Rheoliadau Cytundebau Cymhorthdal Gwasanaeth (Tendro) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cytundebau Cymhorthdal Gwasanaeth (Tendro) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090449 4. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 91(1) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cytundebau Cymhorthdal Gwasanaeth (Tendro) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002. (2) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio Rheoliad 3 o Reoliadau Cytundebau Cymhorthdal Gwasanaeth (Tendro) 1985 2. Yn lle rheoliad 3 o Reoliadau Cytundebau Cymhorthdal Gwasanaeth (Tendro) 1985[3] rhoddir y canlynol:
(2) For the purposes of this regulation the specified limit in respect of any financial year is 40 per cent of the authority's total budgeted expenditure for service subsidies for that financial year and if any question arises as to the amount of the specified limit in relation to an authority for a financial year the certificate of the chief financial officer of that authority as to its total budgeted expenditure for service subsidies for that financial year shall be conclusive for the purposes of this regulation. (3) In determining, for the purposes of paragraph (1) of this regulation, the amount or aggregate amount of service subsidies payable in any financial year under a service subsidy agreement there shall be included any specific amount the payment of which is dependent on a contingency. (4) This regulation has effect only in relation to Wales."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Reoliadau Cytundebau Cymhorthdal Gwasanaeth (Tendro) 1985 ("y prif reoliadau") fel y'u diwigiwyd gan Reoliadau Cytundebau Cymhorthdal Gwasanaeth (Tendro) (Diwygio) 1989, 1994 a 1998. Mae'r darpariaethau yn y prif reoliadau sy'n cael eu diwygio yn darparu ar gyfer eithriadau i'r gofyniad i o dan adran 89 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 i dendro os yw awdurdodau lleol yn dod i gytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau lleol sy'n destun cymhorthdal gwasanaeth. Mae Rheoliad 3 o'r prif reoliadau yn darparu ar gyfer esemptiad rhag y gofyniad i dendro os yw'r cytundeb yn darparu am daliadau llai na £12,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis oni bai bod y swm agregedig y mae gweithredwr gwasanaeth yn ei gael gan yr awdurdod lleol hwnnw o dan gytundebau felly yn fwy na £70,000. Yn lle hynny, mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn darparu i'r eithriad fod yn gymwys i unrhyw gytundeb neu gytundebau lle nad yw'r taliadau odanynt yn fwy na 40 y cant o gyfanswm y gwariant y mae awdurdod wedi'i gyllidebu ar gyfer cytundebau felly mewn unrhyw flwyddyn ariannol honno. Notes: [1] 1985 p. 67.back [2] Mae adran 137(1) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 yn diffinio "regulations" yn y Ddeddf honno fel "regulations made by the Secretary of State." Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau o dan adran 91(1) o'r Ddeddf honno, mewn perthynas â Chymru, wedi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11090449 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 3 April 2002 |