Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 © Crown Copyright 2002 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002, ISBN 0 11090447 8. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau addysg lleol yng Nghymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
n â chyflogi athrawon sydd mewn grym o bryd i'w gilydd o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[6] â chymhwyster i gael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol o'r math a ddisgrifir yn is-adran (12) o'r adran honno;
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(b) byddai gwariant y sawl sy'n derbyn y taliadau neu unrhyw ran ohonynt yn wariant a ragnodwyd petai'n wariant yr awdurdod,
rhaid i'r taliadau hynny, i'r graddau hynny, gael eu trin yn wariant a ragnodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(4) Os cyflwynir cais sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd iddo gael ei dynnu yn ystod y cyfnod sy'n ymestyn o 1 Ionawr hyd at 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn o dan baragraff (1), ceir gwneud yn ddi-oed unrhyw daliad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno nad yw'n fwy na thri chwarter o'r grant y gwnaed cais amdano mewn perthynas â'r gwariant hwnnw, ac eithrio pan fydd yn penderfynu fel arall, ond ni thelir grant pellach ar gyfer y gwariant hwnnw hyd nes cyflwyno datganiad yn unol â pharagraff (5)(a).
(b) sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif wedi'i llofnodi gan archwilydd a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998[11] ac sy'n ardystio bod y manylion a roddwyd yn y datganiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn, ym marn yr archwilydd, wedi'u datgan yn deg a bod y gwariant a dynnwyd wedi'i gymeradwyo at ddibenion adran 484 o Ddeddf 1996[12].
(6) Ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 31 Rhagfyr mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ond nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b) am y flwyddyn honno.
(b) symiau a ddyrennir gan yr awdurdod i gwrdd â gwariant a ragnodwyd ac a gymeradwywyd yn unol â rheoliad 3,
i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir. 1. Darparu -
(b) cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar gyda golwg ar godi safonau cyrhaeddiad disgyblion ym mhynciau mathemateg, Cymraeg, gwyddoniaeth, Saesneg, technoleg, addysg gorfforol, hanes, daearyddiaeth, celf, cerddoriaeth, ieithoedd tramor modern ac addysg grefyddol, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn safonau cyrhaeddiad disgyblion gwryw a benyw; (c) cefnogaeth a hyfforddiant i weithredu'r trefniadau ar gyfer asesu disgyblion yn yr ysgolion mewn perthynas â thargedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol o dan Bennod II o Ran V o Ddeddf 1996[15], neu mewn perthynas â chynllun asesu sylfaenol; (ch) hyfforddiant i athrawon ac athrawesau mewn gweinyddu profion y Cwricwlwm Cenedlaethol, gweinyddu a marcio tasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac asesu athrawon ac athrawesau mewn perthynas â chyfnodau allweddol 2 a 3 yn unol â gofynion erthyglau 4 i 9 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997[16] ac erthyglau 4 i 12 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997[17]; (d) hyfforddiant i athrawon ac athrawesau mewn cynnal asesiadau athrawon ac athrawesau mewn perthynas â chyfnod allweddol 1 yn unol â gofynion erthyglau 4 i 8 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002[18]) a darparu staff ychwanegol i gynorthwyo ysgolion yn ystod y cyfnod pan fydd athrawon ac athrawesau wrthi gyda'r gweithgareddau hynny; (dd) hyfforddiant i athrawon ac athrawesau gyrfaoedd, a hyfforddiant i athrawesau ac athrawon eraill wrth ddarparu addysg a chyfarwyddyd galwedigaethol a gyrfaoedd mewn ysgolion i bobl ifanc ym Mlynyddoedd 9 i 13; (e) cefnogaeth i weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i ddatblygu rhaglenni effeithiol o addysg gysylltiedig â gwaith (gan gynnwys hyfforddiant a datblygu i athrawon ac athrawesau) yn unol â'r fframwaith yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru[19] yn 2000 o dan y teitl "Fframwaith ar gyfer Addysg Gysylltiedig â Gwaith i Bobl Ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru"[20]; (f) hyfforddiant i athrawon ac athrawesau sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu addysg bersonol a chymdeithasol mewn ysgolion, yn unol â'r fframwaith yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru yn 2000 o dan y teitl "Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol"[21], sydd yn cynnwys addysg ar gyfleoedd cyfartal ac addysg iechyd a rhyw (gan gynnwys camddefnyddio cyffuriau); (ff) hyfforddiant i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sydd wedi'i anelu at eu cymhwyso (neu eu cymhwyso'n well) at arwain, neu gynorthwyo i arwain, gwasanaethau crefyddol yn yr ysgolion hynny yn unol ag adran 70 o Ddeddf 1998; (g) cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar gyda golwg ar godi safonau cyrhaeddiad disgyblion yn Arholiadau Safon Uwch a Safon Uwch Atodol y Dystysgrif Gyffredinol Addysg, yn enwedig mewn pynciau gwyddonol a thechnolegol, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn y safonau cyrhaeddiad hynny rhwng disgyblion benyw a gwryw; (ng) cefnogaeth i ysgolion sy'n cynnig cyrsiau galwedigaethol sy'n arwain at Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol, neu sy'n ymbaratoi at gyflwyno cyrsiau o'r fath, gan gynnwys darparu hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar; ac (h) cefnogaeth yn ystod Blwyddyn Gwyddoniaeth Cymru i fentrau sy'n codi proffil a dealltwriaeth gwyddoniaeth a thechnoleg ac yn hybu cysylltiadau rhwng ysgolion, addysg uwch a diwydiant.
2.
(b) Cefnogaeth i athrawon ac athrawesau mewn ysgolion uwchradd wrth sefydlu system effeithiol i adolygu a chofnodi cyraeddiadau disgyblion. (c) Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol a phersonau a gyflogir mewn ysgolion yn y medrau y mae'n rhaid iddynt wrthynt i'w galluogi i osod targedau, gwella cynlluniau datblygu ysgol a gosod amcanion ar gyfer gwelliant ym mherfformiad ysgol ym mhob pwnc cwricwlwm, ac i ymdrin ag unrhyw wendidau a nodwyd mewn adroddiad o arolygiad a wnaed gan aelod o'r Arolygiaeth neu arolygydd cofrestredig. (ch) Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol mewn medrau rheoli ac arwain. (d) Hyfforddiant personau a gyflogir yn gynorthwywyr ystafell ddosbarth. (dd) Mesurau i ddarparu cymorth yn yr ystafell ddosbarth a chefnogaeth i athrawon ac athrawesau cymwysedig mewn ysgolion a gynhelir, gan gynnwys cyflogi cynorthwywyr ystafell ddosbarth. (e) Hyfforddiant i staff ysgolion mewn defnyddio meddalwedd ar gyfer y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC) newydd pan gaiff ei gyflwyno.
3.
(b) Adolygiad o ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant o dan bum mlwydd oed.
4.
(b) Projectau i wella safonau llythrennedd a rhifedd teuluoedd drwy annog rhieni i gynorthwyo eu plant i ddysgu darllen ac ysgrifennu. (c) Cefnogaeth i sefydlu a rhedeg ysgolion haf ar lythrennedd ac ysgolion haf ar rifedd. (ch) Camau i ddatblygu a gweithredu strategaethau i wella safonau llythrennedd yn y Gymraeg a'r Saesneg a safonau rhifedd yn yr ysgolion.
5.
(b) Projectau i feithrin ailintegreiddio neu symud personau ifanc ymlaen i ddulliau o addysg neu hyfforddiant sy'n addas i'w hanghenion, eu galluoedd a'u doniau. (c) Mesurau i ddarparu cyfartaledd cyfle addysgol i bob gr p ethnig lleiafrifol, gan gynnwys yn benodol fesurau i gynorthwyo disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt a mesurau i wella safonau cyrhaeddiad.(ch) Camau i wella cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion, a lleihau nifer y plant sy'n cael eu gwahardd ohonynt, ac i wella'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y mae eu hymddygiad yn creu anawsterau i'r ysgolion hynny. (d) Hyfforddiant i athrawon ac athrawesau sydd â chyfrifoldeb penodol dros amddiffyn plant mewn ysgolion, a hyfforddiant i staff arall mewn ysgolion, pa un a ydynt yn addysgu neu beidio, ac i staff gwasanaethau cynnal awdurdodau addysg lleol mewn perthynas â chamau i gefnogi mesurau a leolir mewn ysgolion i amddifyn plant. (dd) Camau i wella cyraeddiadau addysgol plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol o fewn ystyr Deddf Plant 1989[22].
6.
(b) Mesurau i helpu i ddod o hyd i ddeunyddiau addysgu ac asesu cyfrwng Cymraeg ar gyfer anghenion addysgol arbennig, a'u lledaenu. (c) Annog partneriaethau, a hybu cydweithredu at ddibenion addysgol, rhwng rhieni, awdurdodau addysg, ysgolion, awdurdodau iechyd, adrannau gwasanaethau cymdeithasol a chyrff gwirfoddol er mwyn sicrhau addysg well i blant ag anghenion addysgol arbennig, drwy ddefnyddio deunyddiau, technoleg gwybodaeth ac amser ychwanegol y staff i gryfhau mewnbwn yr awdurdod addysg i'r cyfarfodydd adolygu blynyddol ac i gefnogi darparu gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith. (ch) Mesurau i hybu presenoldeb plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd. (d) Cefnogaeth i ddatblygu cysylltiadau rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion prif-ffrwd. (dd) Cefnogaeth i blant ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol neu sydd mewn perygl o ddatblgyu anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. (e) Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir ac i'r rheiny sy'n cael eu cyflogi yn yr ysgolion hynny fel athrawon ac athrawesau ac mewn swyddi eraill, wrth ddatblygu polisïau ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig. (f) Camau i ddarganfod a sefydlu gwasanaethau partneriaeth rhieni ar gyfer gwybodaeth a chyngor am anghenion addysgol arbennig. (ff) Camau i sefydlu trefniadau cymodi lleol ar gyfer atal a datrys anghytundebau rhwng rhieni, ysgolion ac awdurdodau addysg ynghylch y ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig.
7.
Hyfforddiant athrawon ac athrawesau i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg y pynciau y mae'n ofynnol eu haddysgu o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(b) Cefnogaeth i sefydlu a rhedeg, y tu allan i oriau ysgol, weithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir, gan gynnwys gweithgareddau ysgogiadol a chreadigol, chwaraeon a chlybiau gwaith cartref ac astudio.
9.
(b) Darparu a gosod technoleg a chyfarpar gwybodaeth a chyfathrebu a cheblau ar gyfer y dechnoleg honno a'r cyfarpar hwnnw, rhaglenni a data. (c) Cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant i athrawon, athrawesau ac aelodau eraill o staff a leolir yn yr ysgol ar ddefnyddio technoleg a chyfarpar gwybodaeth a chyfathrebu, rhaglenni a data i wella addysgu a dysgu yn holl bynciau'r cwricwlwm. (ch) Mesurau i'w gwneud yn haws i bobl gael defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
10.
(b) Hyfforddiant fel mentoriaid i benaethiaid. (c) Datblygiad proffesiynol a hyfforddiant athrawon ac athrawesau (ac eithrio penaethiaid), gan gynnwys datblygiad proffesiynol a hyfforddiant gyda golwg ar ymgeisio am y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth. (ch) Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ym maes medrau rheoli ac arwain athrawon, athrawesau a phobl a gyflogir mewn ysgolion yn ysgrifenyddion, ysgrifenyddesau a bwrsariaid ac mewn swyddi gweinyddol eraill. (d) Hyfforddiant i bawb sy'n ymwneud â threfnaidau gwerthuso athrawon a hyfforddi llywodraethwyr, penaethiaid ac athrawon i'w galluogi i ddatblygu a gweithredu polisïau rheoli perfformiad ysgolion. (dd) Cefnogaeth i athrawon ac athrawesau cymwysedig sydd newydd gymhwyso. (e) Hyfforddiant ar roi cyngor, cymorth a chefnogaeth i bersonau sy'n ceisio mynd yn athrawon cymwysedig neu gofrestredig neu yn athrawesau cymwysedig neu gofrestredig. (f) Hyfforddiant i bersonau y rhoddwyd trwydded neu awdurdodiad i addysgu iddynt o dan reoliadau sydd mewn grym am y tro o dan adran 218(3)[23] o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 i'w galluogi i fynd yn athrawon cymwysedig neu'n athrawesau cymwysedig. (ff) Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol wrth adolygu perfformiad athrawon ac athrawesau (gan gynnwys penaethiaid a dirprwy penaethiaid).
11.
Darparu hyfforddiant a chyngor i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sy'n ymwneud â chamau y gellid eu cymryd i wella diogelwch tir ac adeiladau ysgolion a diogelwch personol disgyblion a phersonau sy'n gweithio mewn ysgolion. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sydd yn darparu ar gyfer talu grantiau yngl n â gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion addysgol, neu mewn cysylltiad â hwy, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylid annog gwariant o'r fath er lles addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r fath grantiau. Maent yn ailddeddfu, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001. Amlinellir darpariaethau'r Rheoliadau, a'r newidiadau i'r Rheoliadau cynt, isod.Mae Rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn a chymwyso. Daw'r Rheoliadau i rym ar 1 Ebrill 2002 ac maent yn gymwys i Gymru'n unig. Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau. Mae Rheoliad 3 yn darparu nad yw grantiau'n daladwy ond ar gyfer gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg lleol at y dibenion, neu mewn cysylltiad â'r dibenion, a nodir yn yr Atodlen yn ystod blwyddyn ariannol, a dim ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau. Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu grantiau yngl n â gwariant gan awdurdodau addysg lleol i dalu trydydd partïon am wariant ganddynt os byddai'r gwariant hwnnw'n gymwys ar gyfer grant petai'n wariant gan yr awdurdod.Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer cyfradd y grantiau sy'n daladwy. Mae Rheoliadau 6 i 8 yn nodi'r amodau sy'n gymwys ar gyfer talu grantiau, gan gynnwys gofynion archwilio. Mae'r dyddiad yn rheoliad 6(5) ar gyfer cyflwyno datganiad a thystysgrif archwilydd i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei newid o 31 Gorffennaf i 31 Hydref. Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol fynnu i awdurdod addysg lleol roi gwybodaeth iddo. Mae Rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad osod gofynion ychwanegol. Mae Rheoliad 11 yn caniatáu i'r Cynulliad fynnu i awdurdodau addysg lleol ddirprwyo penderfyniadau ar wario i gyrff llywodraethu ysgolion. Mae Rheoliad 12 yn diddymu'r Rheoliadau blaenorol yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol. Mae'r Atodlen yn darparu ar gyfer dibenion y mae grantiau'n daladwy atynt, neu'n gysylltiedig â hwy. Mae'r prif newidiadau i'r Atodlen fel a ganlyn:
Notes: [1] 1996 p.56; diwygiwyd adrannau 484 a 489 gan adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 125 a 126 o Atodlen 30 iddi. I gael ystyr "regulations" gweler adran 579(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [4] O.S. 1999/2817 (Cy.18).back [5] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau mewn grym oedd, ar gyfer Cymru, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)), ac ar gyfer Lloegr, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).back [6] Diwygiwyd adran 218 (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan baragraff 49 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13); gan adran 14(1) a (3) o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 8(4) o Atodlen 2 iddi; gan baragraff 76 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996; gan adran 49(1)-(4) o Ddeddf Addysg 1997; a chan baragraff 17 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; a chan adrannau 10, 11, ac 13 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).back [8] 1997 p.44. Diwygiwyd adran 15 gan baragraff 209 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back [10] Diwygiwyd adran 337(1) gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back [12] Diwygiwyd adran 484 gan adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 125 o Atodlen 30 iddi.back [13] O.S. 2001/891 (Cy.42).back [15] Diwygiwyd Pennod II gan baragraffau 26-28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 a chan baragraffau 87-91 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back [16] O.S. 1997/2009 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1977.back [17] O.S. 1997/2010 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1976.back [19] Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1) (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.back [22] 1989 p.41; diwygiwyd adran 22(1) gan adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).back [23] Diwygiwyd adran 218(3) gan adran 14(3) o Ddeddf Addysg 1994 a chan adran 10 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.back
ISBN 0 11090447 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 26 March 2002 |