Gorchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002, ISBN 0 11090480 X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] sef adroddiad dyddiedig Mawrth 2001 ynghylch ei adolygiad ar ran o ardaloedd Cynghorau Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yng nghymunedau Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn ynghyd â'r cynigion y maent wedi'u llunio yn eu cylch; a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu; a chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud; yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi a chychwyn 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
Newid Ardaloedd Cymunedau ![]() (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw y bydd ardal yng nghymuned Llanhari yn Rhondda Cynon Taf yng nghyffiniau dau eiddo o'r enw "Brynderwen" a "Two Hoots" (a ddangosir â llinellau croes du ar y map ffiniau y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Penllyn ym Mro Morgannwg ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym. Mae printiau o'r map ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Rhondda Cynon Taf, The Pavillions, Parc Busnes Cambrian, Clydach Vale, Tonypandy, Rhondda Cynon Taf ac yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Ffordd Holton Y Barri, Bro Morgannwg ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol). Mae Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau digwyddol canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion fel hyn a'u gweithredu. Notes: [1] 1972 (p.70).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1976/246 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 O.S. 1978/247.back
ISBN 0 11090480 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 7 May 2002 |