhyw ran ohonynt, boed drwy werthu neu drwy ddull arall.
(4) Os yw is-baragraff (ff) neu (g) o baragraff (1) yn gymwys ac nad oes dim o'r is-baragraffau eraill yn y paragraff hwnnw yn gymwys, bydd yr uchafswm y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei adennill oddi ar fuddiolwr yn unol â pharagraff (1) yn swm sy'n hafal i'r rhan o'r cyfnod o ddeng mlynedd, neu yn ôl fel y digwydd, o'r cyfnod o bum neu chwe mlynedd sydd heb ddod i ben, wedi'i gyfrifo fel swm cyfrannol o gyfanswm y taliad cymorth ariannol.
(b) rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn rhesymol; ac (c) ystyried unrhyw sylwadau.
Adennill llog
(b) gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir o dan reoliad 13(5)(a) neu (c) yn fwriadol neu'n ddi-hid yn cyflwyno dogfen sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol,
bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(b) yn methu â chydymffurfio â chais a wneir o dan reoliad 12 uchod; neu (c) yn fwriadol yn gwrthod rhoi unrhyw wybodaeth, llenwi unrhyw ffurflen, neu gyflwyno unrhyw ddogfen pan ofynnir iddo neu iddi wneud hynny gan swyddog awdurdodedig (neu berson sy'n mynd gydag ef neu hi ac yn gweithredu o dan gyfarwyddiadau'r swyddog hwnnw) sy'n gweithredu i arfer pwer a roddir gan reoliad 13 uchod, neu sydd fel arall yn ei rwystro'n fwriadol,
bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(b) bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly wedi'i llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.
(6) Pan brofir bod tramgwydd o dan y rheoliad hwn sydd wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn ymhonni gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn cydategu'r ddeddfwriaeth Gymunedol fel y'i diffinnir a'i rhestri yn rheoliad 2 ("y ddeddfwriaeth Gymunedol"). Ymhlith pethau eraill, mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu ar gyfer talu cymorth ("cymorth Cymunedol") o'r Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddyd Pysgodfeydd ("FIFG") mewn perthynas â chategorïau penodol o fuddsoddiadau, projectau a gweithredoedd ("gweithrediadau perthnasol") yn y sector pysgodfeydd a dyframaethu ac yn y sector o'r diwydiant sy'n prosesu ac yn marchnata ei gynhyrchion. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu grantiau a chymorth Cymunedol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") tuag at wariant mewn perthynas â gweithrediadau perthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u cymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau hyn a'r ddeddfwriaeth Gymunedol, ac ar gyfer rheoleiddio'r taliadau hyn. Mae'r Rheoliadau (rheoliadau 3, 4 a 5) yn nodi gweithdrefn ar gyfer gwneud cais am gymeradwyo gweithrediadau perthnasol a gwariant a chymeradwyo'r rheiny at ddibenion talu cymorth Cymunedol ac, os penderfynir felly gan y Cynulliad Cenedlaethol, talu grant yn ychwanegol at y cymorth hwnnw (gan gyfeirio at gymorth a grant o'r fath gyda'i gilydd fel "cymorth ariannol"). Wrth benderfynu a ddylid talu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol, ac, os yw'n penderfynu talu'r grant hwnnw, faint ohono, mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i ofynion y ddeddfwriaeth Gymunedol (rheoliad 3). Ymhlith pethau eraill mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn mynnu bod yr Aelod-wladwriaethau yn cyrraedd lefel benodol o gyfranogiad ariannol er mwyn galluogi'r gweithrediadau perthnasol i fod yn gymwys i gael cymorth Cymunedol, ac mae'r lefelau cyfranogi angenrheidiol wedi'u nodi yn Atodiad IV i Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2792/1999 sy'n nodi'r rheolau a'r trefniadau manwl ynghylch cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd (OJ Rhif L337, 30.12.1999, t.10). Mae taliadau cymorth ariannol yn dibynnu ar ddarparu tystiolaeth ddigonol o'r gwariant a dynnwyd a bod y gweithrediad perthnasol wedi'i gyflawni'n briodol (rheoliad 6). Gwneir darpariaeth ynghylch dull talu'r cymorth ariannol (rheoliad 7) a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol bod person y mae ei gais wedi'i gymeradwyo yn rhoi ymrwymiadau (rheoliad 8). Gwneir darpariaeth (rheoliad 9) i bersonau y mae eu ceisiadau am gymorth ariannol wedi'u cymeradwyo ("buddiolwyr") roi unrhyw wybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ag y bydd yn gofyn yn rhesymol amdani o dro i dro ac (o dan reoliad 10) iddynt gadw cofnodion penodol am gyfnod o chwe blynedd (sydd yn gyfnod y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei estyn). Gwneir darpariaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol o dro i dro i Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr (yr "Awdurdod") arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn ac mewn perthynas â chadw cyfrifon a chofnodion gan yr Awdurdod os yw wedi rhoi neu wedi cael taliadau wrth arfer unrhyw swyddogaethau o'r fath (rheoliad 11). Pan ofynnir iddynt, mae'n ofynnol i geiswyr roi cymorth i swyddogion awdurdodedig y Cynulliad Cenedlaethol, sy'n cael pwerau mynediad a phwerau archwilio at ddibenion penodedig (rheoliadau 12 i 14). Darperir ar gyfer lleihau cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill o dan amgylchiadau penodol (rheoliadau 15 a 16). Mae'r Rheoliadau (rheoliadau 17 a 18) yn creu tramgwyddau ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag erlyn tramgwyddau mewn perthynas â datganiadau ffug a wneir i sicrhau cymorth ariannol, mewn perthynas â methu â chadw cofnodion neu â rhoi gwybodaeth y gofynnir yn rhesymol amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â methu â chydymffurfio â cheisiadau a wneir gan swyddogion awdurdodedig wrth iddynt arfer eu pwerau mynediad a'u pwerau archwilio ac mewn perthynas â rhwystro swyddogion o'r fath wrth iddynt arfer y pwerau hynny. Rhagnodir cosbau am y tramgwyddau hyn. Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae copïau o Benderfyniad Comisiwn Rhif C(2000) 2049 sy'n cymeradwyo'r Ddogfen Rhaglennu Sengl Amcan Un ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac o Benderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 4298 sy'n cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig mewn ardaloedd y tu allan i Amcan 1 (y cyfeirir at bob un ohonynt yn rheoliad 2) ar gael i'w harchwilio, ynghyd â'r Dogfennau Rhaglennu Sengl yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Notes: [1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back [3] OJ Rhif L389, 31.12.1992, t.1.back [4] OJ Rhif L161, 26.6.1999, t.1.back [5] OJ Rhif L161, 26.6. 1999, t.54.back [6] OJ Rhif L337, 30.12.1999, t.10.back [7] OJ Rhif L194, 27.7.1999, t.49.back [8] OJ Rhif L194, 27.7.1999, t.53.back [9] OJ Rhif L193, 29.7.2000, t.39.back [10] OJ Rhif L63, 3.3.2001, t.21.back [11] OJ Rhif L63, 6.3.2001, t.13.back
ISBN 0 11090463 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 19 April 2002 |