Offerynnau Statudol 2002 Rhif 331 (Cy.44)

      Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002


      © Crown Copyright 2002

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090436 2. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 331 (Cy.44)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 13 Chwefror 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(6B)(b) a (c)(ii) a 47(3A)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru [2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "Deddf 1984" ("1984 Act") yw Deddf Telathrebu 1984[4]);

    ystyr "Deddf 1988" ("1988 Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

    ystyr "gorsaf betrol" ("petrol filling station") yw safle lle mae petrol neu danwyddau eraill ar gyfer moduron yn cael eu hadwerthu i'r cyhoedd yn gyffredinol, yn danwydd ar gyfer cerbydau modur sydd wedi'u bwriadu neu wedi'u haddasu i'w defnyddio ar ffyrdd;

    mae "offer telathrebu" ("telecommunications apparatus") yn cynnwys - 

    (a) offer telathrebu o fewn yr ystyr a roddir i "telecommunications apparatus" gan Atodlen 2 i Ddeddf 1984 sy'n cael ei ddefnyddio, neu sydd wedi'i ddylunio i gael ei ddefnyddio, ar gyfer

      (i) telegraffiaeth ddiwifr o fewn yr ystyr a roddir i "wireless telegraphy" gan adran 19 o Ddeddf 1949, neu

      (ii) darlledu; a

    (b) strwythurau ar lun cytiau neu adeiladau eraill (gan gynnwys strwythurau sy'n ffurfio rhan yn unig o adeilad) sy'n cael eu defnyddio, neu sydd wedi'u dylunio i gael eu defnyddio dim ond i gynnwys offer sy'n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a);

ynghyd ag unrhyw offer atodol a feddiennir dim ond at ddibenion person sydd wedi'i drwyddedu i redeg system delathrebu o dan adran 1 o Ddeddf 1949 neu adran 7 o Ddeddf 1984;

    ystyr "peiriant arian awtomatig" ("automatic teller machine") yw cyfleuster awtomataidd sy'n cynnig cyswllt hunan-wasanaeth ag amrediad o wasanaethau banc;

    ystyr "siop gyffredinol" ("general store") yw safle lle rhedir masnach neu fusnes sy'n cynnwys yn bennaf adwerthu bwyd i bobl ei fwyta (heblaw melysion) a nwyddau ty cyffredinol;

    ystyr "swyddfa bost" ("post office") yw safle a ddefnyddir at ddibenion darparydd gwasanaethau cyffredinol o fewn yr ystyr a roddir i "universal service provider" gan Ddeddf Gwasanaethau Post 2000[5] ac mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth post cyffredinol o fewn yr ystyr a roddir i "universal postal service" gan y Ddeddf honno; ac

    ystyr "tafarn" ("public house") yw safle y mae angen mewndrwydded ynadon ar ei gyfer o fewn yr ystyr a roddir i "justices' on-licence" gan Ddeddf Trwyddedu 1964[6] (heblaw trwydded Rhan IV o fewn yr ystyr a roddir i "Part IV licence" gan y Ddeddf honno).

Terfyn gwerth trethiannol
     3. Mewn perthynas â hereditament a ddangosir yn rhestr ardrethu annomestig awdurdod bilio yng Nghymru - 

Amodau ar gyfer rhyddhad
    
4. Yr amodau a ragnodir at ddibenion adran 43(6B)(c)(ii) o Ddeddf 1988 yw nad yw'r hereditament - 

Diddymu
    
5. Mae Erthygl 3 o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Aneddiadau Gwledig) (Cymru) 1998[7] wedi'i ddiddymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan adran 42A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1998 ("y Ddeddf"), mae'n ofynnol i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru ("awdurdod bilio") lunio a chadw rhestr ar gyfer pob blwyddyn daladwy ("rhestr aneddiadau gwledig") sy'n enwi'r aneddiadau gwledig sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol o fewn ardal yr awdurdod, ac sydd ym marn yr awdurdod heb boblogaeth o fwy na 3,000 ar 31 Rhagfyr yn union cyn dechrau'r flwyddyn ariannol daladwy o dan sylw ac sydd yn y flwyddyn ariannol honno yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal sydd wedi'i dynodi'n ardal wledig at ddibenion yr adran.

Yr ardaloedd gwledig yng Nghymru sydd wedi'u dynodi at ddibenion adran 42A o'r Ddeddf yw'r rhai a grybwyllir yn yr Atodlen i Orchymyn Ardrethu Annomestig (Aneddiadau Gwledig) (Cymru) 1998 ("Gorchymyn 1998").

Yn rhinwedd darpariaethau adran 43(6A) a (6B) o'r Ddeddf mae swm taladwy yr ardreth annomestig am ddiwrnod taladwy yn cael ei leihau os yw'r hereditament o dan sylw, ar y diwrnod o dan sylw, o fewn anheddiad a enwyd yn rhestr yr awdurdod bilio o aneddiadau gwledig am y flwyddyn ariannol daladwy ac nad yw gwerth trethiannol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar ddechrau'r flwyddyn honno yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan orchymyn ac os yw naill ai'r cyfan neu ran o'r hereditament yn cael eu defnyddio ar y diwrnod o dan sylw yn siop gyffredinol gymwys neu yn swyddfa bost gymwys neu os oes unrhyw amodau a ragnodir gan orchymyn wedi'u bodloni.

Yn rhinwedd darpariaethau adran 47(1), (3) a (3A) o'r Ddeddf, gall y swm taladwy ar gyfer diwrnod taladwy gael ei leihau os oes penderfyniad gan yr awdurdod bilio ar waith yn ystod y diwrnod taladwy neu yn ystod cyfnod sy'n cynnwys y diwrnod taladwy, i'r perwyl bod adran 47 yn gymwys mewn perthynas â'r hereditament o dan sylw ac os yw'r hereditament o dan sylw, ar ddiwrnod taladwy, o fewn anheddiad sydd wedi'i enwi yn rhestr aneddiadau gwledig yr awdurdod bilio am y flwyddyn ariannol daladwy y mae'r diwrnod hwnnw yn digwydd ynddi ac os nad yw gwerth trethiannol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol daladwy yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan orchymyn.

Yn ôl Erthygl 3 o Orchymyn 1998, rhagnodir mai £5,000 yw uchafswm y gwerth trethiannol at ddibenion adran 43(6B)(b) a rhagnodir mai £10,000 yw uchafswm y gwerth trethiannol at ddibenion adran 47(3A)(b).

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Erthygl 3 o Orchymyn 1998 ac yn rhagnodi mai £9,000 (yn achos tafarn neu orsaf betrol) a £6,000 (mewn unrhyw achos arall) yw'r uchafswm at ddibenion adran 43(6B)(b) ac mai £12,000 yw'r uchafswm at ddibenion adran 47(3A)(b).

Hefyd, mae'r Gorchymyn yn peri bod rhyddhad ardrethi gorfodol ar gael yn ehangach o dan adran 43(6A) drwy ragnodi, at ddibenion adran 43(6B)(c)(ii), yr amodau nad yw hereditament yn cael ei ddefnyddio dim ond i arddangos hysbysebion neu ar gyfer parcio cerbydau modur neu ar gyfer offer telathrebu neu beiriant arian awtomatig ac nad yw'n cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n rhannol fel siop gyffredinol neu swyddfa bost ac nad yw'n perthyn i'r Goron.


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1949 p. 54.back

[4] 1984 p. 12.back

[5] 2000 p. 26. Gweler adran 4.back

[6] 1964 p. 26. Gweler adran 1.back

[7] O.S. 1998/2963.back

[8] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090436 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 6 March 2002