Offerynnau Statudol 2002 Rhif 651 (Cy.68)

      Gorchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002, ISBN 0 11090478 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 651 (Cy.68)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002

  Wedi'i wneud 5 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] sef adroddiad dyddiedig Chwefror 2001 ynghylch ei adolygiad ar ran o ardaloedd Cynghorau Bwrdeistref Blaenau Gwent a Chaerffili yng nghymunedau Tredegar a Rhymni yn ardal Tafarnau-bach ynghyd â'r cynigion y maent wedi'u llunio yn eu cylch;

     a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu;

     a chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

     yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[2] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "Blaenau Gwent" ("Blaenau Gwent") yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent;

    ystyr "Caerffili" ("Caerphilly") yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili;

    ystyr "y map ffiniau" ("the boundary map") yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd "Map o Orchymyn Blaenau Gwent a Chaerffili (Tredegar a Rhymni) 2002" a sydd wedi'i hadneuo yn unol a Rheoliadau 5 o'r Rheoliadau;

Newid Ardaloedd Cymunedau
     3. Caiff y rhan honno o gymuned Rhymni sydd yng Nghaerffili ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau ei gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a'r gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Tredegar ym Mlaenau Gwent.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Edwina Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

5 Mawrth 2002







NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw y bydd ardal Tafarnau-bach yng nghymuned Rhymni yng Nghaerffili (a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Tredegar ym Mlaenau Gwent.

Mae printiau o'r map ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy, Blaenau Gwent ac yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Nhredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, Caerffili ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau digwyddol, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion fel hyn a'u gweithredu.


Notes:

[1] 1972 (p.70).back

[2] (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1976/246 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 O.S. 1978/247.back



English version



ISBN 0 11090478 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 7 May 2002